Neidiwch i’r prif gynnwys

Cefndir Cymunedau Digidol Cymru

Nod Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yw lleihau achosion o allgau digidol yn ein gwlad. Hoffem weld Cymru yn wlad lle mae gan bawb y cymhelliant, y sgiliau a’r cyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol yn hyderus.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Menyw yn derbyn cymorth ar gyfrifiadur

Pwy sy’n cyflawni’r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru

Mae rhaglen Cymunedau Digidol Cymru wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei chyflawni gan Cwmpas mewn partneriaeth â’r Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe. Dechreuodd y rhaglen yn 2019 a fydd ar waith tan fis Mehefin 2025.

Cwmpas

Mae staff Cymunedau Digidol Cymru sy’n gweithio yng Cwmpas, yn rhoi cymorth wedi’i deilwra i sefydliadau er mwyn eu helpu i sefyldu cynhwysiant digidol yn eu strategaethau a’u harferion gwaith. Mae’r tîm hefyd yn cydlynu ystod o fentrau gwirfoddoli er mwyn cynyddu sgiliau gwirfoddoli cynhwysiant digidol ledled Cymru.

Mae Cwmpas (Canolfan Cydweithredol Cymru gynt) wedi darparu rhaglenni cynhwysiant digidol yng Nghymru ers 2005 (Cymunedau@EiGilydd a Cymunedau 2.0) gyda’r nod o ddarparu’r sgiliau a’r hyder i bobl deimlo’n fwy cynwysedig a chymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Rydym yn gweithio law yn llaw â chymunedau ar faterion o bwys iddyn nhw. Trwy wneud hyn, hoffem newid y modd mae’r gymdeithas yn gweithio, fel nad yw pobl na chymunedau yn teimlo eu bod wedi’u gadael allan mwyach. Rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar unigolion a chymunedau sydd fwyaf angen cymorth.

Good Things Foundation

Mae’r sefydliad hwn yn rheoli rhwydwaith o ganolfannau Cynhwysiant Digidol (Canolfannau Ar-lein y DU yn flaenorol) lle gall pobl ddefnyddio cyfrifiadur a chael cymorth i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol. Cliciwch yma i weld y gwasanaethau sydd ar gael mewn Hwb yn agos atoch chi. Mae hefyd yn cyhoeddi adnoddau dysgu digidol ar blatfform Learn My Way ac yn arwain ymgyrch genedlaethol y DU, Get Online Week.

Prifysgol Abertawe

Prifysgol Abertawe yw ein partner ymchwil, sy’n rhannu’r hyn a ddysgwyd ac ysgogi trafodaethau ar bolisïau yn y maes. Rydym yn gweithio’n benodol gydag Ysgol Reoli ac Academi Morgan y Brifysgol, er mwyn denu cymorth ac arbenigedd meddylwyr blaenllaw ac arbenigwyr yn y maes – yn enwedig yr Athro Tom Crick MBE a’r Athro Hamish Laing.

Ein hamcanion

Byddwn yn:

  1. Gweithio’n helaeth gyda sefydliadau penodol i gyd-gynhyrchu dulliau sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl sydd angen cymorth sgiliau digidol sylfaenol.
  2. Meithrin a chryfhau perthnasau strategol fel ffordd o wreiddio gweithgareddau cynhwysiant digidol ledled Cymru.
  3. Cefnogi Byrddau Iechyd Cymru i ennyn diddordeb staff a gwirfoddolwyr mewn technoleg er mwyn gwella canlyniadau iechyd cleifion.
  4. Helpu sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector i gofleidio a sefydlu cynhwysiant digidol yn eu strategaethau a’u harferion lleol.
  5. Hyrwyddo a chynyddu gwaith gwirfoddol mewn sgiliau digidol sylfaenol ledled Cymru.
  6. Gweithio gyda phob Awdurdod Lleol yng Nghymru i sefydlu cynhwysiant digidol yn rhan o’u darpariaeth gwasanaeth, gyda phwyslais ar ofal cymdeithasol
  7. Ymgysylltu â’r sector preifat i sefydlu cynhwysiant digidol yn eu gwasanaethau a hyfforddi staff i fod yn wirfoddolwyr.
  8. Creu, datblygu a rhannu adnoddau a phecynnau hyfforddi er mwyn cefnogi cynhwysiant digidol gyda phwyslais ar iechyd a gofal cymdeithasol
  9. Cynyddu nifer y Canolfannau Ar-lein ar niferoedd sy’n dilyn cyrsiau Learn my Way yng Nghymru.

Gyda phwy rydyn ni’n gweithio?

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gyrraedd unrhyw un nad yw ar-lein. Gwyddom mai’r ffordd orau o gysylltu â’r bobl hyn yw trwy weithio gyda’r sefydliadau sy’n rhoi cymorth uniongyrchol iddyn nhw. Rydyn ni’n cydweithio â chyrff y trydydd sector a’r sector cyhoeddus, a sefydliadau mawr y sector preifat, gan gynnwys darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Llun o fap o Gymru

 

Cefnogi’r sector iechyd a gofal

Mae ein rôl o gefnogi darparwyr iechyd a gofal yn hollbwysig. Rydym yn gweithio gyda’r saith Bwrdd Iechyd er mwyn:

  1. Helpu staff clinigol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i ddatblygu eu sgiliau digidol fel bod staff yn gallu bod yn hyrwyddwyr digidol gan argymell sgiliau digidol i’w cleifion
  2. Cysylltu sefydliadau iechyd, gofal a gwasanaethau cymdeithasol â llu o bartneriaid cymunedol i wella’r cymorth cynhwysiant digidol sydd ar gael
  3. Darparu adnoddau a hyfforddiant i sefydlu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Digidol ymhlith staff iechyd a gofal cymdeithasol
  4. Creu Rhwydwaith Gwybodaeth Iechyd Digidol o ddarparwyr cymunedol sy’n gallu cynnig cymorth wyneb yn wyneb er mwyn helpu pobl i wella eu sgiliau

Mwy am Gymunedau Digidol Cymru