Neidiwch i’r prif gynnwys

Defnyddio technoleg i wella eich corff a’ch bywyd â chymorth gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin

Gwnaeth pobl ym Mlaenau Gwent wella eu ffitrwydd, sgiliau digidol, hyder a'u hunan-barch diolch i brosiect Fitbit a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

MP8EDF Merch hŷn yn edrych ar ei olrhain ffitrwydd

Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn gyfrifol am hamdden, dysgu a diwylliant ym Mlaenau Gwent. Ei nod yw cael effaith gadarnhaol ar les corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac economaidd pobl leol.

Mae angen cymorth â sgiliau digidol sylfaenol ar nifer o bobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent ond teimlai’r Ymddiriedolaeth nad oedd dosbarthiadau TGCh yn apelio at bobl ddihyder. Gwnaethant benderfynu annog pobl i ddefnyddio technoleg drwy weithgareddau ymarferol, bob dydd.

Sut

Cafodd chwe menyw a oedd yn mynychu Canolfannau Gweithredu Dysgu’r Ymddiriedolaeth eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect chwe wythnos a elwir yn Your Body, Your Life. Nod y prosiect oedd gwella eu ffitrwydd, hyder a hunan-barch, yn ogystal â’u sgiliau digidol, llythrennedd a rhifedd.

Cawsant aelodaeth am ddim ar gyfer canolfan hamdden leol a’r gallu i ddefnyddio hyfforddwr personol dros gyfnod y prosiect. Cafodd pob un ohonynt Fitbit (wedi’u benthyg gan Cymunedau Digidol Cymru) hefyd i’w ddefnyddio gyda’u dyfeisiau clyfar. Y nod oedd rhoi’r holl adnoddau yr oedd eu hangen ar y menywod hyn i wneud newidiadau yn eu bywydau.

Effaith

Cafodd prosiect Your Body, Your Life amrywiaeth o effeithiau. Cytunodd y menywod dan sylw fod eu lles wedi gwella yn sylweddol. Roedd y Fitbits a’r dyfeisiau clyfar o fudd enfawr i’r cyfranogwyr:

  • Roedd y dyfeisiau yn golygu nad oeddent yn dibynnu ar eu hyfforddwr personol i’w cymell ac i roi cyngor iddynt.
  • Gwnaethant olrhain lefelau eu gweithgarwch drwy gydol y dydd, fel y gallant weld sut roeddent yn cael ymarfer corff drwy eu gweithgareddau cyffredin.
  • Gwnaethant ddysgu sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ryseitiau iach ac i wneud dewisiadau gwell o ran eu deiet.
  • Gwnaethant feithrin cydberthnasau newydd drwy gyfnewid awgrymiadau o ran eu hiechyd, dod o hyd i wefannau newydd a chreu grwpiau sgwrsio ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Gwnaeth eu teuluoedd hefyd elwa ar y prosiect gan fod y menywod yn rhannu eu sgiliau digidol ac yn coginio’n fwy iach.

Wrth i’w hyder digidol gynyddu, roeddent yn gallu defnyddio technoleg, megis sgyrsiau byw a System Leoli Fyd-eang, mewn agweddau eraill ar eu bywydau. Arweiniodd hyn ar welliannau ychwanegol i’w lles meddyliol, cymdeithasol ac economaidd.