Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae mynd i’r afael ag allgáu digidol yn fater i bawb gan Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

An older couple engaging in a videocall on a tablet device

Hyd yn gymharol ddiweddar, byddai wedi bod yn anodd dychmygu pa mor bell y byddai’r byd digidol yn ymestyn i bron pob agwedd ar ein bywydau.

I bobl sydd â sgiliau digidol, gall hyn ddod â phob math o fanteision personol, yn ogystal â manteision ehangach fel arbed cost a all fod o gymorth i ddarparu gwasanaethau. Mae’n bwysig cofio bod llawer o bobl hŷn yn mwynhau manteision o’r fath: dyw’r stereoteipiau nad oes gan bobl hŷn ddiddordeb mewn technoleg neu nad ydyn nhw’n gallu ei ddefnyddio yn wir.

Ond mae nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru – gan gynnwys traean y bobl 75+ oed – yn cael eu hallgáu’n ddigidol ac yn wynebu rhwystrau’n gynyddol wrth geisio cael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.

Archwiliais beth mae hyn yn ei olygu i bobl hŷn yn fy adroddiad ‘Dim Mynediad’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n seiliedig ar dystiolaeth a rannwyd gan dros 150 o bobl hŷn sy’n byw ledled Cymru, yn ogystal â gwybodaeth a gasglwyd o’r digwyddiad ymgysylltu a thrwy fy Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth.

Amlygodd fy adroddiad amrywiaeth eang o broblemau sy’n wynebu pobl hŷn oherwydd nad ydyn nhw ar-lein neu fod ganddyn nhw sgiliau digidol cyfyngedig, gan gwmpasu popeth o deimlo dan bwysau i ddefnyddio bancio ar-lein, i anawsterau wrth geisio trefnu apwyntiadau gofal iechyd, i faterion mwy cyffredin fel methu parcio’r car neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.

Mae fy nghanfyddiadau’n dangos bod llawer o bobl hŷn yn wynebu rhwystrau digidol sylweddol, sy’n effeithio ar fwy a mwy o agweddau ar fywydau beunyddiol pobl ac yn creu straen a phryder wrth geisio cyflawni tasgau a oedd yn arfer bod yn syml.

Mae yna berygl y bydd hyn yn tanseilio hawliau pobl i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau a gwaethygu anghydraddoldebau presennol: efallai y bydd y rhai sy’n debygol o fod angen gwasanaethau fwyaf, sydd hefyd yn fwy tebygol o gael eu hallgáu’n ddigidol, yn cael eu hatal rhag cael gafael arnyn nhw i bob pwrpas.

Mae’n ymddangos bod llawer o bobl hŷn wedi derbyn hefyd y byddan nhw’n cael eu hallgáu fwyfwy wrth heneiddio oherwydd effaith peidio â bod ar-lein, ac ymddengys eu bod wedi ‘rhoi’r ffidil yn y to’ o ran ceisio dysgu sgiliau digidol neu wneud rhai pethau’n ddigidol.

Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd y mathau cywir o gymorth parhaus i alluogi pobl hŷn i fynd ar-lein ac aros ar-lein os ydyn nhw’n dymuno, rhywbeth rwy’n gwybod bod Cymunedau Digidol Cymru a’i bartneriaid eisoes yn gwneud cymaint i’w gyflawni.

Yn yr un modd, mae pob math o waith yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd yng Nghymru mewn ymateb i ganllawiau ffurfiol a gyhoeddais yn 2021 gan ddefnyddio fy mhwerau cyfreithiol.

Ond mae angen gwneud llawer mwy i ddiogelu hawliau pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.

Heb weithredu, bydd mwy o bobl hŷn yn cael eu gwthio ymhellach i’r cyrion wrth i fwy o feysydd mewn bywyd ‘fynd ar-lein’, ac efallai na fydd pobl yn gallu cymryd rhan, heb lais na dweud eu dweud am eu dyfodol, rhywbeth a fydd yn ein gadael yn dlotach fel cenedl mewn cymaint o ffyrdd.

Mae mynd i’r afael ag allgáu digidol o fudd i ni i gyd: mae’n fater i bawb. Wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu’n gyflym ac wrth i’n hamgylchiadau’n newid, a ninnau mewn sefyllfa efallai o fod heb gymorth gan deulu, ffrindiau neu gydweithwyr, efallai y byddwn ni’n cael ein hallgáu’n ddigidol ryw ddydd ac mewn perygl o’r allgáu cymdeithasol sy’n dilyn hynny.

Ond bydd cyflawni’r camau’r wyf yn galw amdanyn nhw i fynd i’r afael ag allgáu digidol yn helpu i sicrhau bod Cymru’n wlad iach a chynhwysol sy’n ein cynorthwyo ni i gyd i heneiddio’n dda.

Default Text

Gan Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Heléna yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – rôl statudol annibynnol a sefydlwyd mewn cyfraith i ddiogelu ac i hyrwyddo hawliau pobl hŷn. Dechreuodd yn ei swydd yn 2018 ar ôl dros 30 mlynedd o weithio ar faterion sy’n ymwneud â heneiddio a phobl hŷn.

Bio llawn yma.