Gweithio gyda DWP i fagu sgiliau digidol i hawlio budd-daliadau ar-lein
Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi symud i blatfformau digidol fel eu prif ffordd o ymwneud â chwsmeriaid. Gall hyn wella mynediad, galluogi effeithlonrwydd busnes, a gall hefyd helpu i osgoi pobl yn aros am amser hir ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Ond gyda 7% o boblogaeth Cymru ddim ar-lein, oherwydd costau neu ddiffyg mynediad a gwybodaeth, gall hefyd olygu bod rhai cwsmeriaid yn cael eu gadael ar ôl. Mae yna gyfrifoldeb, felly, i gynnig gwasanaethau teg i’r rhai sydd ddim ar-lein, neu hyd yn oed gynnig cyfleoedd iddyn nhw fynd ar-lein.
Yn y DU, yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am system fudd-daliadau’r wladwriaeth. Bu symudiadau arloesol dros y blynyddoedd diwethaf tuag at systemau ar-lein ar gyfer hawlio a rheoli budd-daliadau cwsmeriaid. Ond yn ôl lleiafrif (16%) o gwsmeriaid yr Adran, dydyn nhw ddim ar-lein ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae dros draean (36%) o gwsmeriaid y Credyd Pensiwn yn dweud nad ydyn nhw erioed wedi defnyddio’r rhyngrwyd. Dywedodd cwsmeriaid sydd ddim ar-lein fod diffyg diddordeb, ofn a diffyg sgiliau digidol i gyd yn rhwystrau iddyn nhw.
Yn ystod 2024, fe wnaeth Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant gydweithio â’r Adran Gwaith a Phensiynau i gynhyrchu cyfres o weminarau. Roedd y gweminarau hyn yn canolbwyntio ar gefnogi pobl i feithrin sgiliau digidol fel y gallan nhw gael mynediad at wasanaethau budd-daliadau fel y Credyd Cynhwysol a’r Credyd Pensiwn. Yn CDC, ymfalchïwn mewn cynnig cymorth defnyddiol ac addysgiadol i randdeiliaid cymunedol allweddol yng Nghymru, megis staff a gwirfoddolwyr sefydliadau. Byddan nhw yn eu tro, fel hyrwyddwr digidol, yn gallu defnyddio eu hyfforddiant i gefnogi aelodau’r cyhoedd.
Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni ddatblygu gweminar a oedd yn archwilio’r sgiliau digidol ‘trosglwyddadwy’ sy’n gysylltiedig â hawlio budd-daliadau ar-lein, yn ogystal â ffyrdd o gefnogi datblygiad y sgiliau hyn a chefnogi pobl i fynd ar-lein. Mae modd defnyddio sgiliau fel llenwi ffurflenni neu lywio tudalennau gwe yn ddiogel gyda llawer o dasgau digidol eraill o ddydd i ddydd. Ymhlith y prif weithgareddau oedd cyfeirio at adnoddau defnyddiol fel platfform Learn My Way The Good Things Foundation, y Banc Data Cenedlaethol, a rhestr Ofcom o dariffau cymdeithasol.
Dros gyfnod o chwe mis, fe wnaethon ni gyflwyno naw sesiwn hyfforddi i 206 o staff a gwirfoddolwyr o ystod eang o sectorau, gan gynnwys tai cymdeithasol, gwasanaethau cymorth awdurdodau lleol, a’r trydydd sector. Fe wnaethon ni weithio’n agos â Sarah Frost, Rheolwr Partneriaeth Datganoli yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, drwy gydol y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r gweminarau. Dywedodd Sarah Frost:
“Bu gweithio gyda’r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru ar gynllunio gweminarau ar allu digidol er budd dinasyddion Cymru gyfan yn brofiad gwych. O’r cysyniad cyntaf hyd at gyflwyno, roedd gen i bob ffydd yn llwyddiant y gweminarau, oherwydd yr ymrwymiad i gynyddu cynhwysiant digidol gan sefydliadau preifat, cyhoeddus, gwirfoddol, cymunedol a’r trydydd sector. O safbwynt yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae’n bwysig ein bod ni’n helpu dinasyddion i feithrin y sgiliau digidol sydd eu hangen arnyn nhw i ymgymryd â gweithgareddau ar-lein. Bydd hyn yn ehangu’r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw, wrth i ni weithredu mewn byd cynyddol ddigidol.”
Yn dilyn ymlaen o’r gyfres o weminarau, cynhyrchwyd fersiwn wedi’i recordio o weminar y Credyd Pensiwn a dogfen ategol o adnoddau, er mwyn i eraill allu parhau i elwa o’r wybodaeth. Ein huchelgais yw bod sefydliadau’n parhau i ledaenu’r neges bod y sgiliau digidol sydd eu hangen ar bobl i gwblhau ceisiadau budd-daliadau ar-lein yn gallu cael eu defnyddio at bethau eraill hefyd. Mae llenwi ffurflenni, deall diogelwch porwyr gwe a chreu cyfrif yn rhywbeth sydd ei angen yn aml o ddydd i ddydd ar-lein. Drwy gynnig cyfleoedd i unigolion ddysgu a cheisio cymorth digidol yn gyson a thros gyfnod hir, gallwn feithrin hyder pobl i fynd ar-lein ar eu pennau eu hunain.