Neidiwch i’r prif gynnwys

Dathlu gwirfoddolwyr digidol ar gyfer Wythnos Wirfoddolwyr – Cysylltiad a Chydweithio

Mae Gwirfoddoli Digidol yn rhywbeth na ddylid ei danamcangyfrif. Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr mae Jenny Phillips wedi edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf a’u rôl bwysig yn ystod y pandemig.

Logo Wythnos Gwirfoddolwyr

Yr Wythnos Wirfoddolwyr hon rydym am ddathlu cyfraniad Gwirfoddolwyr Digidol.  Diolch i bob person ledled Cymru sydd wedi rhoi o’u hamser i estyn cymorth i rywun a’u helpu i gymryd eu camau cyntaf i’r byd digidol.

Mae’r pandemig wedi dangos i ni efallai mai’r unig ffordd o gysylltu gyda’n hanwyliaid, ymgysylltu â’r byd y tu allan, cysylltu â’n cymunedau, cyrchu nwyddau, gwasanaethau meddygol, a chyflawni ein swyddi yw drwy defnyddio ein sgiliau digidol. Yn hytrach na bod yn beth braf i’w gael neu’n sgil ychwanegol, fe brofwyd bod y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio technoleg ac i fynd ar-lein yn achubiaeth yn ystod y pandemig.

Mae gwirfoddolwyr digidol ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfrifol am gefnogi rhai o’r bobl fwyaf ynysig a bregus yn ein cymunedau. Dangosodd Mynegai Digidol Defnyddwyr diweddar Lloyds UK fod 13% o boblogaeth Cymru wedi’u dosbarthu fel rhai ‘all-lein’, 8% yn uwch na chyfartaledd y DU. Fodd bynnag, roedd Cymru yn ail yn unig i Lundain o ran hyder digidol ei dinasyddion a oedd yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd. Mae hyn yn dangos rhaniad amlwg iawn yng Nghymru rhwng y rhai sy’n gallu, a’r rhai sydd ddim yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd. [1]

Mae gan wirfoddolwyr digidol y pŵer i estyn cymorth ar draws y rhaniad hwn.  Gallant gefnogi pobl i fagu hyder, i ddysgu sut i ymgysylltu â thechnoleg ac i gysylltu â hi mewn ffordd sy’n ystyrlon iddynt. Gall y rhai sy’n gallu ymuno â galwad fideo ddychmygu pa mor bwerus yw gweld wyneb cyfarwydd ar ôl diwrnodau di-ddiwedd ar eu pennau eu hun. Yng ngeiriau un gwirfoddolwr ar ôl helpu rhywun i ymuno â galwad fideo am y tro cyntaf, “Roedd yn brofiad mor  emosiynol pan welsom ni’n gilydd o’r diwedd.”

Mae’r astudiaethau achos yr ydym yn eu rhannu gyda chi yr Wythnos Wirfoddolwyr hon yn dangos i ni effaith anhygoel o bwerus gwirfoddoli digidol.  Dyw’r straeon ddim yn ymwneud â’r dechnoleg, ond am y bobl a’r cysylltiadau sydd rhyngddynt.

Gwelir thema debyg o gysylltiad mewn ymchwil ddiweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru[2]. Mae’n edrych yn debygol iawn y bydd y dyfodol yn gymysgedd cyfunol o gysylltiadau wyneb yn wyneb a rhithiol i ni gyd. Mae’r ymchwil yn argymell bod angen i ni gydweithio i greu lleoedd cynhwysol ar ac all-lein wrth i ni adfer yn dilyn y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth Ddigidol i Gymru sy’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol digidol cydweithredol hwn. Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd rôl gwirfoddolwyr wrth helpu i gyflawni’r weledigaeth hon. Mae angen i bobl roi o’u hamser i estyn cymoeth i eraill a’u cefnogi gydag empathi ac amynedd ar eu taith ddigidol.  Bydd gwirfoddolwyr digidol yn hanfodol wrth sicrhau fod pawb yng Nghymru ar y daith tuag at Gymru sy’n ddigidol hyderus.[3]

[1] https://www.lloydsbank.com/assets/media/pdfs/banking_with_us/whats-happening/210513-lloyds-consumer-digital-index-2021-report.pdf

[2] https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2021/05/The-role-of-communities-and-the-use-of-technology-in-mitigating-loneliness-during-the-coronavirus-pandemic.pdf

[3] https://llyw.cymru/strategaeth-ddigidol-i-gymru-html