Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae Anabledd Powys yn defnyddio technoleg i gadw pobl yn gysylltiedig

Mae Anabledd Powys wedi bod yn gweithio gyda phobl 50 oed a hŷn, sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, i archwilio sut gall technoleg wella eu lles.

Pam?

Mae Anabledd Powys yn bartner allweddol ym mhrosiect y Genhedlaeth Gysylltiedig. Mae’r prosiect yn adeiladu Powys lle caiff pobl hŷn eu gwerthfawrogi, y maen nhw’n gysylltiedig ac yn ffynnu. Mae’r partneriaid yn helpu pobl I oresgyn unigedd ac ailennill annibyniaeth, yn enwedig os ydyn nhw’n gaeth i’r tŷ neu’n methu gadael eu cartref yn rheolaidd.

Sut?

Sue Pascoe yw cynrychiolydd Anabledd Powys ar brosiect y Genhedlaeth Gysylltiedig. Cymerodd ran mewn hyfforddiant gan Cymunedau Digidol Cymru, a bu modd iddi fenthyg offer digidol i roi cynnig arnynt gyda’i chleientiaid.

Effaith

Dywedodd Sue:

“Fe wnes i weithio gyda menyw 87 oed, sy’n byw yn ei fflat ei hun gyda’i merch a’i mab yng nghyfraith. Roedd hi eisiau cynnal ei hannibyniaeth wrth fyw yn y cartref teuluol, ac roedd ganddi ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o gysylltu ag aelodau o’i theulu, i gael sgwrs ac mewn argyfwng. Awgrymais ei bod hi’n rhoi cynnig ar yr Echo Dot yn ei fflat. Dangosais iddi sut y gellid ei ddefnyddio i wneud galwadau ffôn trwy ofyn, “call ………….”, er mwyn iddi allu ffonio ei merch neu fab yng nghyfraith yn rhan arall y tŷ, petai angen help arni.

“Yn anffodus, oherwydd gosodiad ac adeiladwaith y rhan o’r cartref lle’r oedd hi’n byw, nid oedd y ddyfais bob amser yn ddibynadwy.

“Fodd bynnag, fe wnaeth defnyddio’r Echo Dot ysbrydoli un o’i merched i roi iPad iddi, a dangos iddi sut i’w ddefnyddio – mae hyn wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae ei chysylltiad â gweddill y teulu yn gryfach o ganlyniad, ac nid yw’n dibynnu ar ei merched i’w diweddaru am bethau.  Gan ddefnyddio’r iPad, gall ddefnyddio Facetime i gysylltu â’i dau fab, sy’n byw dramor. Maent wedi mynd â hi ar daith o gwmpas eu tai a’u gerddi, nad yw wedi’u gweld erioed o’r blaen. Mae hefyd wedi gallu gwylio fideos gan un o’i meibion, y mae’n eu mwynhau’n fawr, ac sy’n helpu i’w chadw mewn cysylltiad â beth mae e’n ei wneud.

“Mae ei hyder wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd wedi cynyddu’n sylweddol, ac mae’n hapus i archebu eitemau ar-lein yn rheolaidd. Mae’n arddwr brwd, ac mae’n gallu gwirio rhagolygon y tywydd. Mae’n ei ddefnyddio i ddod o hyd i’w hoff gerddoriaeth hefyd.”

Dywedodd Matthew Bevan, Ymgynghorydd Cymunedau Digidol Cymru:

“Mae hon yn enghraifft wych o sut gall technoleg helpu pobl I gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartref eu hunain. Mae’n wych gweld sut mae Anabledd Powys wedi defnyddio’r offer ar fenthyg i ysbrydoli pobl i ddechrau defnyddio’r dechnoleg adref i ategu eu hanghenion bob dydd.”