Neidiwch i’r prif gynnwys

Tracwyr ffitrwydd yn helpu’r broses o wella ar ôl Strôc yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae'r broses o wella yn un hir i gleifion strôc ond gwnaeth Fitbits gyflymu'r broses hon a'i gwneud yn fwy effeithiol i grŵp yn Ne-orllewin Cymru.

Llun o Apple 3 ar wristiau menyw hyn.

Mae strôc yn un o brif achosion marwolaeth ac anabledd yn y DU. Mae dros 100,000 o bobl yn cael strociau yn y DU bob blwyddyn. At hynny, strôc yw un o brif achosion anabledd difrifol a hirdymor gan ei fod yn effeithio ar sgiliau echddygol cleifion yn sylweddol.

Mae gweithgarwch corfforol yn bwysig i bobl sydd wedi cael strôc gan y gall eu helpu i wella eu sgiliau echddygol a lleihau’r risg o gael strôc arall. Er hyn, gall cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol fod yn heriol ac yn aml gall pobl sydd wedi cael strôc fod yn anweithgar iawn.

Mae Grŵp Strôc Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys goroeswyr a phartneriaid cyfeillgar sy’n cyfarfod yn rheolaidd i helpu ei gilydd i greu bywyd gwell ar ôl cael strôc. Roeddent am ddod o hyd i ffyrdd o gymell ac annog goroeswyr i wneud mwy o weithgarwch corfforol. Ar y cyd â Chynhadledd Gymunedol Melincryddan (MCC), sefydliad datblygu cymunedol, gwnaethant benderfynu gweld a fyddai dyfeisiau gwisgadwy sy’n cyfrif camau neu’n mesur gweithgarwch yn gallu helpu i newid ymddygiad a chynyddu lefelau gweithgarwch corfforol.

Sut

Gwnaeth Cymunedau Digidol Cymru fenthyca pump Fitbit i Grŵp Strôc Castell-nedd Port Talbot a MCC. Gwisgodd wyth cyfranogwr y Fitbits am chwe wythnos i olrhain lefelau eu gweithgarwch ac i fonitro eu ffitrwydd.

Gwnaeth pob cyfranogwr bennu eu nodau iechyd personol yn wythnosol a rhoddwyd cymorth iddynt gyflawni’r nodau hyn. Gwnaeth gwirfoddolwyr MCC, a oedd wedi cael eu hyfforddi fel Hyrwyddwr Digidol gan CDC, helpu’r cyfranogwyr i ddefnyddio dangosfwrdd y Fitbit ar-lein a dangos adnoddau ar-lein eraill iddynt er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles.

Effaith

Nododd y cyfranogwyr fod lefelau eu gweithgarwch wedi cynyddu. Roeddent yn teimlo’n fwy awyddus i wneud ymarfer corff a dywedodd rhai ohonynt eu bod wedi colli pwysau.

Dywedodd Dwynwen, “Mae’r prosiect wedi bod yn wych yn fy marn i. Rwyf am gael Fitbit fy hun ar fy mhen-blwydd. Mwynheais fonitro fy nghamau, curiad fy nghalon a phatrymau cysgu. Mae’n fy annog i geisio cerdded yn fwy aml ac mae wedi fy ngalluogi i fynd i’r afael â phryderon penodol o ran curiad fy nghalon a fy iechyd cyffredinol gyda fy meddyg teulu.”