Neidiwch i’r prif gynnwys

Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 6 – Sgiliau Digidol

Post gan Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Dyma’r olaf yn ein cyfres o flogiau am y cenadaethau yn ein strategaeth ddigidol. Ond nid dyma’r lleiaf o bell ffordd. Mae sgiliau a chymhwysedd digidol yn hanfodol i bob agwedd ar y strategaeth hon, er mwyn datblygu hyder pobl i ddefnyddio technolegau digidol mewn bywyd bob dydd, arwain trawsnewid digidol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus a gwella rhagolygon swyddi. Dyna pam mae gwella sgiliau digidol yn sail i’r strategaeth gyfan.

Wrth edrych yn ôl dros y 5 cenhadaeth gyntaf, gallwn weld pa mor hanfodol yw sgiliau digidol i bopeth yr ydym am ei gyflawni. Yng Nghenhadaeth 1, roeddem yn cydnabod bod sgiliau digidol pobl yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol. Amlinellodd Cenhadaeth 2 sut mae datblygu sgiliau digidol lefel uwch yn allweddol i dwf yr economi ddigidol. At hynny, mae’r pandemig wedi dangos nad yw cymhwysedd a hyder digidol ar gyfer y gweithle yn unig. Mae’r genhadaeth hon yn adeiladu ar y camau gweithredu a nodwyd yn Cenhadaeth 4 ar gynhwysiant digidol. Rydym am i bobl ddatblygu hyder a sgiliau o oedran cynnar fel y gallant wneud y mwyaf o dechnolegau digidol yn eu bywydau ac yn y gweithle.

Yn 2019, nododd Adolygiad Brown yr heriau a’r cyfleoedd i weithlu Cymru yn y dyfodol wrth i awtomeiddio ac arloesi digidol fynd rhagddynt. Disgrifiodd yr adroddiad terfynol ras yn erbyn amser i Gymru achub y blaen o ran arloesi digidol a sicrhau bod gennym y sgiliau cywir yn eu lle i fanteisio ar hyn. Mae’r pandemig wedi cyflymu’r newid hwn.

Mae sgiliau digidol bellach yn ofynnol gan gyflogwyr mewn galwedigaethau ar draws pob lefel sgiliau. Yn ôl adroddiad No Longer Optional: Employer Demand for Digital Skills, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019, hyd yn oed ymhlith swyddi sgiliau isel, mae tri chwarter y swyddi mewn galwedigaethau digidol ac mae angen rhyw fath o sgiliau digidol ar gyfer 70% o’r holl rolau swyddi.

Yn ogystal, mae Fframwaith Digidol 2030 Llywodraeth Cymru yn disgrifio sut y dylai cymhwysedd digidol a hyder digidol gael eu hymgorffori ym mhob dysgu, gan roi’r dechrau gorau i bobl a rhoi’r sgiliau iddynt allu ymuno â’r gweithlu. Rydym hefyd am sicrhau y gellir cefnogi pobl i uwchsgilio ac ailhyfforddi yn ôl eu hangen drwy gydol eu bywydau.

Ein huchelgais yw datblygu sgiliau digidol mewn plant o’r oedran cynharaf posibl a darparu sgiliau digidol lefel uchel i bob dysgwr, gan sicrhau bod ein pobl ifanc yn gymwys yn ddigidol ac yn datblygu’n feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol. Mae ein Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn golygu bod cymhwysedd digidol wedi’i integreiddio ar draws y cwricwlwm a’i fod yn cael ei drin fel llythrennedd a rhifedd.

I gefnogi’r cwricwlwm digidol mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Hwb, sy’n rhaglen i wella’r defnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer addysgu a dysgu mewn ysgolion. Rydym eisiau manteisio ar y budd trawsnewidiol a geir drwy Hwb, gan ddangos yr effaith gadarnhaol y gall adnoddau digidol a thechnoleg ei chael ar addysg.

Mae ein Strategaeth Ddigidol wedi’i chynllunio i gefnogi’r nodau hyn. Dyna pam mae ein chweched Cenhadaeth yw creu gweithlu sydd â’r sgiliau, y galluogrwydd a’r hyder digidol i ragori yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd.

Felly, beth fyddwn ni’n ei wneud?

