Neidiwch i’r prif gynnwys

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 – Rhyngrwyd gwell gyda’n gilydd!

Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ddydd Mawrth, 5 Chwefror, gyda’r slogan: ‘Rhyngrwyd gwell gyda’n gilydd’.

Wedi’i gydlynu yn y DU gan yr UK Safer Internet Centre bydd y dathliad yn cynnwys cannoedd o sefydliadau’n cymryd rhan ac yn ymuno mewn sgwrs genedlaethol am ddefnyddio technoleg yn gyfrifol, yn barchus, yn feirniadol ac yn greadigol.

Bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i amlygu defnyddio technoleg yn gadarnhaol ac archwilio’r rôl rydym ni gyd yn ei chwarae i helpu creu cymuned ar-lein well a mwy diogel. Mae’n galw ar bobl ifanc, rhieni, gofalwyr, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr gorfodi’r gyfraith, cwmnïau, gwneuthurwyr polisïau, ac ehangach i ymuno â’i gilydd i greu rhyngrwyd gwell.

Bob blwyddyn, ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, mae’r UK Safer Internet Centre yn creu amrywiaeth o adnoddau i helpu lleoliadau addysgol, ac ehangach, i ddathlu’r diwrnod. Mae hyn yn cynnwys:

Mae’r UK Safer Internet Centre yn gwahodd pawb i ymuno â chefnogwyr Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ledled y byd i helpu greu rhyngrwyd gwell, ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2019 a thrwy gydol y flwyddyn!

Dwy ferch a menyw sy'n defnyddio ffôn clyfar

UK Safer Internet Centre

Mae’r UK Safer Internet Centre yn bartneriaeth rhwng tair elusen flaenllaw – Childnet International, Internet Watch Foundation a South West Grid for Learning, (SWGfL), sy’n rhannu cenhadaeth i wneud y rhyngrwyd yn lle gwell i blant a phobl ifanc.

Penodwyd y bartneriaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd fel Safer Internet Centre for the UK ym mis Ionawr 2011, ac mae’n un o 31 o ganolfannau Safer Internet Centres y rhwydwaith Insafe.

Bydd cadlanciau Heddlu Gwent yn cael hyfforddiant Arwyr Digidol gennym i’w helpu i gynorthwyo pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel yn eu cymuned, ac yn ogystal byddwn yn Ysgol Bro Lleu, Penygroes yng Ngwynedd yn ysbrydoli’r genhedlaeth newydd i gynorthwyo pobl hŷn i fynd ar y We yn hyderus a diogel. Byddwn ni hefyd yn rhannu nifer o astudiaethau achos a fideos am waith #ArwyrDigidol ac mae llawer ohono’n pontio’r cenedlaethau i gyflawni cydlyniad cymunedol. Hefyd, bydd ddiweddariad am ein cynllun Cyfeillion Digidol, prosiect enghreifftiol Bevan, a gefnogir gan Gomisiwn Bevan.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.saferinternet.org.uk a gwefannau’r partneriaid: Childnet, Internet Watch Foundation a SWGfL.