Neidiwch i’r prif gynnwys

Strategaeth Ddigidol i Gymru – Blwyddyn yn Ddiweddarach: Myfyrdod ar Gymunedau Digidol Cymru

Rheolwyr y Rhaglen Cadi Cliff a Dewi Smith sy'n ystyried yr effaith y mae'r strategaeth wedi'i chael hyd yma.

Cyn edrych ar yr effaith ar Gymru a’r cleientiaid rydym yn gweithio â nhw, mae’n ddefnyddiol yn gyntaf ystyried sut mae’r ‘Strategaeth Ddigidol i Gymru’ gan Llywodraeth Cymru wedi helpu i ganolbwyntio gwaith Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles (CDC) a hefyd sut y mae gwaith CDC wedi helpu i lunio elfennau o’r strategaeth.

Roedd profiadau CDC a rhanddeiliaid ehangach yn bwydo i feysydd ffocws ‘Rhagolwg Cynhwysiant Digidol: tuag at Gymru ddigidol hyderus’ Llywodraeth Cymru gan helpu i lywio ‘Strategaeth Ddigidol Cymru’. Y llynedd, yn dilyn argymhellion o werthusiad cychwynnol, datblygodd CDC ‘Ddamcaniaeth Newid’ newydd. Helpodd y Strategaeth Ddigidol i ganolbwyntio ein fframwaith canlyniadau newydd, gan leoli gwaith y rhaglen o fewn y dirwedd ddigidol ehangach a sicrhau aliniad rhwng CDC a gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y maes digidol yng Nghymru.

Dyma rai enghreifftiau o sut mae CDC yn cyfrannu at ddwy o chwe chenhadaeth Strategaeth Ddigidol Cymru:

Cenhadaeth 2 – Cynhwysiant Digidol.  

Yng Nghymru, dydy 7% o oedolion ddim ar-lein ar hyn o bryd, ac mae hyn yn cynyddu ar gyfer pobl hŷn a phobl sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor. Yn unol â ‘Strategaeth Ddigidol Cymru’, mae CDC yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar anghenion pobl sydd â diffyg mynediad digidol, sgiliau digidol sylfaenol a hyder.

Datblygodd CDC ‘Archwiliad Sgiliau Digidol’ i alluogi’r rhaglen i ddysgu oddi wrth bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol fel y gallwn ddeall eu hanghenion a’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu. Mae hyn yn ein galluogi i fabwysiadu dull gwybodus o weithio gyda sefydliadau a chymunedau i roi’r cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a’r hyder i bobl ymgysylltu â byd sy’n gynyddol ddigidol, yn unol a’u hanghenion.

Yn ystod Haf/Hydref 2021 darparwyd 197 dyfais i denantiaid Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf (FCHA) gan gydnabod cyfle hollbwysig i hyrwyddo manteision digidol i un o’r grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli fwyaf yn ddigidol yng Nghymru – y rhai sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor. Darparwyd dyfeisiau ochr yn ochr ag arolwg sgiliau hawdd ei ddarllen i denantiaid ei gwblhau (gyda chymorth lle bo angen) yn edrych ar eu mynediad, eu cymhelliant, eu sgiliau a’u hyder mewn perthynas â maes digidol a thechnoleg, gyda phwyslais arbennig ar iechyd a lles. Roedd hyn yn galluogi CDC a FCHA i ddeall profiadau uniongyrchol y tenantiaid mewn perthynas â maes digidol. Datblygwyd cyfres o adnoddau dysgu priodol er mwyn i staff cymorth a gofalwyr gael mwy o hyder wrth ddefnyddio technoleg ddigidol gyda’r tenantiaid, ac i gynyddu sgiliau a hyder y tenantiaid eu hunain. Ym mis Chwefror 2022 anfonwyd arolwg sgiliau dilynol i nodi’r pellter a deithiwyd dros y chwe mis diwethaf ac i lywio anghenion cymorth yn y dyfodol.

