Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae angen gweithredu brys a radical er mwyn cynyddu cynhwysiant digidol yng Nghymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots, wedi ysgrifennu blog i ni am effaith sylweddol allgáu digidol ar bobl hŷn ac yn galw am weithredu ar gael gwared ar y rhwystrau i fynediad digidol.

I lawer ohonom, mae bod ar-lein wedi bod yn hynod werthfawr yn ystod y pandemig, gan ganiatáu i ni barhau’n gysylltiedig â’n teuluoedd a ffrindiau, cael at wybodaeth a chyfarwyddyd a defnyddio ystod eang o wasanaethau, o bethau fel apwyntiadau iechyd i siopa ac adloniant ar-lein.

Ond, ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol ar gyfer y pethau hyn – pethau a gymerwn yn ganiataol – nid yw hyn wedi bod yn bosibl. I lawer, mae’r gorbryder a’r ynysu a brofwyd yn y misoedd diwethaf wedi cael eu gwaethygu’n sylweddol trwy beidio â bod ar-lein.

Er bod hwn yn ddewis i rai, gwyddom y gall nifer o rwystrau atal pobl hŷn rhag cael eu cysylltu, gan gynnwys prinder sgiliau digidol neu brinder hyder wrth ddefnyddio technoleg ddigidol; rhwystrau ariannol, fel cost band eang a dyfeisiau; a phrinder mynediad i fannau sy’n cynnig mynediad rhyngrwyd am ddim, megis llyfrgelloedd, rhywbeth nad yw wedi bod yn bosibl yn ystod y cyfnod clo. Gwyddom hefyd fod prinder seilwaith digidol yn gallu bod yn rhwystr i bobl hŷn rhag mynd ar-lein, a all fod yn broblem benool mewn ardaloedd gwledig.

Mae effaith allgáu digidol yn rhywbeth a archwiliais fel rhan o’m hadroddiad ‘Gadael Neb ar Ol’, a gyhoeddais ym mis Awst. Seilir yr adroddiad ar dystiolaeth a gafwyd trwy ymgysylltu helaeth gyda phobl hŷn sydd wedi rhannu eu profiadau gyda mi trwy gydol y pandemig, ynghyd â gwybodaeth a thystiolaeth a gasglwyd trwy barhau i ymgysylltu â chyrff a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan.

Mae’r adroddiad yn galw am ystod o gamau gweithredu – ar unwaith ac yn y tymor hir – i ymdrin â’r materion a’r heriau maen nhw wedi eu hwynebu yn y misoedd diwethaf, diogelu eu hawliau a sicrhau bod gweithredu i ymdrin â materion ehangach sy’n perthyn i wasanaethau a chefnogaeth i bobl hŷn, y mae llawer ohonynt wedi’u gwaethygu gan Covid-19.

Rwyf felly wedi galw am ‘archwiliadau’ ar lefel gymunedol i’w cyflawni ar unwaith ledled Cymru i amlygu pobl hŷn y gallent fod yn agored i niwed sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn ystod y pandemig a’u darparu â chefnogaeth benodol i’w cael nhw ar-lein, gan gynnwys sicrhau bod dyfeisiau hawdd i’w defnyddio â mynediad i’r rhyngrwyd ar gael lle bo angen.

Rhaid i ni dynnu’r rhwystrau sy’n atal pobl hŷn rhag mynd ar-lein ac mae’n hanfodol ein bod yn gweld newid yn y ffordd y caiff pwysigrwydd cysylltedd digidol ei ystyried a’i ddeall: rhaid gweld mynediad digidol fel hawl ac fel cyfleustod hanfodol yn yr un ffordd yr ystyriwn yr angen am nwy a thrydan.

Dyma pam dw i’n galw am hawl i gysylltedd digidol gael ei sefydlu yng Nghymru, sy’n ystyried seilwaith digidol fel gwasanaeth hanfodol y mae angen mynediad fforddiadwy iddo gan y boblogaeth gyfan. Ar y cyd â hyn, hoffwn weld cyflwyniad tariff cymdeithasol ar gyfer mynediad i’r rhyngrwyd ac i Gymru weithio tuag at ddarparu mynediad cyffredinol am ddim i’r rhyngrwyd.

Hefyd, hoffwn weld byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn sefydlu rhaglenni gwaith allanol i gefnogi pobl hŷn ac adeiladu hyder digidol er mwyn cael at wasanaethau cyhoeddus, gan adeiladu ar waith llwyddiannus a ddarperir eisoes gan Gymunedau Digidol Cymru.

Mae’r cyfnod hwn wedi dangos bod angen gweithredu brys a radical er mwyn cynyddu cynhwysiant digidol yng Nghymru ac, fel Comisiynydd, byddaf yn parhau i weithio gyda Chymunedau Digidol Cymru ac ystod eang o bartneriaid i sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Heléna Herklots CBE

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn aelod o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru.