Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn rhyddhau ail rifyn o ‘O Gynhwysiant i Wydnwch’

Mae’r agenda newydd ar gyfer cynhwysiant digidol yn edrych ymlaen at yr hyn sydd angen ei wneud i fynd i’r afael ag allgáu digidol yng Nghymru

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru ‘O Gynhwysiant i Wydnwch: Agenda ar gyfer cynhwysiant digidol’ gan nodi pum maes blaenoriaeth lle roeddem yn teimlo y gall y Gynghrair wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dros y ddwy flynedd nesaf defnyddiwyd yr agenda fel ein canllaw i ganolbwyntio ein gweithredoedd, ac i ddod â phobl ynghyd.

Ers lansio’r rhifyn cyntaf, mae’r cyd-destun wedi newid yn aruthrol. Wrth i’n cymunedau wella ar ôl pandemig Covid-19, mae heriau economaidd a chymdeithasol newydd o’n blaenau. Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i ddyfnhau ledled y wlad, ac mae pobl yn gorfod gwneud dewisiadau anodd ynglŷn â sut maen nhw’n gwario eu harian, gan wthio mwy o bobl i  allgáu digidol. Canfu Mynegai Digidol Defnyddwyr Lloyds, erbyn mis Mai 2022, fod 35% o’r boblogaeth wedi nodi bod costau byw cynyddol yn effeithio ar eu gallu i fynd ar-lein. Mae hyn yn gwneud ein gwaith yn y pum maes blaenoriaeth yn fwy hanfodol. Mae’n hanfodol bod y gwaith i greu cymunedau cynhwysol a gwydn yn cael ei gynnal a’i gyflymu.

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru bellach wedi cyhoeddi ail rifyn o’r agenda i fyfyrio ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni yn y pum maes blaenoriaeth, ac i edrych ymlaen at heriau newydd yn y meysydd hyn.

Y pum maes blaenoriaeth yw:

Blaenoriaeth 1 – Gwreiddio cynhwysiant digidol ar draws pob sector
Blaenoriaeth 2 – Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Blaenoriaeth 3 – Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
Blaenoriaeth 4 – Blaenoriaethu sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd yn yr economi
Blaenoriaeth 5 – Rhoi safon byw digidol gofynnol newydd ar waith

Bydd yna heriau yn ein dyfodol, ond bydd y Gynghrair yn ymdrechu i sicrhau bod cynhwysiant digidol yn parhau i gael proffil uchel i sefydliadau ledled Cymru a’i fod yn parhau i sefydlu ei hun fel llais effeithiol ac annibynnol ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru.