Neidiwch i’r prif gynnwys

Ymateb Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol

Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ym mis Medi 2021 ar Defnyddio cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd ein cenedl. O fewn yr ymgynghoriad roedd cwestiwn ynghylch dangosydd ar gyfer safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Mae gosod safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn flaenoriaeth ar gyfer Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, felly rydym yn falch o weld y cwestiwn hwn yn rhan o’r ymgynghoriad. Ymatebodd llawer o’n sefydliadau sy’n aelodau yn unigol, ond teimlem ei bod yn bwysig ein bod yn ymateb fel y Gynghrair. Gofynnwyd i aelodau fwydo unrhyw wybodaeth roeddynt am iddi gael ei chynnwys ac isod ceir ymateb Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru.

Gan ddefnyddio’r Dangosyddion Cenedlaethol a Cherrig Milltir i Fesur Cynnydd ein Cenedl

C12. Ydych chi’n meddwl y dylid ychwanegu dangosydd ar safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol at y set bresennol o ddangosyddion?

Ydym. Mae’r Gynghrair Cynhwysiant Digidol yn gryf o blaid ychwanegu dangosydd ar safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol at y set bresennol o ddangosyddion.

a) Os gwnaethoch ateb “Ydw”, nodwch y syniad(au) neu’r cysyniad(au) yr hoffech i’r dangosydd eu casglu?

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn grŵp amlsector o sefydliadau sy’n dwyn ynghyd bobl o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat, academaidd, polisi a’r trydydd sector yng Nghymru i gydlynu a hyrwyddo gweithgarwch cynhwysiant digidol. Galwodd y Gynghrair am safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol fel blaenoriaeth yn ei Agenda ar gyfer cynhwysiant digidol diweddar.

Mae Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 2 Cynhwysiant Digidol yn diffinio cynhwysiant digidol fel gallu rhywun i gael mynediad at y rhyngrwyd, gallu i ddefnyddio ac ymgysylltu â thechnoleg ddigidol, yn gyfrinachol ac yn ddiogel, fel y mae’r unigolyn ei angen. Gofynion sylfaenol yw’r rhain ar gyfer cymryd rhan mewn cymdeithas ddigidol. Mae digideiddio bywyd pob dydd yng Nghymru, sydd wedi’i ddwysau ymhellach gan Covid-19, yn gwneud y mater hwn yn bwysicach nag erioed, os yw pawb yn ein cymunedau am elwa ar dechnoleg ddigidol.

Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi: “Byddwn yn defnyddio’r cymhellion sydd ar gael i ni i gefnogi’r sector cyhoeddus, busnesau a chartrefi yng Nghymru i gael y cysylltedd sydd ei angen arnynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau digidol.”. Byddai sicrhau safon gofynnol ar gyfer bywyd digidol yng Nghymru yn gyfle pendant i fynd i’r afael â rhai o’r anghydraddoldebau sylfaenol yng nghymdeithas Cymru. Byddai dangosydd safon gofynnol ar gyfer bywyd digidol yn gwneud hyn, gan roi’r dystiolaeth i Lywodraeth Cymru archwilio ffyrdd newydd o sicrhau cyllid ac ymchwilio i gymhlethdod allgáu digidol.

Mae cynhwysiant digidol yn hollbwysig i ffyniant ein cenedl ac i bob un o saith nod llesiant cenedlaethol Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol. Mae safon gofynnol ar gyfer bywyd digidol yn berthnasol dros ben i sicrhau Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cadarn ac iachach.

Wrth i fwy a mwy o’n gwasanaethau sector cyhoeddus gael eu digideiddio ac wrth i fanciau a siopau adael y stryd fawr a symud ar-lein, rydym mewn perygl o  eithrio mwy o bobl o’r gymdeithas. Gyda GIG Cymru yn mabwysiadu “digidol yn gyntaf” rydym mewn perygl o ‘Gyfraith Gofal Gwrthdro’ ddigidol – gan adael y rhai a allai elwa fwyaf ar dechnolegau a modelau gofal newydd ar ei hôl hi. Yn wir, mae cynhwysiant digidol bellach yn cael ei gydnabod fel y penderfynydd cymdeithasol newydd ar gyfer iechyd. Os nad ydym yn sicrhau bod dinasyddion yng Nghymru yn cyrraedd safon gofynnol ar gyfer bywyd digidol, a bod yna ddangosyddion i fesur cynnydd, mae perygl y byddwn yn ehangu’r gagendor mewn canlyniadau iechyd a chydraddoldeb ar gyfer ein cymunedau.