Gweithio gyda'n rhwydwaith o Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ac eraill i edrych ar dueddiadau yn y dyfodol o ran technoleg, swyddi a sgiliau. Gwella sgiliau yn y sector cyhoeddus drwy amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys cynyddu'r gallu i rannu gwybodaeth a rhannu arfer gorau o ran mentrau trawsnewid digidol ar draws Cymru. Darparu addysg, cyfleoedd datblygu sgiliau a rhaglenni allgymorth i sicrhau bod gan Gymru weithlu medrus a chronfa dalent ddigidol. Gweithredu amrywiaeth o raglenni cymorth sgiliau gyda chyflogwyr er mwyn diwallu eu hanghenion a darparu cymorth ariannol ar gyfer datblygu sgiliau digidol penodol. Cenhadaeth 6 Sgiliau Digidol: Creu gweithlu sydd â'r sgiliau digidol, y galluogrwydd a'r hyder i ragori yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd. Gwella dysgu proffesiynol mewn digidol i athrawon, a'u cefnogi i gymhwyso cymhwysedd digidol yn eu gwersi. Cefnogi a hyrwyddo prentisiaethau i feithrin Sgiliau yn y gweithle a chynyddu'r defnydd o radd-brentisiaethau mewn pynciau fel Rhaglennu Meddalwedd, Seiberddiogelwch a Dadansoddeg Data. Gan weithio gyda'r sector ôl-16 i gyflwyno Digidol 2030 er mwyn cefnogi dysgu digidol mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion. Manteisio ar raglen Hwb i ddarparu gwasanaethau digidol, ysbrydoli athrawon a dysgwyr i ymgorffori arferion digidol a datblygu eu hyder, eu sgiliau a'u gwybodaeth.

Beth fydd yn wahanol?

Ein nod yw cyflawni’r gyfres hon o ganlyniadau:

  • Bydd dinasyddion a busnesau yn hyderus yn ddigidol ac yn gallu manteisio’n llawn ar y cyfleoedd y gall technolegau digidol eu cynnig.
  • Mae pobl ifanc yn cael cyfle i fod yn gymwys yn ddigidol a datblygu’n feddylwyr mentrus, creadigol ac arloesol gyda rhagolygon da ar gyfer swyddi sy’n rhoi boddhad iddynt.
  • Mae sefydliadau’n darparu gwasanaethau sy’n seiliedig ar anghenion defnyddwyr, gan wneud penderfyniadau gwybodus ac effeithiol a datblygu diwylliant digidol a data.
  • Mae gan weithwyr proffesiynol yng Nghymru fwy o hyder o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol, gan gynnwys athrawon a meddygon teulu, oherwydd bod ganddynt y sgiliau digidol angenrheidiol.
  • Mae gan fusnesau yng Nghymru yr hyder a’r weledigaeth wrth gynllunio busnes i ddatblygu modelau busnes cystadleuol sy’n manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd sy’n gysylltiedig â thechnoleg ddigidol, ac sy’n gallu ymgysylltu â’r gronfa dalent fedrus iawn sydd wedi’i datblygu yng Nghymru.
  • Mae busnesau’n buddsoddi yn eu gweithlu gan eu bod yn cydnabod y gwerth a ddaw yn sgil sgiliau digidol.
  • Caiff talent ei datblygu a’i chadw ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.

Cynllun ar gyfer cyflawni

Fel y dywedwyd yn ein blogiau blaenorol, bydd yn rhaid wrth gynllun cyflawni clir er mwyn sicrhau’r canlyniadau hyn. Mae gwaith wedi’i wneud eisoes i nodi rhai o’r camau y mae angen eu cymryd a’r pethau y mae angen eu newid. Bydd y camau hyn yn y Strategaeth Ddigidol hon yn cefnogi’r gweithgarwch sy’n mynd rhagddo i greu adferiad economaidd. Dyma’r fersiwn gyntaf o’n map ffordd ar gyfer cyflawni’r nod hwnnw. Bydd yn ddogfen fyw a byddwn yn monitro ac yn adrodd ar y cynnydd a wneir.

Eich adborth chi

Byddem yn falch iawn o gael clywed eich barn am yr amcanion sydd gennym yn y genhadaeth hon, am y canlyniadau yr ydym am eu cyflawni, ac am sut yr ydym yn bwriadu eu cyflawni. Er enghraifft:

  • Ydych chi’n credu mai dyma’r canlyniadau cywir?
  • Pa rwystrau allai godi, yn eich barn chi?
  • Ydych chi’n credu bod unrhyw fylchau ac, os ydych, beth ydyn nhw?
  • Pe bai’n rhaid ichi flaenoriaethu, beth fyddai eich 3 prif flaenoriaeth?

Byddem yn hoffi clywed eich sylwadau chi, gallwch neud hyn drwy lenwi’r ffurflen ar-lein neu drwy ymateb yn adran sylwadau’r blog hwn. Bydd y ffurflen ar-lein a’r adran sylwadau ar agor tan ddiwedd Ionawr 2021.

Ni fyddwn yn ymateb i bob sylw unigol, ond byddwn yn ystyried eich adborth wrth i ni fynd ati i ddatblygu Strategaeth Ddigidol Cymru.

Bydd ein blog nesaf, sef y blog olaf yn y gyfres hon, yn crynhoi’r adborth sydd wedi dod i law a’r camau nesaf ar gyfer datblygu’r fersiwn derfynol a gaiff ei chyhoeddi yn y gwanwyn.