Neidiwch i’r prif gynnwys

Stori Margaret

Mae Margaret yn Ieithydd sydd wedi ymddeol. Roedd mynd ar-lein yn peri cryn straen iddi yn y gorffennol, ond ers iddi fod yn gweithio gyda Peter, gwirfoddolwr digidol o Age UK, mae hi wrth ei bodd yn mynd ar-lein nawr.

Gwraig hŷn yn gwenu wrth ddal tabled.

Cefais iPad gan fy ngŵr, a daniodd fy niddordeb mewn mynd ar-lein gan nad oeddwn yn dymuno cael fy ngadael ar ôl.

Dechreuais weithio gyda Peter, sydd wedi bod yn brofiad gwych, ac mae fy niolch yn fawr iddo.  Mae wedi helpu llawer ac wedi fy ngalluogi.  Yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn lle bu diffyg cyswllt, mae wedi bod yn un o’r pethau da ac mae wedi gwella fy mywyd yn gyffredinol.  Ieithydd ydw i, ac mae wedi caniatáu i mi gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau yn Sbaen a chael newyddion gan fy nheulu, yr wyf yn cael cyswllt mwy rheolaidd gyda nhw erbyn hyn.

Mae’n fwy nag y byddem wedi’i ystyried yn bosibl i ddechrau, ac rydw i’n ei ddefnyddio ar gyfer fy niddordebau erbyn hyn.  Er enghraifft, mae fy mab yn anfon fideos ataf gyda recordiad o ganeuon, a doeddwn i ddim yn gwybod sut i gadw’r rhain am gyfnod.  Ers hynny, rydw i wedi darganfod eu bod ar gael ar YouTube hefyd.  Mae fy mywyd yn fwy pleserus nawr, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo pan fyddaf heb wythnos waith ac mae gen i lawer o amser rhydd.  Rydw i’n dwli arno erbyn hyn!

Quotation mark

Mae fy mywyd yn fwy pleserus nawr, rydw i'n dwli arno erbyn hyn!

Margaret