Neidiwch i’r prif gynnwys

Cymuned – Y Neuadd Bentref Rithiwr ar gyfer Preswylwyr Ynys Môn

Mae’r Cynghorydd Cynhwysiant Digidol, Lon Moseley yn edrych ar Ynys Môn fel enghraifft o sut mae hybiau rhithwir lleol yn darparu cymuned ac yn gallu annog trigolion i fabwysiadu digidol.

Cymuned - ein neuadd bentref rithwir.

Daeth cysyniad gwreiddiol Cymuned, sef y Neuadd Bentref Rithwir ar gyfer Ynys Môn, gan y Cydlynydd Strategaeth Pobl Hŷn ar gyfer Cyngor Ynys Môn, Brian Jones. I ddatblygu’r syniad hwn o hyb cymunedol ar-lein ar gyfer yr ardal, sefydlwyd partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Age Cymru Gwynedd a Môn a Medrwn Môn. Dechreuodd y trafodaethau cyn y pandemig, ond Covid-19 a dynnodd sylw at ba mor werthfawr y gall gwefannau cymunedol fel Cymuned fod ar gyfer pobl sy’n teimlo’n ynysig, neu hyd yn oed bobl sydd am ymwneud mwy ag eraill yn eu hardal.

Beth yw Neuadd Bentref Rithwir? 

Mae Neuaddau Pentref Rhithwir yn bodoli i wneud cymunedau lleol yn fwy hygyrch i bawb sydd am fod yn rhan ohonynt. Gall preswylwyr barhau i fynychu digwyddiadau neu gyfarfodydd yn bersonol, ond nawr gallant ddewis fynychu’n rhithwir hefyd. Mae hyn yn lleihau’r rhwystrau i’r gymuned leol ar gyfer pobl nad ydynt o bosibl yn gallu mynychu digwyddiadau ffisegol, fel rhai pobl oedrannus neu bobl anabl, neu hyd yn oed y rhai oedd y yn gwarchod eu hunain yn ystod y pandemig. Gall digwyddiadau rhithwir fod yn werthfawr hefyd fel pwynt mynediad i unigolion a allai fynychu yn bersonol, ond sy’n cymryd eu camau cyntaf i ymwneud mwy â’u cymuned. 

Yn ddigon cyfleus, roedd gan Ynys Môn eisoes lu o hybiau cymunedol ffisegol o gwmpas yr Ynys a fyddai wedi elwa at adfywio digidol. Drwy fenter newydd gyda Cymunedau Digidol Cymru, cynigiwyd cyfle i bob hyb presennol ddod yn hybiau rhithwir drwy wneud cais am dechnoleg ddigidol a fyddai’n cefnogi gweithgareddau cymunedol, fel technoleg ar gyfer digwyddiadau ffrydio byw ac ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant digidol. Roedd y cynnig i’r hybiau yn cynnwys technoleg fel setiau teledu clyfar, Pyrth Facebook, cyfrifiaduron llechen a gliniaduron. 

Rôl Cymunedau Digidol Cymru   

Diffyg mynediad at y rhyngrwyd a diffyg sgiliau digidol perthnasol sydd eu hangen i ddefnyddio Cymuned oedd rhai o’r heriau a oedd yn wynebu’r prosiect yn ei ddyddiau cynnar. Roedd rhai pobl a oedd yn dymuno mynychu’n rhithwir yn methu gwneud hynny oherwydd diffyg sgiliau a mynediad at y rhyngrwyd. Am y rheswm hwn, daeth yn amlwg y dylai cefnogaeth Cymunedau Digidol Cymru i breswylwyr oedd â diddordeb mewn hyb rhithwir gynnwys cynllun benthyg cyfrifiaduron llechen, mynediad at adnodd hyfforddiant sgiliau Cymunedau Digidol Cymru, a datblygu rhwydwaith o wirfoddolwyr digidol ymhellach (Hyrwyddwyr Digidol) i gynnig cefnogaeth ar yr Ynys. 

