Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwrdd â’r Arweinydd Digidol: Scott Tandy – Swyddog Adfywio Cymunedol, Cymdeithas Tai Newydd

Scott Tandy sy’n siarad am ei amser gyda Chymdeithas Tai Newydd, yn helpu tenantiaid i fynd ar-lein, y prosiect dylunio ‘mainc ddigidol’ gyda phobl ifanc ar gyfer gwefru dyfeisiau yn gyhoeddus a darparu cysgod i bobl ddigartref ar frys, getfit.wales a defnyddio’r cynllun ‘Loan IT’ i ddileu rhwystrau rhag cael mynediad i gyfarpar digidol.

Scott Tandy, Tai Newydd

Ers pryd ydych chi wedi bod ynghlwm ag iechyd/cynhwysiant digidol, a pha swyddi ydych chi wedi’u cael?

Dechreuais fy nghyflogaeth gyda Newydd yn 2010 fel Cydlynydd Cynllun ar gyfer un o’n cynlluniau gwarchod ym Mhenarth. Symudais i fy rôl bresennol yn 2014, lle arweiniais Ymgysylltu â Ieuenctid a Chynhwysiant Digidol am sawl blwyddyn. Yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar Gynhwysiant Digidol yn unig, a fy nghyfrifoldebau yw gweithio gyda phartneriaid i gynnig darpariaeth ddigidol trwy lyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol,  cynorthwyo ein tenantiaid i ddefnyddio offer digidol a’r rhyngrwyd trwy ein cynllun ‘Loan IT’, cynnal sesiynau digidol a chredyd cynhwysol un i un, gosod technoleg ddeallus yn ardaloedd cyffredinol ein cynlluniau gwarchod, cynorthwyo cyflwyniad ein porth hunanwasanaeth ‘Fy Newydd’, a gweithio gyda phartneriaid i gynyddu lefelau ymarfer corff a chodi ymwybyddiaeth y cyfranogwyr am y ddarpariaeth iechyd leol trwy hyrwyddo getfit.wales.

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn ystod eich amser yn y sector?

Hyd yma, yr hyn rwy’n fwyaf balch ohono yw cynorthwyo grŵp o bobl ifanc yn Rhydyfelin gyda’u syniad ar gyfer mainc ddigidol. Cymerodd ddwy flynedd, o’r syniad cychwynnol hyd at gwblhau’r prosiect, gan ein bod ni eisiau creu rhywbeth fyddai’n caniatáu’r defnyddiwr i wefru dyfeisiau digidol trwy ddefnyddio technoleg solar, gan gynnig cysgod brys i bobl ddigartref ar y stryd ar yr un pryd.

Er mwyn galluogi’r bobl ifanc i weithio ar bob agwedd ar y prosiect hwn, cydweithiais gyda sawl sefydliad partner, a addysgodd sgiliau hanfodol iddynt er mwyn bodloni’r gofynion a nodwyd yn eu dyluniadau.

Mae’r ‘fainc ddigidol’ wedi’i lleoli ar dir Eglwys Sant Catherine, Pontypridd. Mae’r adborth gan staff a gwirfoddolwyr yr eglwys wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae pawb o ddisgyblion ysgol, staff lleol, pobl ddigartref a’r cyhoedd wedi bod yn defnyddio’r cyfleusterau gwefru digidol.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn ystod eich cyfnod yn y swydd?

Yr unig beth rydw i eisiau yw bod tenantiaid Newydd ac aelodau’r cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt yn cael mynediad i offer digidol, hyfforddiant ac adnoddau – a fydd yn eu galluogi i gael gwybodaeth, gwasanaethau a swyddi er mwyn eu galluogi i fyw eu bywydau yn llawn.

Yn eich profiad chi, beth yw’r rhwystrau mwyaf sy’n atal pobl mewn angen rhag cael mynediad i ddarpariaethau cynhwysiant a/neu iechyd digidol?

Mae’r adborth gan denantiaid yn awgrymu mai’r rhwystrau mwyaf i gynhwysiant digidol yw mynediad, cost a hyder. Yn Newydd, rydym ni wedi ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn mewn sawl ffordd.

I ddileu rhwystrau rhag cael mynediad, ac i fynd i’r afael â chostau prynu cyfarpar digidol a mynd ar y rhyngrwyd, sefydlom ein prosiect ‘Loan IT’. Nod y prosiect yw darparu offer digidol (gliniaduron, llechi cyfrifiadurol a ‘dongles’ ac ati) i denantiaid am hyd at un mis i roi mwy o hyder i bobl ddefnyddio dyfeisiau digidol a mynd ar y rhyngrwyd. Hefyd, rydym yn cyfeirio’r tenantiaid at y cymorth digidol agosaf er mwyn eu galluogi i ddysgu sut i fanteisio ar y cyfarpar a mynd ar y rhyngrwyd yn hyderus ac yn ddiogel.

Yn sgil benthyg cyfarpar a chymryd rhan yn hyn, rydym wedi gweld hyder a chymhelliad y defnyddwyr yn cynyddu. Ar ben hynny, trwy ddefnyddio’r cyfarpar a’r rhyngrwyd gartref, mae’n helpu ein tenantiaid i benderfynu a fyddant yn prynu eu dyfeisiau digidol eu hunain ai peidio a/neu gael cysylltiad â’r rhyngrwyd ar ôl y cyfnod benthyca.

Oherwydd llwyddiant y prosiect hwn, rwy’n gweithio gyda Danielle Roberts yng Nghymunedau Digidol Cymru a phartneriaid o’r grŵp ‘Cael y Fro Ar-lein’ i ddatblygu’r prosiect hwn ar draws pob llyfrgell ym Mro Morgannwg. Pan fydd wedi’i lansio, bydd hyn yn golygu y bydd modd i aelodau’r llyfrgell fenthyg llechen gyfrifiadurol gyda chysylltiad â’r we yn yr un ffordd â benthyg llyfr. Y gobaith yw, trwy sefydlu’r cynllun hwn, y gall aelodau gwasanaeth llyfrgell Bro Morgannwg elwa ar fynediad i ddyfeisiau digidol a’r rhyngrwyd.

Mae’r gallu i fynd ar y we yn hyderus yn broblem fawr i lawer o’n tenantiaid yn Newydd. Er mwyn ceisio lleihau’r ofn hwn, rwyf wedi gweithio gyda nifer o bartneriaid, ac rwyf yn cael fy nghefnogi gan sawl hyrwyddwr digidol i sefydlu darpariaeth cymorth digidol ym mhob llyfrgell ym Mro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf. Rwy’n deall nad yw pawb yn gallu cyrraedd y llyfrgell i gael cymorth digidol ac, felly, rwyf wedi sefydlu cymorth digidol un i un yn y cartref. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn boblogaidd dros ben ymysg tenantiaid Newydd ac aelodau’r gymuned. Mae straeon gwirioneddol ryfeddol wedi codi o’r prosiect hwn, sy’n glod mawr i lefel y cymorth a’r gwasanaeth a ddarparwyd gan yr hyrwyddwyr digidol a’r partneriaid.