Neidiwch i’r prif gynnwys

Jane yn gwirfoddoli i helpu pobl hŷn i arbed arian ar-lein

Mae Jane Weldon yn wirfoddolwr gydag Age Connects Caerdydd a’r Fro. Cafodd hyfforddiant gan CDC i fod yn hyrwyddwr digidol ac, erbyn hyn, mae’n gallu helpu pobl hŷn i wneud mwy ar-lein.

Jane Weldon gyda chleientiaid Age Connects Caerdydd a’r Fro

Mae Age Connects Caerdydd a’r Fro yn darparu help a chymorth i bobl hŷn i’w galluogi i gadw eu hannibyniaeth a mwynhau ansawdd bywyd da. Mae’r elusen yn ymwybodol o sut gall pobl hŷn elwa ar sgiliau digidol sylfaenol a chael mynediad i’r rhyngrwyd.

Sut

Hyfforddodd Cymunedau Digidol Cymru rai o’r gwirfoddolwyr o siop iechyd a chaffi Age Connects yn y Barri, yn ogystal â benthyca llechi cyfrifiadurol iddyn nhw.

Effaith

Roedd Jane yn un o’r gwirfoddolwyr a dderbyniodd yr hyfforddiant. Dywedodd, “Mae mwyafrif y bobl rwyf yn eu helpu’n unigol yn eu 70au a’u 80au. Mae pobl yn dod i’m gweld am bob math o gymorth; mae rhai eisiau cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ac mae angen help ar bobl eraill i chwilio am ffyrdd o arbed arian ar eu biliau cyfleustodau.

“Er enghraifft, gofynnodd un cleient hŷn i fi weld os gallwn ni arbed arian ar ei bil trydan. Roedd yr un cyflenwr ganddi ers sawl blwyddyn, ac roedd y biliau wedi bod yn codi. Aethom i’r safleoedd cymharu, lle gwelsom y gallai hi arbed £100 trwy newid i gyflenwr arall. Ffoniodd ei chyflenwr i esbonio hyn, a rhoddodd y cyflenwr ostyngiad o £100 iddi oddi ar ei bil trwy newid ei thariff.

“Gyda chleient arall, edrychom ar ei bil nwy a thrydan a, thrwy newid cyflenwr, arbedwyd £90 iddi. Hefyd, edrychom ar yswiriant gwyliau a chartref, ac arbedwyd arian iddi yma hefyd.

“Bellach, rwy’n annog fy holl gleientiaid i siopa ar-lein am brisiau yswiriant a chyfleustodau i weld p’un a ydyn nhw’n gallu arbed arian trwy newid cyflenwr.”