Neidiwch i’r prif gynnwys

Canllawiau Cynhwysiant Digidol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru (2019)

Canllawiau Cynhwysiant Digidol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru Gorffennaf 2019

Mae’r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo i alluogi pobl i ddefnyddio technolegau digidol i reoli’u hiechyd, eu lles a’u gofal eu hunain. Fodd bynnag, y llu o’r bobl a allai elwa fwyaf o gael gwasanaethau digidol yw’r rhai lleiaf tebygol o fod ar-lein.

Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys ystod o adnoddau sy’n gallu helpu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu’n lleol.

Darllenwch y canllaw [agorir mewn ffenest newydd]

Quotation mark

Mae 11% o boblogaeth Cymru (300,000 o bobol) wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae’r rhain y debygol o fod yn hŷn, wedi cael llai o addysg ac yn waelach eu hiechyd na gweddill y boblogaeth.

Dyfyniad Canllaw

Quotation mark

Pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o’r bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol fwyaf, felly mae perygl iddynt gael eu gadael ar ôl yn y chwyldro iechyd digidol.

Dyfyniad Canllaw