Neidiwch i’r prif gynnwys

Blaenoriaeth 5: Gosod safon byw digidol gofynnol newydd a mabwysiadu dulliau cyd-gynhyrchu

Mae cyfle i ddefnyddio offer cyd-ddylunio ac ymgysylltu â dinasyddion a dull traws-sector o arwain y byd o ran sefydlu ‘Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru’ - safon gytunedig o’r hyn y dylid ei gynnwys yn ddigidol yn y Gymru fodern, wedi’i halinio â’n Nodau Llesiant cenedlaethol.

Mae Grŵp Llywio y Gynghrair yn mynd i gymryd camau i helpu i gyflawni canlyniadau ar gyfer y flaenoriaeth hon.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar y gwaith cwmpasu ar gyfer datblygu isafswm safon byw digidol i Gymru.

Byddwn yn rhannu gwaith LOTI, Digital Exclusion Risk Index a Digital Youth Index gyda’r rhwydwaith ehangach ac yn chwilio am gyfleoedd i gynhyrchu pethau tebyg yng Nghymru.

Byddwn yn hyrwyddo gweithgareddau sy’n mynd rhagddynt gyda chyrff eraill i helpu i greu cysylltiadau ar fynediad i wasanaethau.

Byddwn yn helpu Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a rhaglenni eraill gydag ymwybyddiaeth.

Byddwn yn hyrwyddo modelau ariannol sy’n cefnogi dulliau ailwneud a chydgynhyrchu.

Dylai Rhwydwaith DIAW helpu i hyrwyddo gweithgareddau sydd eisoes yn mynd ymlaen ar draws seilos/sectorau.



 

Cyfarfod Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru ar Flaenoriaeth 5

Ar 17 Chwefror 2022 cyfarfu Rhwydwaith DIAW i drafod Blaenoriaeth 5. Ymunodd yr Aelod Senedd a Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, Pennaeth Cynhwysiant Ariannol a Digidol Llywodraeth Cymru, Nigel Moss, a’r Athro Simeon Yates o Brifysgol Lerpwl â’r Rhwydwaith.

Gwyliwch y recordiad
Jane Hutt

Mae gan Agenda’r Gynghrair ar gyfer Cynhwysiant Digidol ganlyniadau allweddol ar gyfer y flaenoriaeth hon:

Pob sector yn gwneud mwy o ymdrech i ymgysylltu â grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli sy’n wynebu allgáu digidol.

Y profiad byw o allgáu digidol yn cael ei glywed mewn prosesau llunio polisïau.

Cyd-gynhyrchu â dinasyddion o ran cynllunio polisi a gweithredu gwasanaethau wedi’i ymgorffori ar draws yr holl wasanaethau a sectorau.

Ymchwil wedi’i gyd-gynhyrchu i archwilio ‘safon byw digidol gofynnol i Gymru’ yn cael ei gynnal gan gyrff allweddol sydd â’r pŵer i sicrhau newid.

Sefydlu Cynulliad Dinasyddion Cymru sy’n cefnogi cynhwysiant digidol ac sy’n gynhwysol ei ddyluniad.

Darllenwch ein Hagenda
front cover