Neidiwch i’r prif gynnwys

Halo Leisure yn cynnig cymorth technolegol i bobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol

Mae’r fenter gymdeithasol a’r elusen gofrestredig Halo Leisure yn manteisio ar dechnoleg ddigidol i sicrhau nad yw grwpiau agored i niwed yn cael eu gadael ar ôl a’u bod yn gallu parhau i fod yn gorfforol egnïol yn niogelwch a chysur eu cartrefi eu hunain.

Merch hŷn yn edrych ar ei olrhain ffitrwydd

Hyd yn oed wrth i’r cyfyngiadau symud lacio, mae pobl agored i niwed a’u gofalwyr yn dal i dynnu’n ôl o’u cymunedau a gwasanaethau hamdden traddodiadol, felly mae mynediad at dechnoleg ddigidol yn bwysicach nag erioed. Fodd bynnag, mae llawer o grwpiau agored i niwed yn colli buddion technoleg ddigidol trwy ddiffyg mynediad, hyder neu wybodaeth.

Trwy gyllid gan Gronfa Frys Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Gwirfoddol, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chymunedau Digidol Cymru, mae Prosiect Cynhwysiant Digidol Halo yn cynorthwyo pobl agored i niwed, gan gynnwys y rhai hynny sydd â chyflyrau iechyd cymhleth a’u gofalwyr, i aros yn gorfforol egnïol a chynnal cysylltiadau trwy ddarparu cyfleoedd ar-lein i wneud ymarfer corff a chymdeithasu. Bydd dyfeisiau, mynediad i’r rhyngrwyd a hyfforddiant yn cael eu darparu i rai o gwsmeriaid mwyaf bregus Halo, nad ydynt yn gallu teithio i’w canolfan hamdden leol, o bosibl.

Dywedodd Rheolwr Cymunedau Egnïol Halo, Ryan Statton:

“Er bod y llywodraeth wedi cynghori pobl i aros yn egnïol a chynnal cysylltiadau trwy ddefnyddio technoleg fel Skype a Zoom, nid oedd hyn yn bosibl i lawer, felly roedd perygl uwch iddynt gael eu datgysylltu a dioddef iechyd gwael.

“Yn ystod y cyfnod clo, fe gyflwynon ni sesiynau ar-lein llwyddiannus i’n cleientiaid a fu’n gwneud ymarfer corff yn ein canolfannau’n flaenorol yn rhan o’r Rhaglen Genedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS). Fe gawson ni adborth gwych gan gleientiaid NERS a fwynhaodd y cyfle i gysylltu â’u hyfforddwr Halo a bod yn egnïol gartref – felly, rydyn ni’n gwybod pan fydd hyn yn cael ei wneud yn iawn ei fod yn fuddiol i bawb sy’n gysylltiedig. Bydd y profiad hyfforddi a gweithgarwch corfforol yn cael ei addasu i gynorthwyo pobl ag anghenion cymhleth, cyflyrau iechyd tymor hir a phroblemau symudedd.”

Prosiect Cynhwysiant Digidol Halo yw’r rhaglen ddiweddaraf i gynorthwyo pobl agored i niwed i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol a chorfforol, ac enillodd ei raglen ‘Teimlo’n Dda am Oes’ wobr ‘Effaith Gymunedol trwy Weithgarwch Corfforol’ Community Leisure UK yn ddiweddar.

Cyhoeddwyd y blog hwn yn wreiddiol ar https://www.leisureopportunities.co.uk/communityleisureuk