Neidiwch i’r prif gynnwys

Ymunwch â ni yn Wythnos Dewch Ar-lein 2019!

Wythnos Dewch Ar-lein yw'r ymgyrch genedlaethol flynyddol i wneud fel y mae'r enw'n ei awgrymu – cael pobl i ddod ar-lein. Eleni, rydym yn gweithio gyda'r Good Things Foundation, a sefydlodd yr ymgyrch ac sy'n ei rheoli.

Llun o ddynes yn gwenu gyda'r capsiwn: 'Datblygais y sgiliau oedd eu hangen arnaf i wneud y swydd rwy'n ei charu.'
Llun o ddynes ar ei ffôn ac yn gwenu gyda'r capsiwn: 'Rwy'n rhydd o ddyled ac mewn rheolaeth o fy arian'

Yn ystod yr wythnos 4-20 Hydref, byddem wrth ein bodd pe gallech gynnal digwyddiad neu weithgaredd i gynorthwyo pobl i wneud rhagor ar-lein, trwy gyfrifiaduron, ffonau clyfar, tabledi a hyd yn oed bensetiau rhith-wirionedd!

Pa un a ydych yn ysgol, yn goleg, yn gartref gofal, yn gymdeithas tai, yn fwrdd iechyd, yn elusen neu’n awdurdod lleol, ymunwch â ni i helpu pobl i fwynhau buddion y Rhyngrwyd.

Yma yn Cymunedau Digidol Cymru: Hyder, Iechyd a Lles Digidol, rydym yn gweithio i annog cynifer o’n cleientiaid a rhanddeiliaid – fel chi – i helpu Cymru i wneud cyfraniad gwych i Wythnos Dewch Ar-lein.

A allai eich staff neu wirfoddolwyr wneud rhywbeth i helpu’r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw ac yn eu cynorthwyo, i feithrin sgiliau newydd a chael hwyl ar yr un pryd?

Mae yna nifer o Arwyr Digidol, Hyrwyddwyr Digidol a Chymdeithion Digidol yng Nghymru – Mae Wythnos Dewch Ar-lein yn gyfle gwych i ddangos pa mor dda maen nhw’n neilltuo eu hamser i helpu eraill.

Os ydych yn cynnal digwyddiad, ewch i wefan Wythnos Dewch Ar-lein, a chofrestrwch eich digwyddiad(au). Gallwch hefyd archebu pecyn digwyddiad, sy’n llawn o ddeunyddiau i’ch helpu chi, y trefnydd, a chofrestru ar gyfer newyddlen Wythnos Dewch Ar-lein.

Peidiwch ag anghofio defnyddio’r hashnod #WythnosDewchArLein #GetOnlineWeek wrth siarad am yr ymgyrch a’ch digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch hefyd ein tagio yn eich trydariadau trwy ddefnyddio @DC_Wales

Os na allwch gynnal digwyddiad, gallwch hefyd gefnogi Wythnos Dewch Ar-lein trwy hyrwyddo’r ymgyrch ac annog eraill i gymryd rhan.

Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld ar wefan Wythnos Dewch Ar-lein