Neidiwch i’r prif gynnwys

Archwilio Hanes Digidol gyda Casgliad y Werin Cymru ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion 2022

Ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion, ymunom ni â Chasgliad y Werin Cymru i gyd-gyflwyno gweminar ynghylch archwilio hanes digidol. Pan fyddwn yn darparu hyfforddiant ynglŷn â hel atgofion neu weithgareddau digidol ysbrydoledig, rydym yn aml yn cyfeirio ein hyfforddeion at yr adnoddau rhagorol sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru – felly roedden ni eisiau rhannu ein profiadau i gefnogi Addysg Oedolion. 

Cysylltom â Chasgliad y Werin Cymru i holi am beth maen nhw’n ei gynnig a beth maen nhw’n awgrymu edrych arno ar eu gwefan i gefnogi addysg oedolion.

Beth yw Casgliad y Werin Cymru? 

“Gwefan rad am ac ddim yw Casgliad y Werin Cymru sy’n ymroi i ddod â threftadaeth Cymru ynghyd. Mae’r Casgliad yn llawn ffotograffau, dogfennau, recordiau sain a fideo, a straeon hynod ddiddorol sy’n cysylltu â hanes, diwylliant a phobl Cymru. Cyfrannwyd yr eitemau hyn i wefan Casgliad y Werin Cymru gan sefydliadau cenedlaethol, unigolion, grwpiau cymunedol lleol a llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd ledled Cymru.”

Sut rydyn ni’n defnyddio eich gwasanaeth? 

“Gallwch dreulio amser yn pori a chwilio cynnwys sydd ar gael yn y Casgliad helaeth sy’n tyfu’n barhaus. Efallai yr hoffech weld sut beth oedd eich pentref yn y gorffennol neu ddysgu am Gymru’r canol oesoedd; mae gennym rywbeth at ddant pawb yn ein Casgliad. Gallwch hefyd gyfrannu eich stori eich hun i’r Casgliad drwy gofrestru am gyfrif ar y wefan. Mae pob eitem, boed yn ffotograff, fideo neu recordiad sain, sy’n cael ei chyfrannu i’n gwefan yn helpu i lunio stori pobl Cymru ac yn cyfoethogi diwylliant a threftadaeth ein gwlad i ni a chenedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.”

Sut ydych chi’n cefnogi addysg oedolion? 

“Mae ein gwefan yn galluogi dysgwyr i wella eu gwybodaeth am eu hardal leol a Chymru a’i chysylltiadau rhyngwladol. Mae hefyd yn caniatáu i ddysgwyr wella eu sgiliau digidol drwy ddigido, lanlwytho a chyhoeddi cynnwys ar ein gwefan. Mae gennym ni offer amrywiol i helpu ar hyd y ffordd, gan gynnwys Canllawiau Sut i Wneud ac erthyglau gwybodaeth. I’r rheiny sydd eisiau dull mwy ffurfiol, rydym yn cynnig hyfforddiant ar-lein pwrpasol am ddim i unigolion, grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau yng Nghymru. Mae’r hyfforddiant yn cyflwyno canllaw cam wrth gam ar ddigideiddio cynnwys ac yn dadansoddi pynciau anodd fel hawlfraint.”

Sut ydych chi’n cefnogi gweithgareddau hel atgofion? 

“Gellir dadlau y gellir defnyddio gwefan Casgliad y Werin Cymru ar gyfer gweithgareddau hel atgofion. Fodd bynnag, mae cyfoeth ein gwefan hefyd yn golygu y gall gymryd llawer o amser i ddod o hyd i ddeunydd perthnasol yn gyflym. Felly, sefydlwyd y cyfrif ‘Archif Cof‘ wedi’i guradu, dan arweiniad Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Ei nod yw darparu siop-un-stop – neu, o leiaf, man cychwyn – ar gyfer deunyddiau archif rhad ac am ddim sy’n addas ar gyfer gwaith hel atgofion. 