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru hefyd wedi galw am ofyniad i bob cartref newydd gynnwys cysylltedd digidol fel safon. Mae tenantiaid tai cymdeithasol yn perthyn i un o’r grwpiau sy’n fwyaf tebygol o gael eu hallgáu yn gymdeithasol.

Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei roi ar waith o 2022 gyda chymhwysedd digidol yn sgil trawsgwricwlaidd gorfodol y bydd yn rhaid ei ymwreiddio: paratoi pobl ifanc ar gyfer byd ar-lein. Er mwyn i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol lwyddo, mae’n rhaid i ni sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad at gyfarpar a chysylltiad digidol digonol i gael cyfle i ddysgu ar-lein a pheidio â mynd ar ei hôl hi gydag addysg ffurfiol ac anffurfiol. Mae gofynion digidol tebyg ar gyfer dysgu ôl-16 yn Fframwaith Digidol 2030 ac i holl bobl Cymru yn Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 3 Sgiliau Digidol. Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau hyn, mae’n rhaid i ni allu mesur a yw pob aelwyd yn cyrraedd safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol.

Mae mynediad at fand eang 30Mb/2 eisoes yn ddangosydd allweddol ym mharth Mynediad at Wasanaethau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, ond nid mynediad ar sail lleoliad i seilwaith digidol ddylai fod yr unig ddangosydd ar gyfer allgáu digidol. Mae’n rhaid i ddangosydd safon gofynnol ar gyfer bywyd digidol fod yn fesur cadarn o:

  1. sgiliau a hyder digidol;
  2. y gallu i fforddio data a gwasanaethau digonol; a
  3. hygyrchedd seiliedig ar leoliad seilwaith digidol, gan gynnwys mynediad at gwmpas symudol lle nad oes band eang dibynadwy ar gael.
c ) Ydych chi’n ymwybodol o ffynhonnell ddata (neu ffynonellau data) y gellid ei defnyddio i fesur y dangosydd hwn?

Er mwyn cael mesurau ystyrlon a chywir ar gyfer y dangosydd hwn, credwn y byddai angen sawl pwynt data. Mae hyn yn debygol o wella gydag amser wrth i ffynonellau data ddod ar gael, ond byddem yn annog cynnwys dangosydd nawr yn hytrach nag aros i’r holl ddata fod yn ei le.

  • Er mwyn deall mynediad at fand eang, mae yna ddata Cysylltiad Ffeibr i’r Adeilad(FTTP) sy’n galluogi i awdurdodau lleol ddeall eu cyfraddau amddifadedd digidol, h.y. cyfran yr eiddo heb gysylltiad FTTP o hyd.
  • Er mwyn deall ymhellach fynediad at data symudol a mynediad wi-fi cyhoeddus, mae data ar gael gan OFCOM yn eu hadroddiadau Connected Nations. Yn aml, mae’r bobl hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at becynnau band eang diogel (am eu bod mewn llety dros dro, yn methu fforddio’r cyfraddau misol neu am eu bod yn byw mewn ardal lle nad oes cysylltiad band eang dibynadwy), yn dibynnu ar ddata symudol a phecynnau symudolwedi eu talu o flaen-llaw . Byddai angen gwell data ar gyfer symudol a byddai angen i fforddiadwyedd pecynnau a gynigir gan ddarparwyr symudol yng Nghymru fod yn ffynhonnell ddibynadwy i fesur y dangosydd hwn.
  • Mae gan Data Cymru ddata ar gyfraddau amddifadedd ar lefel leol yng Nghymru a gellid addasu ac ehangu hyn i’w ddefnyddio fel ffynhonnell ddata ar gyfer y gallu i fforddio data a dyfeisiau digonol. Byddai angen cael gwell dealltwriaeth gan reoleiddwyr o’r gwahanol oblygiadau ariannol rhwng bwndeli data wedi eu talu yn barod a biliau misol.
  • Er mwyn dechrau deall materion eraill ynghylch fforddiadwyedd a sgiliau, mae yna adroddiadau sy’n bodoli eisoes y gellid eu defnyddio, fel adroddiadau Sgiliau Digidol Hanfodol y DU gan Grŵp Bancio Lloyds ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, gyda’r ail yn ffynhonnell fwy cadarn oherwydd maint y sampl.
  • Hefyd, rydym yn tynnu eich sylw at Fynegai Ieuenctid Digidol Nominet, sef platfform meincnodi blynyddol newydd a adeiladwyd i gynnig mewnwelediad o un flwyddyn i’r llall o’r ymchwil a gesglir gan 2,000 o bobl ifanc 8 i 25 oed, gweithwyr cymdeithasol, rhieni a gofalwyr, gan archwilio sut deimlad yw bod yn berson ifanc yn tyfu mewn byd digidol.

