Neidiwch i’r prif gynnwys

Menywod ym Maes Digidol – Aelodau tîm CDC yn siarad am eu profiadau fel menywod sy’n gweithio yn y sector digidol

Mae'r Hyfforddwr Cynhwysiant Digidol, Ema Williams wedi ysgrifennu am ei phrofiad fel rhan o'r panel Holi ac Ateb Menywod ym Maes Digidol yng Ngŵyl Sgiliau Digidol Gogledd Cymru, ynghyd â'r Cynghorydd Cynhwysiant Digidol, Lon Moseley.

Menywod ym maes digidolTua diwedd mis Tachwedd, gwahoddwyd Lon a minnau gan Gyrfa Cymru i banel holi ac ateb dwyieithog i siarad am ein profiadau fel menywod sy’n gweithio ym maes digidol yng ngogledd Cymru. Roedd y digwyddiad yn rhan o Ŵyl Sgiliau Digidol Gogledd Cymru, a gynhaliwyd rhwng 22 a 27 Tachwedd 2021, a oedd yn cynnwys gweithdai, tiwtorialau a sgyrsiau i annog pobl i ddysgu sgiliau digidol newydd.

Prif nod panel Gyrfa Cymru oedd sicrhau bod gan fyfyrwyr benywaidd ac oedolion di-waith y wybodaeth i ddilyn gyrfa ym maes digidol, diwydiant sydd yn hanesyddol wedi cael cydbwysedd anghymesur rhwng y rhywiau (a amlygwyd gan y ffaith mai dim ond 5% o swyddi arwain yn y sector technoleg sy’n cael eu meddu gan fenywod, yn ôl ymchwil a wnaed gan PWC).

Cynhaliwyd y panel dros ddeuddydd; ymunodd Lon â phanel Cymraeg ddydd Mercher, 24 Tachwedd, ac ymunais â’r panel Saesneg ddydd Iau, 25 Tachwedd. Roedd ein cyd-banelwyr yn fenywod proffesiynol a oedd yn amrywio o Ddadansoddwyr Data i Gynorthwywyr TGCh, sydd wedi cael amrywiaeth eang o gymwysterau, profiad a gwybodaeth i gyrraedd lle maent heddiw. Ymunodd Lon a minnau i gynrychioli Cymunedau Digidol Cymru, fel Cynghorydd a Hyfforddwr yn y drefn honno, i roi golwg wahanol i’r myfyrwyr ar y maes digidol, a sut y gallant gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl o ddydd i ddydd oherwydd hynny.

Roedd thema gref iawn mewn llawer o’r atebion a oedd yn ymwneud ag agweddau pobl wrth ddechrau yn y maes digidol, ac yn enwedig annog myfyrwyr benywaidd i feddwl y tu allan i’r bocs o ran eu rhagolygon gyrfa. Dangosodd astudiaeth a gynhaliwyd gan PWC yn 2017 mai’r prif reswm nad yw menywod yn dilyn gyrfa ym maes technoleg neu ddigidol yw oherwydd nad oes digon o wybodaeth na chyngor yn cael eu rhoi am beth mae gweithio ym maes technoleg yn ei olygu mewn gwirionedd. Dyna pam mae’n hanfodol bod y sgyrsiau hyn yn digwydd yn gynnar yng ngyrfa’r merched hyn, i ddechrau normaleiddio’r maes digidol fel llwybr gyrfa hyfyw i bob rhyw.

Patrwm diddorol a ganfuwyd gennym oedd nad oedd llawer o’r menywod ar y panel (gan gynnwys fi a Lon) wedi astudio unrhyw beth yn ymwneud â’r maes digidol yn y brifysgol, gyda nifer ohonom yn rhannu ein bod wedi cael ein hannog i wneud pynciau mwy creadigol, clasurol fel Llenyddiaeth Saesneg neu Gelf. Mae hyn yn adlewyrchu’n uniongyrchol yr ystadegyn gan PWC mai dim ond 16% o fenywod sydd wedi cael gyrfa ym maes technoleg wedi’i awgrymu iddynt (yn hytrach na 33% o ddynion). Yr hyn a oedd yn arbennig o ysbrydoledig i mi oedd bod llawer o’r panelwyr (unwaith eto, gan gynnwys fy hun) wedi canfod diddordeb yn y maes digidol ar ôl graddio, ac felly’n annog y myfyrwyr i dorri’r sefyllfa bresennol o ran beth y dylent fod yn ei astudio neu ei ddilyn. Nid yn unig hynny, ond roedd hefyd yn ysbrydoliaeth i oedolion glywed bod newid cyfeiriad gyrfa i’r maes digidol yn bosibl ar ôl graddio.

Sgwrs ddiddorol arall a gafwyd yn ystod y panel oedd y ffaith bod angen lefel uchel o sgiliau cyfathrebu ar lawer o swyddi digidol. P’un ai a ydych yn Gynorthwy-ydd TGCh yn esbonio’r broses o ddatrys problem dechnegol, neu os ydych yn hyfforddwr fel fi sy’n ceisio chwalu jargon defnydd ar-lein bob dydd. Mewn ymateb i hyn, ym mhanel Lon, canolbwyntiwyd hefyd ar brinder sgiliau penodol yn y sector digidol ac, yn fwy penodol, prinder sgiliau Cymraeg. Mae meddu ar y gallu i gyfathrebu â rhywun am bwnc estron fel technoleg yn eu mamiaith yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i ddealltwriaeth rhywun o’r pwnc. Gall unrhyw un gaffael sgiliau cyfathrebu a’r Gymraeg, waeth beth fo’u rhyw, felly gall gwybod bod y rhain yn rhinweddau dymunol iawn weithio er budd llawer o fenywod ifanc.

Amlygodd yr un astudiaeth gan PWC yn 2017 ar dros 2000 o fyfyrwyr Safon Uwch a Phrifysgol na allai 78% o fyfyrwyr enwi menyw enwog sy’n gweithio ym maes technoleg. Fy ngobaith yw y bydd mwy a mwy o fenywod yn cael eu haddysgu yn y blynyddoedd nesaf ar fanteision niferus adeiladu eu gyrfaoedd o amgylch y maes digidol (gyda diolch i baneli a sgyrsiau fel hyn), a bydd canfyddiadau ymchwil fel hyn yn arwain at ystadegau llai amlwg.

Wedi’i ysgrifennu gan Ema Williams, Hyfforddwr Cynhwysiant Digidol yn Nghymunedau Digidol Cymru