Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwnewch yn heini a chael ar-lein!

Mae'n fis Ionawr, a dyma'r adeg pan fydd pobl yn addunedu i golli pwysau, magu ffitrwydd neu ddysgu sgiliau newydd. Dyma'r adeg berffaith i feddwl sut y gall pobl fagu ffitrwydd a dysgu sgiliau digidol sylfaenol ar yr un pryd.

Llaw menyw gyda gwylio smart a ffôn symudol yn dangos cyfradd curiad y galon

Yma yng Nghymru, rydym yn wynebu heriau sylweddol o ran iechyd. Gordewdra, alcohol, ysmygu a lefelau gweithgarwch corfforol isel – mae pob un o’r rhain yn fater difrifol. Mewn nodyn briffio i Aelodau Cynulliad yn 2016 am yr heriau iechyd cyhoeddus yng Nghymru, tynnwyd sylw at y canlynol:

  • Mae tua 1 o bob 5 oedolyn yng Nghymru yn ysmygu, ac mae hyn yn achosi 18% o’r marwolaethau ymhlith oedolion ac yn costio £386 miliwn y flwyddyn i’r GIG.
  • Bob blwyddyn, mae segurdod corfforol yn costio £314 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.
  • Mae mwyafrif pobl Cymru (58%) naill ai’n pwyso mwy na’r pwysau delfrydol neu’n ordew.
  • Yng Nghymru yn unig, mae camddefnyddio alcohol yn arwain yn uniongyrchol at dros 1,500 o farwolaethau’r flwyddyn ac mae cyfanswm y gost sy’n gysylltiedig â hyn yn £100 miliwn.
  • Mae camddefnyddio sylweddau yn cael effaith sylweddol ar gymdeithas. Amcangyfrifir bod costau economaidd a chymdeithasol cyfunol camddefnyddio alcohol a chyffuriau Dosbarth A yng Nghymru, tua £2 biliwn.

Ar ben hynny, y rheiny sydd â’r mwyaf o berygl o ddioddef iechyd gwael – y rheiny sydd ar incwm isel neu sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru – sydd hefyd yn debygol o fod â diffyg sgiliau digidol.

Felly, gyda thechnoleg ac apiau sy’n canolbwyntio ar ffitrwydd, dim ond ennill sy’n bosibl. Ar un llaw, maent yn gallu rhoi hwb i ysgogiad a dilyn cynnydd pobl sy’n ceisio gwella’u ffitrwydd, gan gynyddu’r tebygolrwydd o lwyddo yn y pendraw. Ar y llaw arall, gallant fod yn ffordd wych o helpu pobl sy’n gyndyn i ddefnyddio technoleg ddigidol i roi troi arni, gan eu helpu i wella’u sgiliau digidol.

Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi gweithio gydag amrywiaeth o fudiadau cymunedol sydd wedi helpu pobl i wella’u hiechyd gyda thechnoleg ac apiau ffitrwydd. Heddiw, rydym yn tynnu sylw at yr enghreifftiau hynny er mwyn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

  • Benthycodd prosiect HAPI yn RhCT declynnau Fitbit gan Cymunedau Digidol Cymru er mwyn i rai o’i chleientiaid weld sut y gallai’r dechnoleg hon wella’u ffitrwydd.
  • Mae pobl ym Mlaenau Gwent wedi gwella’u ffitrwydd, eu sgiliau digidol, eu hyder a’u hunan-barch diolch i brosiect Fitbit a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaeth Aneurin Leisure.
  • Roedd ar blymwyr, trydanwyr a pheintwyr sy’n gweithio i Gartrefi Melin angen sgiliau digidol sylfaenol i wneud eu gwaith. Trwy ddefnyddio teclynnau Fitbit, maent wedi llwyddo i ennill y sgiliau hyn mewn ffordd anffurfiol a hwylus.
  • I gleifion sydd wedi cael strôc, mae’r llwybr at wellhad yn un hir. Trwy ddefnyddio teclynnau Fitbit, mae’r siwrnai hon wedi cyflymu ac wedi bod yn fwy effeithlon i grŵp yn Ne-orllewin Cymru.

Ni all apiau fynd ar ddeiet na gwneud mwy o ymarfer corff; dim ond pobl sy’n gallu gwneud hynny. Serch hynny, mae’r dystiolaeth gan Cymunedau Digidol Cymru a’i chleientiaid yn awgrymu bod technoleg yn ffordd effeithiol o helpu pobl i ddod yn iachach ac i wneud newidiadau positif, hirdymor, i’w bywydau.