Er mwyn helpu i lywio meddylfryd yn y maes hwn, gallai The Good Things Foundation Blueprint to Fix the Digital Divide a  ‘Lessons from Lockdown: 12 steps to eradicate digital exclusion’ gan Carnegie UK Trust fod yn ddefnyddiol. Yn ddiweddar, mae The Carnegie UK Trust, Good Things Foundation ac academyddion blaenllaw wedi sicrhau grant ymchwil gan Sefydliad Nuffield i gefnogi astudiaeth ‘tystiolaeth o gysyniad’ i ddatblygu MDLS ar gyfer aelwydydd gyda phlant ar gyfer y DU. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn a gobeithio y bydd yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni ac ymchwil i gymhwysiad ymarferol MDLS yng Nghymru a’r DU yn ehangach; mae’n un y dylem gadw llygad arno gyda diddordeb wrth i ni ddatblygu’r dangosydd hwn yng Nghymru.

Mae hefyd yn bwysig sicrhau fod y dangosydd hwn yn cael ddiogelu at y dyfodol ,  ac fe fydd yr hyn a olygir fel cynhwysiad digidol yn debyg o newid yn ddramatig wrth i fwy o’n bywydau a’n gwasanaethau symud ar-lein, ac wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu.

Credwn y dylai’r safon sy’n ofynnol ar gyfer bywyd digidol gael ei llywio’n barhaus gan lais defnyddwyr a phrofiadau byw.Dylid ei seilio ar ymchwil ansoddol o fewn cymunedau  wedi’i gynnal o’r bôn i’r brig, er mwyn ei llywio’n well. Os mai amcan y dangosydd hwn yw codi pob dinesydd yng Nghymru i safon gofynnol ar gyfer bywyd digidol, yna mae’n hollbwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio adnoddau cydgynllunio a dulliau a thechnegau  er mwyn ymgysylltu gyda’r dinasyddion hynny nad ydynt yn cyrraedd y safon nawr, er mwyn deall profiad y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Dim ond bryd hynny y gallwn obeithio deall hyd a lled a chymhlethdod allgáu digidol yng Nghymru a chreu darlun o’r heriau a’r rhwystrau sy’n wynebu unigolion, aelwydydd a chymunedau.

Mae cymhlethdod allgáu digidol yn golygu ei bod hi’n ofynnol i ni gymryd dull traws sector er mwyn arwain y byd wrth sefydlu ‘Safon Byw Gofynnol ar gyfer Bywyd Digidol i Gymru’.  Dyma’r safon y gellid cytuno i olygu beth yw holl hanfod cael eich cynnwys yn ddigidol yn y Gymru fodern, yn unol â’n Nodau Llesiant cenedlaethol.Trwy gymryd dull traws sector, gall Llywodraeth Cymru arwain wrth ddiffinio’r ystyr o o fod  yn gymdeithas gynhwysol ddigidol – gan greu’r metreg gofynnol  er mwyn rhoi’r dull a’r camau cywir ar waith i sicrhau ein bod yn gweld gwelliannau mewn darpariaeth gwasanaethau a chynnydd tuag at gynhwysiant digidol i bawb.