Arwyr Digidol

Pwy sy’n Arwr Digidol
Mae Arwyr Digidol yn blant a phobl ifanc sy’n ddefnyddwyr technoleg hyderus ac sy’n gallu cefnogi eraill i fynd ar-lein.
Mae Arwyr Digidol yn defnyddio eu sgiliau i helpu eraill sy’n ei chael hi’n anodd dysgu sut i ddefnyddio eu cyfrifiadur, tabled, neu ffôn. Gallai fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind, neu’n aelod o’r gymuned.
Mae gan bawb sgiliau a thalentau, ac weithiau nid ydym yn sylweddoli pa mor bwysig ydynt a sut y gall eraill elwa o ganlyniad i rannu’r sgiliau hynny.
O ble daw Arwyr Digidol?
Gall Arwyr Digidol fod yn blant ysgol, yn aelodau o’r sgowtiaid neu’r geidiaid, cadetiaid neu fyfyrwyr coleg a phrifysgol.
Sut mae’n gweithio?
- Bydd ein tîm anhygoel o hyfforddwyr yn dod i dreulio amser gyda chi ac yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn Arwr Digidol.
- Byddwch wedyn yn cysylltu â sefydliad yn eich cymuned. Gallai hwn fod yn gartref gofal, hosbis neu ganolfan ddydd leol.
- Bydd Arwyr Digidol yn helpu pobl yn y sefydliad hwnnw gyda’u sgiliau a’u hyder digidol.
Beth allai Arwr Digidol ei wneud?
- Gall redeg clwb ar ôl ysgol i aelodau’r gymuned.
- Gall ymweld â chartref gofal lleol a rhannu cerddoriaeth a fideos fydd yn helpu preswylwyr i hel atgofion a chael amser da.
- Gall helpu pobl i ddysgu sut i gadw’n ddiogel ar-lein.
- Gall roi cymorth i sefydliadau lleol i annog pawb i fynd ar-lein mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.
Pam bod yn Arwr Digidol?
- Mae Arwyr Digidol yn datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu
- Mae’r bobl a gefnogir yn cael hwyl ac yn dysgu defnyddio’r we
- Gallwch feithrin perthnasoedd cryf yn eich cymuned leol.
- Mae’n rhoi boddhad i helpu pobl a gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywyd.
Hoffech chi gymryd rhan a datblygu eich Arwyr Digidol eich hun?
Os hoffech, cysylltwch â ni am gymorth drwy lenwi’r ffurflen gynnig gyflym hon.