I gynorthwyo Hyrwyddwyr Digidol Ynys Môn, darparodd Cymunedau Digidol Cymru hyfforddiant i wirfoddolwyr a rhoi mynediad at adnoddau sydd ar gael ar-lein, er mwyn iddynt gael y cymorth gorau yn eu rôl i helpu eraill i ymarfer eu sgiliau digidol a defnyddio’r Neuadd Bentref Rithwir newydd. Mae’r Hyrwyddwyr Digidol hefyd wedi cael cyfarwyddyd ar sut i hyfforddi preswylwyr i ddefnyddio ‘Fy Iechyd Ar-lein‘, sef menter iechyd y GIG, sydd ar gael drwy wefan Cymuned, ac sy’n galluogi trigolion lleol Ynys Môn i drefnu apwyntiadau meddyg teulu ac adnewyddu presgripsiynau ar-lein. 

Nawr, gyda chymorth rhwydwaith gynyddol yr Ynys o Hyrwyddwyr Digidol a’r Cydlynydd Hybiau Rhithwir yn Age Cymru Gwynedd a Môn, Sioned Young, gall preswylwyr gael cyfrifiadur llechen sydd â data a datblygu eu sgiliau digidol hanfodol am ddim. Mae hyn yn golygu bod gan y preswylwyr hynny oedd heb sgiliau digidol yn y gorffennol y gallu i wybod beth sy’n digwydd yn lleol, rheoli eu hiechyd yn well, a chymryd rhan weithgar yn eu cymunedau. 

Ymysg yr hybiau sy’n cymryd rhan yn y cynllun Neuadd Bentref Rithwir, roedd rhai’n cael eu cynnal a’u cefnogi gan Gydlynwyr Lleol a Swyddogion Cyswllt Cymunedol Medrwn Môn, tra bod rhai ‘Lolfeydd Cyhoeddus’ sy’n eiddo i’r cyngor wedi elwa hefyd. Roedd hi’n gyffrous gweld hybiau cymunedol lleol yn yr ardal yn dangos diddordeb hefyd, er nad oeddent yn ddigon mawr ar y pryd i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn yn anffodus. Yn yr achosion hyn, cafod hybiau llai gefnogaeth i ddod yn ‘Ganolfannau Ar-lein’, a roddodd y cyfle iddynt wneud cais i’r ‘Cynllun Neuaddau Gwledig Digidol’, a oedd yn cael ei gynnig gan ein partner prosiect Good Things Foundation, a fyddai’n darparu’r dechnoleg ddiweddaraf iddynt. Drwy’r Cynllun Good Things Foundation, ymunodd chwe hyb arall ar Ynys Môn y prosiect Neuadd Bentref Rithwir gan roi rhagor o werth i’w cymunedau lleol. 

Gwefan Cymuned  

Lansiwyd gwefan Cymuned yn swyddogol ar ddiwedd 2021, a ddaeth “Neuadd Bentref Rithwir Ynys Môn” i fodolaeth! 

Meddai Neville Evans, Hyb Cymunedol Iorwerth Arms ar Ynys Môn: 

“Bydd gwefan Cymuned yn adnodd gwerthfawr i’r hybiau cymunedol hysbysebu eu gweithgareddau i’w defnyddwyr ac i hybiau a chymunedau eraill ledled yr ynys. Dros amser, bydd yn datblygu i fod yn ffordd o ddod â hybiau at ei gilydd i rannu digwyddiadau a syniadau newydd. Dyma’r ffordd ymlaen”. 

Mae datblygiad gwefan Cymuned wedi uno hybiau cymunedol ledled Ynys Môn, gan eu galluogi i roi cyhoeddusrwydd i’r hyn sy’n digwydd mewn un lle ar-lein, a chynnig dull cyfunol o gael mynediad at ddigwyddiadau lleol, sy’n ceisio diwallu anghenion amrywiol y rhai sy’n byw ar yr ynys. 

Ar nodyn personol, mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru ar y prosiect ac edrychaf ymlaen at ei weld yn datblygu a, gobeithio, dod yn rhan annatod o fywyd Ynys Môn sy’n rhoi budd cymunedol go iawn i’r ardal. 

Ysgrifennwyd gan Lon Moseley, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol