Cael y Fro Ar-lein
Mae partneriaeth Cael y Fro Ar-lein yn dangos sut mae cydweithio rhwng sefydliadau lleol wedi helpu cymunedau ar draws Bro Morgannwg i gadw mewn cysylltiad – a sut y gallai’r dull hwn helpu sefydliadau eraill i gefnogi pobl i fynd ar-lein.
Wedi’i chreu saith mlynedd yn ôl, mae Cael y Fro Ar-lein (CYFA) yn bartneriaeth sy’n dod â sefydliadau lleol sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cynhwysiant digidol yn y gymuned ynghyd. Mae’r partneriaid yn cynnwys Cymunedau Digidol Cymru, Cymdeithas Tai Newydd, Cartrefi’r Fro, Llyfrgelloedd y Fro, Dysgu Oedolion yn y Gymuned, ac adrannau amrywiol o’r awdurdod lleol. Mae’r grŵp yn gweithio ar y cyd i ddod â sefydliadau o’r un anian ynghyd i hybu cynhwysiant digidol a chydnabod pwysigrwydd cefnogi pobl yn y Fro i sicrhau bod ganddynt y sgiliau digidol, yr hyder, a mynediad i fynd ar-lein. Mae’r bartneriaeth yn cydnabod fod gweithio ar y cyd yn allweddol i lwyddiant.
Gellir darllen yr astudiaeth achos yn llawn yma [fe fydd yn agor mewn ffenest newydd]
Mae’n ymwneud â chael y gofod hwnnw i ganfod atebion, neu gyfeirio at y rhai sy’n gallu canfod datrysiad. Nid oes gan unrhyw un person neu sefydliad yr atebion i gyd, a thrwy ddod at ein gilydd gallwn gefnogi’n well y bobl sydd angen y gwasanaethau hyn. Rydym yn tyfu cymuned o arweinwyr digidol, ac ni fyddai ein gwaith mor llwyddiannus heb gefnogaeth pob sefydliad.
Scott Tandy
Rydym hefyd yn gweithio tuag at arwyddo’r Siarter Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru a chyflawni’r achrediad, felly mae gennym ymrwymiad corfforaethol gwirioneddol, ac yn teimlo’n frwdfrydig am gamau nesaf ein taith ym maes cynhwysiant digidol yn y Fro.
Scott Tandy