Mae’n cynnwys amrywiaeth o ddelweddau a recordiadau sain ar gyfer defnydd hel atgofion gyda phobl sy’n byw â dementia ac fe’i datblygwyd mewn ymgynghoriad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’n cynnwys cyfres o bosteri Coeden Gof a Llinell Amser ac adnodd addysgu 

Mae’r delweddau a’r recordiadau wedi cael eu rhannu’n gasgliadau. Mae rhai ohonynt yn seiliedig ar themâu sy’n gysylltiedig â bywyd cartref a bywyd gwaith, fel ‘Bywyd Ysgol’, ‘Ceginau’, ‘Mwyngloddio’ a ‘Teledu a radio’. Mae casgliadau eraill yn seiliedig ar ddegawdau o fewn cof byw (e.e., y ‘50au, ‘60au, ‘70au, ac ati). Gellir defnyddio’r holl gasgliadau hyn ar gyfer gwaith hel atgofion.  

 Gellir defnyddio’r Archif Cof ar gyfer ‘hel atgofion syml’, sef trafodaeth (yn aml mewn grŵp) ynghylch themâu penodol o’r gorffennol ac am waith ‘stori bywyd’, sy’n edrych ar fywyd person penodol o enedigaeth hyd at heddiw.  

Gellir lawrlwytho ac argraffu unrhyw ddelwedd yng nghasgliadau’r Archif Cof i’w defnyddio mewn sesiynau hel atgofion.”

Pam ydyn ni’n gweithio gyda Chasgliad y Werin Cymru 

Mae cymaint o adnoddau ar wefan Casgliad y Werin Cymru sy’n ein galluogi i archwilio hanes ar-lein. Pan fyddwn yn hyfforddi ein cleientiaid am weithgareddau hel atgofion, rydym yn aml yn cyfeirio at yr offeryn chwilio mapiau. Gan ddefnyddio hwn, gallwn archwilio archifau hanesyddol sydd wedi cael eu curadu gan bobl leol. Er enghraifft, mewn cartref gofal yn Nhorfaen, roeddem yn gallu dangos i aelodau o staff ddelweddau o ffatri adeiladu ar ddechrau’r 20fed ganrif, a ysgogodd atgofion plentyndod am swyddi mam-guod a thad-cuod, a’r pethau y byddent yn dod adref â nhw o’r gwaith. Ysbrydolodd hyn eu staff i gynnal gweithgareddau hel atgofion tebyg gyda’r unigolion y maent yn eu cefnogi. Mae’r offeryn digidol yn gweithredu fel yr hwylusydd ar gyfer sgyrsiau pwerus ac emosiynol, sy’n gallu ysbrydoli unigolion i archwilio offer digidol ar gyfer buddion llesiant pellach.

Wythnos Addysg Oedolion 

Mae dysgu yn brofiad gydol oes, ac yn Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn canolbwyntio ar sut y gall unigolion wella eu hyder, eu hiechyd a’u lles digidol. O ran teimlo’n hyderus am ddefnyddio dyfais ddigidol a deall sut i gael mynediad at wasanaethau ar y rhyngrwyd, mae llawer o bobl angen cefnogaeth gyda Sgiliau Digidol Hanfodol. Mae llawer o’n gwaith yn cynnwys cefnogi pobl Cymru gyda’r sgiliau hyn, ac mae adnoddau gwych ar-lein hefyd y gallai unrhyw un eu cyrchu’n hawdd i ddysgu mwy, fel Learn My Way. Ochr yn ochr â hyn, fodd bynnag, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn amlygu ac yn arddangos y llu o bethau diddorol y gallwn eu gwneud ar-lein, o ddydd i ddydd, sy’n ein hysbrydoli a’n hysgogi i ddysgu.  

Gall cynnwys ar-lein, fel Casgliad y Werin Cymru, ein hysbrydoli i ddysgu am ein hanes lleol a hel atgofion am y gorffennol. Does dim rhaid i chi edrych ymhellach na phorwr gwe i gael mynediad at lawer o offer hanesyddol a hel atgofion ar-lein. Mae llyfrgelloedd nawr yn gadael i chi fenthyg e-lyfrau a llyfrau llafar ar-lein, mae yna lawer o bodlediadau am hanes Cymru a llawer o adnoddau eraill ar-lein yn caniatáu i chi gael mynediad at ddysgu a chofnodion hanesyddol.