Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwirfoddolwyr AbilityNet yn helpu pobl i gael y gorau o’u technoleg adref

Mae AbilityNet yn cefnogi unrhyw un sy'n byw gydag unrhyw anabledd neu nam i ddefnyddio technoleg i gyflawni eu nodau adref, yn y gwaith ac mewn addysg.

Eu gweledigaeth yw byd digidol, sy’n hygyrch i bawb. Mae nhw’n gwneud hyn trwy ystod o wasanaethau, gan gynnwys eu prosiect Cymorth TG yn y Cartref.

Derbyniodd AbilityNet gymorth gan Gymunedau Digidol Cymru i ehangu’r prosiect hwn ledled Cymru. Trwy CDC, recriwtiwyd 20 o wirfoddolwyr a chafwyd hyfforddiant a chefnogaeth er mwyn helpu pobl anabl a phobl hŷn ar draws Cymru i wneud y gorau o dechnoleg a’u dyfeisiau digidol.

Bellach mae gan AbilityNet rwydwaith o wirfoddolwyr hyfforddedig yng Nghymru sy’n gallu cynnig cefnogaeth gyfrifiadurol a thechnoleg yn rhad ac am ddim i bobl hŷn a phobl ag anableddau o unrhyw oedran. Efallai bod gan bobl broblem gyda firws cyfrifiadurol, eu bod angen rhywfaint o help i osod band eang neu eu bod yn ddryslyd ynglŷn â diweddariadau neu negeseuon gwall.

Diolch i’w hyfforddiant, mae gan y gwirfoddolwyr digidol sgiliau TG perthnasol ac maent yn gallu helpu gyda mwyafrif y prif systemau cyfrifiadurol, gliniaduron, dyfeisiadau tabled a ffonau clyfar.

Gall y gwirfoddolwyr helpu mewn amryw ffyrdd, fel:

  • Dewis offer i ddiwallu anghenion penodol; gydag awgrymiadau ar galedwedd, meddalwedd a thechnoleg gynorthwyol
  • Helpu i osod a sefydlu caledwedd a meddalwedd newydd, ffurfweddu gosodiadau ac addasu opsiynau hygyrchedd
  • Canfod problemau, camweithio, firysau, negeseuon gwall ac egluro ceisiadau diweddaru meddalwedd
  • Gwella hyder a gallu gyda thechnoleg i sicrhau y gellir profi holl fuddion y byd digidol
  • Cymorth ar sut i siopa ar-lein, gwneud galwadau fideo i ffrindiau, chwarae cerddoriaeth neu gemau a defnyddio gwasanaethau adloniant eraill

Mae’r gwirfoddolwyr cyfeillgar yn cael eu gwirio drwy ddatgeliad a gallant gynorthwyo pobl dros y ffôn neu dros y rhyngrwyd, yn Saesneg ac yn y Gymraeg.

Dywedodd un cleient yn Aberteifi, “Gwasanaeth anhygoel. O fewn ychydig ddyddiau i gysylltu ag AbilityNet, datryswyd fy mhroblem gan (wirfoddolwr) o Ogledd Cymru, a weithiodd yn gyflym ac yn effeithlon ac roedd yn hawdd ei ddeall (hyd yn oed i decnoffôb 82 oed). ”

I ddarganfod mwy am y gwasanaeth, ewch i https://www.abilitynet.org.uk/at-home, ffoniwch 0800 048 7642 neu e-bostiwch ymholiadau@abilitynet.org.uk

 

 

Quotation mark

“Gwasanaeth anhygoel. O fewn ychydig ddyddiau i gysylltu ag AbilityNet, datryswyd fy mhroblem gan (wirfoddolwr) o Ogledd Cymru, a weithiodd yn gyflym ac yn effeithlon ac roedd yn hawdd ei ddeall (hyd yn oed i decnoffôb 82 oed). "

Buddiolwr cynllun gwirfoddoli AbilityNet