Neidiwch i’r prif gynnwys

Y dirwedd ddigidol yng Nghymru – pam mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i gau’r bwlch digidol

gan Cadi Cliff, Rheolwr Rhaglen, Cymunedau Digidol Cymru.

Wrth i ni lywio ein ffordd drwy fyd sy’n gynyddol ddigidol, nid yw’r angen i wirfoddolwyr fagu sgiliau a hyder digidol erioed wedi bod yn fwy hanfodol.    

Pwysleisiwyd bwysigrwydd bod yn ddigidol gynhwysol wrth i sefydliadau, cymunedau ac unigolion newid eu bywydau wrth ymateb i bandemig Covid-19. Dechreuodd pobl weithio gartref, symudodd astudio ar-lein, daeth dosbarthu bwyd ar-lein yn arfer i lawer, cynyddodd ymgynghoriadau rhithiol, a daeth hi’n gwbl arferol i godi llaw ar ffrindiau a theulu trwy ein sgriniau digidol.   

Gan symud ymlaen i 2022, mae llawer o’r newidiadau hynny’n dal i fodoli – bydd rhai’n aros am byth wrth i fanteision trawsnewidiol technoleg ddigidol barhau i gael eu hamlygu.   

Mae digideiddio ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn parhau, o nod GIG Cymru i drawsnewid iechyd a gofal i gleifion a’r cyhoedd drwy ddatblygu Ap GIG Cymru, i gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i drawsnewid gofal wedi’i gynllunio gyda’r nod o gynnal 35% o’r holl apwyntiadau newydd a 50% o’r apwyntiadau dilynol yn rhithiol erbyn 2025. Mae cofnodion nyrsio yng Nghymru wedi bod yn cael eu troi’n ddigidol, ac mae gwirfoddolwyr cymorth digidol wedi cael eu nodi’n ffyrdd allweddol posibl o wella lles a phrofiad mewn byrddau Iechyd. 

Fodd bynnag, nid yn ein gwasanaethau iechyd yn unig y mae technoleg ddigidol wedi, ac yn parhau, i gael ei chroesawu. Rydym wedi gweld sefydliadau’n dod at ei gilydd i arloesi er budd pawb, fel gyda Cymuned, Neuadd Pentref Rhithiol ar gyfer Ynys Môn, sy’n gwneud cymunedau lleol yn fwy hygyrch i bawb sydd eisiau cymryd rhan. Mae sefydliadau tai fel Newydd wedi darparu cymorth ar-lein trwy ystafelloedd dosbarth digidol wrth iddynt weithio i rymuso eu tenantiaid gyda’r sgiliau a’r hyder i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn effeithiol.   

Rydym wedi gweld yr ŵyl Daring to Dream gyntaf yn y cartref, ‘Lleswyl’, yn llwyddiant ar-lein bywiog, yn dod â phobl at ei gilydd mewn lle cynhwysol sydd â’r nod o gefnogi lles y rhai nad ydynt fel arfer yn gallu mynychu gigs byw oherwydd salwch cronig, anabledd neu unigrwydd. Yna mae’r cynnydd parhaus yn nifer y sefydliadau sy’n dod yn ‘Ganolfanau Ar-lein’ yng Nghymru, canolfannau cynhwysiant digidol hanfodol wedi’u lleoli yng nghanol cymunedau hyper-leol yn rhoi’r offer a magu’r sgiliau i bobl gael mynediad i’r byd digidol.  

Wrth inni symud yn gyflym yn y byd cynyddol ddigidol hwn, nid yw cynhwysiant digidol bellach yn rhywbeth braf i’w gael ond yn rhywbeth mae angen ei gael, a rhaid sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar eu hôl.  

Mae gwirfoddolwyr nid yn unig yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau, ond rôl hanfodol hefyd mewn cau’r bwlch digidol drwy roi eu hamser i drosglwyddo sgiliau digidol i eraill. P’un a yw hynny’n golygu cefnogi rhywun i droi dyfais ymlaen am y tro cyntaf, gwneud apwyntiad ar-lein, dysgu sut i wneud galwad fideo i’r teulu, mynychu digwyddiad cymdeithasol ar-lein, trefnu dosbarthiad ar-lein neu ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus – mae gwirfoddolwyr wrth wraidd grymuso pobl i fod ar-lein mewn ffyrdd sy’n ystyrlon iddyn nhw.   

Ers 2019, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Good Things Foundation yng Nghymru ar yr agenda cynhwysiad digidol. O ran sut y newidiodd Covid-19 y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio a’n perthynas ehangach â thechnoleg ddigidol, mae Hilary Nugent, Rheolwr Gwirfoddoli yn Good Things Foundation, yn trafod ymhellach:  

“Mae’r angen am gymorth o bell wedi darparu cyfleoedd ar gyfer arloesi a gwella ymgysylltiad â gwirfoddolwyr. Mae hyfforddiant a gynhelir ar-lein ar wahanol adegau o’r dydd yn caniatáu mwy o fynediad, ac mae offer digidol wedi galluogi chwilio am farn gwirfoddolwyr yn ehangach. Mae cefnogaeth cymheiriaid gwirfoddol a chyd-gynhyrchu strategaeth wedi tyfu. Mae sefydliadau wedi datblygu llwybrau recriwtio symlach a hawdd eu cyrraedd.  

Fodd bynnag, ochr yn ochr â’r newidiadau cadarnhaol, rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r rhaniad digidol a sut y gallai ymylu neu eithrio gwirfoddolwyr presennol a gwirfoddolwyr newydd. Gall y diffyg sgiliau digidol neu dlodi digidol a diffyg mynediad at ddyfeisiau, atal gwirfoddolwyr rhagorol rhag dod gerbron i helpu yn eu cymunedau.  

Gyda 2 filiwn o oedolion ledled y DU yn ei chael hi’n anodd fforddio band eang, a 7% o’r boblogaeth o oedolion yng Nghymru yn cael eu hystyried wedi’u hallgáu’n ddigidol, ni fu erioed yn bwysicach ystyried sut i wneud gwirfoddoli digidol yn hygyrch i bawb.” 

Os ydych chi neu’n adnabod rhywun sydd eisiau help yn eich cymuned ac eisiau gwella eich sgiliau digidol, gall Cymunedau Digidol Cymru gynorthwyo. Rydym yn darparu hyfforddiant i wirfoddolwyr gynyddu eu sgiliau digidol a’u hyder eu hunain yn ogystal ag edrych ar sut y gallant gefnogi eraill i fynd ar-lein. Mae ein partneriaid, Good Things Foundation, yn cynnal y Rhwydiath Canolfannau Ar-lein ac yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i wirfoddolwyr, mae’r Canolfannau Ar-lein yn cynnig mynediad at  Learn My Way, sef llwyfan dysgu ar-lein gyda dros 30 o gyrsiau am ddim yn amrywio o ddefnyddio bysellfwrdd i gymorth gyda sut i chwilio am swyddi ar-lein. 

Rydym yn gwybod am y pŵer sydd gan wirfoddolwyr ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn grymuso gwirfoddolwyr i gael y mynediad, y sgiliau digidol a’r hyder eu hunain i fod ar-lein gan helpu pobl eraill i fynd ar-lein.

Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl a fyddai’n elwa o ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Dyn a dynes yn edrych ar sgrin cyfrifiadur