Technoleg ar gyfer gofal iechyd: Cydweithio â Siapio Newid BIPCAF
Mae tîm Siapio Newid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCAF) wedi bod yn gweithio ar y cyd â Chymunedau Digidol Cymru (CDC), i wreiddio cymorth digidol mewn sawl adran dros y 12 mis diwethaf.
Mae Siapio Newid yn cefnogi aelodau staff iechyd a gofal ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i wella pethau i’w cleifion, eu cydweithwyr a’u hunain. Mae’r cydweithredu hwn yn tynnu sylw at barodrwydd y tîm i fanteisio ar dechnoleg i wella gofal iechyd meddwl, gwella lles cleifion a grymuso darparwyr gofal i weithio gyda phartneriaid allanol a darparu cymorth buddiol sy’n gwthio ffiniau.
Dechreuodd y bartneriaeth hon yn Arddangosfa Arloesedd mewn Dementia yn 2023, lle daeth Siapio Newid â chydweithwyr BIPCAF, busnesau, y byd academaidd, elusennau a sefydliadau’r llywodraeth at ei gilydd i archwilio atebion arloesol ar gyfer gofal dementia. Yno y plannodd Siapio Newid a Chymunedau Digidol Cymru yr hadau ar gyfer cydweithredu ffrwythlon.
Roedd stondin CDC yn arddangos posibiliadau cyffrous ar gyfer gofal dementia, gan gynnwys penset realiti rhithwir (VR) a oedd yn rhoi cipolwg ar dirweddau tawel ac atgofion annwyl, tra bod beic llaw atgofion yn cyfuno gweithgarwch corfforol â straeon digidol. Fe wnaeth yr adnoddau a ddangoswyd gryn argraff ar staff a chleifion, gan danio diddordeb cyffredin mewn datgelu potensial technoleg ddigidol i wella lles pobl â dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
Tyfodd y chwilfrydedd cychwynnol hwn yn gyfres o gamau gweithredu effeithiol; cysylltodd CDC â’r Tîm Cof, y tîm Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn (MHSOP) a’r grŵp Realiti Rhithwir Diddordeb Arbennig yn BIPCAF, gan osod y sylfaen ar gyfer cydweithredu pellach.
Ers hynny, mae adran MHSOP BIP Caerdydd a’r Fro wedi gweithio’n agos gyda CDC ar amrywiaeth o strategaethau cynhwysiant digidol sylfaenol a chreadigol. I ddechrau, amlygodd archwiliadau sgiliau digidol feysydd i’w gwella, fel y gellid hyfforddi staff i gefnogi cleifion yn hyderus.
Wedi hynny, cydgynhyrchodd CDC a MHSOP sesiwn “Adfer Drwy Weithgarwch,” gan ddefnyddio realiti rhithwir a seinyddion clyfar gyda’r nod o ddangos sut y gall technoleg arloesol wella ansawdd cyffredinol y gofal a ddarperir i gleifion. Roedd hyn hefyd yn rhoi profiad uniongyrchol i staff o hwyluso gweithdai digidol, ac mae wedi eu grymuso i barhau â’r gwaith hwn heb gefnogaeth CDC.
Mae’r adran MHSOP hefyd wedi mynd ymlaen i roi pwyslais ar ymgorffori cynhwysiant digidol o fewn y gefnogaeth y maent yn ei darparu o ddydd i ddydd. Benthycodd CDC chwe thabled i’r adran, un ar gyfer pob ward ar draws y ddau ysbyty. Mae tabledi yn offeryn rhagarweiniol defnyddiol i’r rhai sy’n rhoi cynnig ar dechnolegau digidol mwy newydd am y tro cyntaf, gan nad oes angen gwybod sut mae gweithio llygoden a bysellfwrdd, mae ganddynt ystod o opsiynau hel atgofion, addysgol ac adloniant, nodweddion hygyrchedd amrywiol, a maint sgrin fawr.
Yn olaf, er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r cymorth digidol o’r ansawdd uchaf, cwblhaodd wyth o staff MHSOP hyfforddiant Hyrwyddwyr Digidol. Mae hyn wedi caniatáu i’r adran gynyddu eu cynnig cynhwysiant digidol a gosod sylfaen gadarn ar gyfer cymorth yn y dyfodol i’w 214 o gleifion. Mae’r Tîm Cof, sydd â 3000 a mwy o gleifion allanol dan eu gofal, wedi cael yr un hyfforddiant, felly maent yn gallu nodi a darparu cymorth i ddefnyddio adnoddau digidol ymarferol ac arloesol wrth ymweld â chartrefi cleifion.
Wrth edrych ymlaen, mae cydweithrediad CDC wedi ymestyn i’r adran Therapi Galwedigaethol. Arweiniodd ymweliad â’u gofod cegin ac ystafell wely cymorth at ymgynghoriad a map ffordd ar gyfer ymgorffori technoleg gynorthwyol. O ddyfais Mi-Fi ar gyfer mynediad di-dor i’r rhyngrwyd i seinyddion clyfar a theledu Meta Portal, mae’r adran yn edrych ymlaen at archwilio’r rhestr o adnoddau digidol sy’n grymuso cleifion i ymarfer annibyniaeth o fewn amgylchedd wedi’i alluogi gan dechnoleg.
Wrth siarad am y cydweithrediad, dywedodd Zoe Hilton Rheolwr Rhaglen Arloesedd BIPCAF:
“Rwy’n falch iawn o weld cyfleoedd cydweithredol sy’n deillio o’r Arddangosfa Arloesedd mewn Dementia a gynhaliwyd gennym ni’r llynedd. Mae gan Cymunedau Digidol Cymru ymrwymiad ysbrydoledig i gefnogi ein cleifion a’n cymunedau ym maes technoleg ddigidol, i wella profiad a chanlyniadau sy’n cyd-fynd â’r egwyddorion darbodus rydyn ni i gyd yn ymdrechu i’w bodloni. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o ddatblygiad y bartneriaeth hon ac ni allaf ddiolch digon i dîm gwych Cwmpas am eu holl gefnogaeth.”
Dywedodd Cadi Cliff, Rheolwr Rhaglen yn CDC:
“Rydyn ni’n falch iawn o weld y bartneriaeth hon yn datblygu. Mae’r cyswllt cychwynnol yn y digwyddiad dementia wedi tanio cydweithrediad gwych. Mae platfform Siapio Newid ar gyfer arloesedd, ynghyd ag arbenigedd CDC ym mhopeth digidol, a bod yn agored i gynnydd, yn paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol lle mae technolegau digidol yn gwella bywydau cleifion ac yn grymuso darparwyr gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.”