Neidiwch i’r prif gynnwys

Blog personol: Sut mae technoleg a hyfforddiant Cymunedau Digidol Cymru yn helpu un intern Project SEARCH

Darparodd Cynorthwyydd Cymunedol Clwyd Alyn, Erin O'Donnell, gyda'i CDC Chromebook

Helo! Erin ydw i, intern o Project SEARCH, ac rydw i ar leoliad ar hyn o bryd fel Cynorthwyydd Cymunedol Clwyd Alyn. Mae gen i awtistiaeth, dyspracsia ac anabledd dysgu ysgafn. Mae fy anableddau yn rhan ohonof i ond mae mwy i mi na hynny! Rydw i angen cymorth gyda rhai pethau, ond rydw i’n cael help gyda nhw ac rydw i’n gallu gwneud llawer o bethau gwych oherwydd fy anableddau. Ni fyddwn i am i bethau fod fel arall.

Dydw i ddim yn gwybod pa waith hoffwn i ei wneud yn y dyfodol, ond dw i’n gwybod y byddai fy swydd ddelfrydol yn unrhyw beth sy’n helpu eraill ac yn cael effaith bositif ar eu bywydau.

Sut wnes i ddechrau gyda Project SEARCH

Mae Hft yn gweithio mewn partneriaeth â Clwyd Alyn Housing Ltd a Chyngor Sir y Fflint i ddarparu Project SEARCH Sir y Fflint, sy’n helpu pobl ifanc lleol gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gael cyflogaeth â thâl, gyda chymorth hyfforddwr swyddi.

Fe wnes i ddod o hyd i Project SEARCH yn 2020 ar ôl dechrau cwrs coleg yng Ngholeg Cambria mis Medi’r un flwyddyn, a phenderfynu nad dyna’r peth iawn i mi. Awgrymodd aelod o staff y coleg y dylwn i roi cynnig ar Project SEARCH, a dyna’r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed!

Ers dechrau gyda Project SEARCH rydw i wedi gweithio ar fagu hyder a hunanhyder i wneud pethau roeddwn i’n eu hofni ofn neu’n teimlo’n nerfus yn eu gwneud. Mae gen i gymaint mwy o hyder nawr ynof i fy hun ac yn teimlo y byddwn yn gallu troi fy llaw at unrhyw beth – ac mae llawer o hynny oherwydd y staff hyfryd yn Project SEARCH! Fy nod yn yr hirdymor yw bod yn hapus a chyfforddus mewn swydd â thâl a chael cymorth hefyd.

Cynorthwyydd Cymunedol Clwyd Alyn

Mae Clwyd Alyn yn gweithio mewn partneriaeth â Project SEARCH ac yn un o’r busnesau sy’n derbyn pobl ganddynt. Clywais am Clwyd Alyn wrth weithio ar Project SEARCH gan fod rhai o leoliadau gwaith Project SEARCH gyda Clwyd Alyn (er enghraifft, mae Project SEARCH wedi cael cynnig lleoliad gwaith i Gynorthwyydd Arlwyo yn y Court House Café, yn ogystal â’r rôl Cynorthwyydd Cymunedol dw i ynddi nawr!).

Ers i mi fod gyda Clwyd Alyn, rydw i wedi dysgu mai cymdeithas dai yw Clwyd Alyn sy’n gweithio gyda phreswylwyr lleol a phartneriaid i helpu i fynd i’r afael â thlodi ledled cymunedau’r Gogledd.

Mae Clwyd Alyn wedi rhoi’r cyfle i mi wneud lleoliad gwaith gyda nhw, gan weithio fel Cynorthwyydd Cymunedol, ac fel rhan o fy swydd rydw i wedi:

  • Gwneud posteri gan ddefnyddio Canva i hyrwyddo digwyddiadau/gweithgareddau cymunedol
  • Ysgrifennu astudiaethau achos am fy nghyd-interniaid a chyhoeddi’r rhain ar y cyfryngau cymdeithasol, i godi ymwybyddiaeth am Project SEARCH Sir y Fflint
  • Cyfarfod pobl ac asiantaethau partner sy’n gweithio’n galed i wneud eu cymunedau yn lleoedd brafiach i fyw ynddynt

Rydw i wir wedi mwynhau mynd allan i’w cymunedau, ond rydw i wedi’i chael hi’n anodd siarad gyda phobl newydd. Mae angen i mi fagu hyder a dw i’n credu y bydd pethau’n dod yn haws i mi.

Ar fy lleoliad rydw i hefyd wedi mwynhau dysgu sut i gyfweld fy nghyd-fyfyrwyr o Project SEARCH, ac yna ysgrifennu astudiaethau achos ar sut hwyl maen nhw’n ei gael yn eu cylch cyntaf a beth hoffen nhw ei wneud yn y dyfodol. Rydw i hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio Sprout Social i gyhoeddi’r rhain ar wahanol wefannau cyfryngau cymdeithasol.

Dyma dri dolen (1,2,3) i astudiaethau achos Erin, a geir ar dudalen Facebook Clwyd Alyn.

Sut mae Cymunedau Digidol Cymru yn helpu

Clywais am Cymunedau Digidol Cymru drwy Project SEARCH ac yn ystod fy nghyfnod yn gweithio i Clwyd Alyn, maen nhw wedi bod yn ddigon hael i roi Chromebook i mi a fy nghyd-fyfyrwyr ar Project SEARCH.

Yn ystod fy nghyfnod gyda Project SEARCH, rydw i wedi cwblhau cwrs diogelwch ar-lein gyda Cymunedau Digidol Cymru a oedd yn llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol. Cefais flas go iawn arno, er i ni gael ambell i broblem dechnegol ar y diwrnod. Mae’r hyfforddiant wedi bod o fudd i mi gan fy mod i wedi dysgu mwy am gadw fy hun yn ddiogel ar-lein, sy’n bwysig iawn. Ar fy lleoliad, byddaf nawr yn cwblhau rhagor o hyfforddiant ar-lein drwy Cymunedau Digidol Cymru, er mwyn i mi gael dysgu llawer o sgiliau newydd a fydd yn fy helpu mewn swyddi yn y dyfodol.

Mae fy Chromebook wedi fy helpu gyda fy lleoliad Cynorthwyydd Cymunedol – er enghraifft mae’n fy ngalluogi i gwblhau’r gwaith rydw i wedi’i gael gan fy mentoriaid a gan Project SEARCH ac mae’n fy helpu i ddysgu sgiliau digidol newydd.

Fy nodyn i gyflogwyr…  

I unrhyw sefydliad sy’n ystyried rhoi cyfle i rywun gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth, rhowch gyfle iddyn nhw, da chi! Dyw’r ffaith eu bod efallai angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ac yn meddwl mewn ffordd wahanol i chi ddim yn golygu na fydden nhw o werth i’ch tîm. Yn wir, gan fod pobl ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth yn aml yn meddwl mewn ffyrdd gwahanol (“y tu allan i’r bocs”) efallai y byddant yn awgrymu gwahanol ffyrdd o wneud pethau a/neu gynnig datrysiadau gwych nad oedd wedi croesi’ch meddwl!

Ysgrifennwyd gan Erin O’Donnell, intern o Project SEARCH gyda chymdeithas dai Clwyd Alyn.

Am ddatblygu eich sgiliau digidol hefyd?

Dyma ddolen i gwrs Sgiliau Digidol Hanfodol Cymunedau Digidol Cymru