Neidiwch i’r prif gynnwys

Benthyciadau offer digidol

Gall Cymunedau Digidol Cymru (DCW) fenthyg offer digidol gan gynnwys tabledi, gliniaduron a Fitbits i sefydliadau yn y tymor byr er mwyn sicrhau gweithgareddau digidol i’w defnyddwyr.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Nyrs cartref gofal gydag offer wedi'i fenthyg gan Cymunedau Digidol Cymru

Beth ydyn ni’n ei fenthyca?

Mae gennym amrywiaeth o offer digidol gan gynnwys tabledi, gliniaduron, seinyddion clyfar, a llawer mwy, y gallwn eu darparu i’ch sefydliad ar fenthyg, er mwyn galluogi eich staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaeth i roi cynnig ar yr offer cyn i chi fuddsoddi mewn unrhyw beth newydd.

Hyd y benthyciadau?

Gellir trefnu benthyciadau am gyfnod o amser sy’n addas i chi, a gall ein Cynghorwyr Digidol drafod yr opsiynau gorau gyda chi er mwyn helpu i wella sgiliau digidol a hyder pobl o fewn eich sefydliad.

Holi am fenthyg offer

Os hoffech drafod benthyg offer digidol oddi wrth DCW, yna anfonwch e-bost atom digitalcommunities@wales.coop

Astudiaethau achos