Yn ystod Gaeaf 2021 lansiodd CDC ei brosiect hyfforddi chwe mis ‘Cymunedau Cysylltiedig Digidol’ sydd wedi’i anelu at sefydliadau yng Nghymru sy’n gweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig – nid gwella sgiliau a hyder staff yn unig yw ei ddiben, ond hefyd rhoi’r cyfle i’r sefydliadau ddod at ei gilydd fel rhwydwaith i gyd-drafod cynhwysiant digidol. Mae’r rhaglen yn ymdrin ag ystod o bynciau sy’n helpu i chwalu rhwystrau a chael cymunedau ar-lein ac mae’n cynnwys fforymau trafod cydweithredol i rannu profiadau bywyd y cymunedau y mae’r garfan o sefydliadau yn gweithio gyda nhw, gan sicrhau bod sesiynau hyfforddi CDC yn cael eu llywio gan y profiadau hynny.

Cenhadaeth 3 – Sgiliau Digidol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae CDC wedi bod yn gweithio gyda phob math o sefydliadau i helpu i greu gweithlu sydd â’r sgiliau digidol, y gallu a’r hyder i ragori yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd.

Ym mis Hydref 2021, llofnodwyd ‘Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth’ gydag Unsain Cymru a Chyfarwyddiaeth Ystadau a Chyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer darparu’r ‘Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Digidol’. Bydd y rhaglen yn cynnal archwiliad o holl staff Ystadau a Chyfleusterau gyda’r nod o gydgynhyrchu rhaglen o gyfleoedd hyfforddi a datblygu sgiliau. Bydd y gwaith hwn yn cefnogi’r gwaith o gyflawni strategaeth ddigidol BIPBC, ‘Ein Dyfodol Digidol’, yn benodol mewn perthynas ag uchelgais 2 – staff cysylltiedig.

Mae CDC wedi bod yn gweithio’n helaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd i sicrhau bod cynhwysiant digidol yn thema bwysig yn strategaeth ddigidol y Cyngor. Mae hyn wedi cynnwys cydnabod yr angen i uwchsgilio gweithlu’r awdurdodau lleol a sicrhau bod gan aelodau’r gymuned y sgiliau digidol hanfodol gofynnol, yn enwedig y rhai o gymunedau lleiafrifoedd ethnig. Mae archwiliad sgiliau digidol CDC wedi’i gynnal gyda gweithlu’r awdurdod lleol, ac mae’r canlyniadau’n helpu i lywio’r strategaeth newydd. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhan o’r garfan bresennol o ‘Gymunedau Cysylltiedig Digidol’ ac wedi hwyluso CDC i ddarparu hyfforddiant ‘Cyfeillion Digidol’ i amrywiaeth o staff ac aelodau’r gymuned, ochr yn ochr â chyrsiau sgiliau digidol hanfodol mewn canolfannau cymunedol lleol ledled Casnewydd, i ymgorffori sgiliau digidol cynaliadwy yn y gymuned.

Yn ei ragair gweinidogol i Strategaeth Ddigidol Cymru, mae Lee Waters yn sôn fod eisiau rhoi’r hyder sydd ei angen ar bobl Cymru i ymgysylltu â’u cymunedau ac yn y gymdeithas fodern. Mae CDC fel rhaglen wedi ymrwymo i hyn ac yn cael ei lywio ganddo. Mae ‘Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (DIAW)’ CDC yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i ymgysylltu â gwasanaethau digidol a’r byd digidol. Mae Rhwydwaith DIAW yn dod â phobl ynghyd o bob sector yng Nghymru o dan un faner, gyda’r ymrwymiad i weithredu ar y cyd er mwyn symud yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru yn ei blaen yn sylweddol. Mae cymhlethdod allgáu digidol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gydweithio i wella bywydau pobl ac mae’n rhaid i’r symudiad tuag at Gymru sy’n hyderus yn ddigidol fod yn ymdrech ar y cyd.

Gan Cadi Cliff a Dewi Smith