Neidiwch i’r prif gynnwys

Diwrnod Amser i Siarad 2023: Gwnewch le i siarad am iechyd meddwl

Mae Russell Workman, Cynghorydd Cynhwysiant Digidol CDC, yn trafod iechyd meddwl ac yn argymell adnoddau ar-lein ar gyfer sgyrsiau gwell.

Promotional banner for Time to Talk Day 2023

Cynhelir Diwrnod Amser i Siarad ddydd Iau 2ail Chwefror 2023 ac fe’i trefnir gan Amser i Newid Cymru, Mind, a Adferiad Recovery, mewn partneriaeth â’r Co-op. Mae’r ymgyrch yn annog pawb i wneud lle yn eu diwrnod ar gyfer sgwrs am iechyd meddwl. 

Mae’n ddiwrnod pan fyddwn yn cael ein hannog i ail gysylltu gyda’r rhai yr ydym yn eu hadnabod – ein ffrindiau, cymdogion, cydweithwyr ac aelodau o’r teulu – i’w hatgoffa bod rhywun yn eu caru ac yn poeni amdanynt. 

Nid yw siarad am iechyd meddwl yn dod yn hawdd, ond mae gan sgwrs y pŵer i newid pethau, neu hyd yn oed achub bywydau.  

Yn aml, wrth gael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, gallwch golli ymdeimlad o bersbectif. Gall pethau sy’n dod yn hawdd fel arfer achosi i chi fynd yn hynod o isel ac anobeithiol. Gall salwch meddwl fod yn lle anobeithiol ac unig. Rwy’n gwybod. Rwyf wedi bod yno.  

Rydym i gyd yn dda iawn am wisgo masgiau. Yr ydym wedi hen arfer dweud wrth bobl ein bod yn iawn pan ein bod, go iawn, ymhell o fod yn iawn. Yr ydym yn gwenu a chwerthin ond yn dadfeilio y tu mewn. Pan fyddwn yn cymryd yr amser i gael sgwrs gydag eraill, mae’n rhoi lle iddynt efallai i rannu rhywbeth sydd yn eu llethu nhw. O leiaf, mae’n dangos iddynt fod gan rywun ddiddordeb ac yn poeni, a bod llygedyn o oleuni yn y tywyllwch.  

Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ymwneud â chreu cymunedau cefnogol trwy gael sgyrsiau iechyd meddwl gyda theulu, ffrindiau neu gydweithwyr. Mae iechyd meddwl yn rhan ohonom, weithiau mae’n dda, weithiau ddim mor dda, ond mae’n perthyn i ni i gyd. Ond trwy siarad amdano gallwn gefnogi ein hunain ac eraill. 

Faint o wahaniaeth y gall siarad ei wneud? Mae’n gallu achub bywyd yn llythrennol. A does dim rhaid i chi siarad am iechyd meddwl hyd yn oed! Gallwch ofyn cwestiwn am y tywydd neu raglenni teledu neithiwr sydd yn fan cychwyn da i sgwrs. 

Felly, ar y Diwrnod Amser i Siarad eleni, beth am estyn allan at ffrind, aelod o’r teulu, neu gydweithiwr? rhywun nad ydych wedi siarad â nhw ers tro, a dechrau sgwrs. Gwahoddwch nhw am goffi, i fynd am dro, neu sgwrsio hyd yn oed dros y ffôn. Gallech fod yn lygedyn o oleuni mewn diwrnod tywyll iawn, ac efallai y byddwch hyd yn oed yn achub bywyd. 

Adnoddau ar-lein ar gyfer iechyd meddwl 

Diwrnod Amser i Siarad 2023 

Lawrlwythwch adnoddau i’w defnyddio ar gyfer ymgyrch 2023 a thu hwnt. Yma gallwch lawrlwytho llu o ddeunyddiau i helpu i ddechrau sgyrsiau iechyd meddwl yn eich cymuned, gweithle neu ysgol. Fe welwch bosteri, cardiau post, teils cyfryngau cymdeithasol, ffyrdd o sbarduno sgwrs, baneri a llawer mwy. 

Mind Cymru 

Mind Cymru yw Mind yng Nghymru. Mae’r elusen yn gweithio i sicrhau fod gan bawb yng Nghymru fynediad at y wybodaeth, y cymorth a’r gwasanaethau iechyd meddwl angenrheidiol. 

Amser i Newid Cymru 

Mae gan Amser i Newid Cymru amrywiaeth o ddeunyddiau am ddim y gallwch eu lawrlwytho i helpu i ddechrau sgyrsiau iechyd meddwl yn eich cymuned, gweithle neu ysgol. Posteri, Baneri, Cardiau Awgrymiadau Siarad, Cwisiau, ffyrdd o sbarduno sgyrsiau, Baneri Cyfryngau Cymdeithasol, Cardiau Bingo Rhyngweithiol, a mwy. 

Small Talk Saves Lives 

Lansiodd y Samariaid, mewn partneriaeth â Network Rail a Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Small Talk Saves Lives i annog staff a theithwyr i sylwi a allai rhywun fod mewn perygl ac yna dechrau sgwrs drwy ofyn cwestiwn syml. Mae rhai enghreifftiau rhagorol ar eu gwefan o sut mae rhywun sylwgar yn gofyn cwestiwn fel “Ble alla i gael coffi?” neu “Faint o’r gloch yw’r trên nesaf?” wedi bod yn ddigon i ddod â rhywun yn ôl o’r dibyn. 

meddwl.org 

Mae Meddwl yn wefan wych i gael cymorth, gwybodaeth, a dysgu am brofiadau iechyd meddwl — i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Adferiad Recovery 

Mae Adferiad Recovery yn darparu gwybodaeth a chymorth i bobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau, a’r rhai sydd ag anghenion cymhleth sy’n cyd-ddigwydd. 

Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian 

Mae’r gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yn darparu cyngor a chymorth clir ac ymarferol i bobl sy’n profi problemau gydag iechyd meddwl ac arian. 

Beat 

Beat yw elusen anhwylderau bwyta’r DU sy’n darparu gwybodaeth a chymorth i bobl ag anhwylderau bwyta. 

Lledaenwch y neges ar gyfer Diwrnod Amser i Siarad 2023

• Ewch i www.timetotalkday.co.uk i ddysgu mwy am yr ymgyrch 

• Ewch i www.timetochangewales.org.uk/cy/campaigns/timetotalkday i ddarganfod beth sy’n digwydd yng Nghymru

• Dilynwch @MindCharity, @MindCymru, @Rethink_, a @TTCWales ar Twitter

• Ymunwch â’r sgwrs genedlaethol gan ddefnyddio’r hashnod #AmserISiarad