Neidiwch i’r prif gynnwys

Defnyddio’r rhyngrwyd i adeiladu cyfeillgarwch a chysylltiadau – stori Faris

Ers adleoli i Gymru o Irac, mae Faris Abdelakwa a’i deulu wedi bod yn defnyddio’r rhyngrwyd i addasu i’w cartref newydd a meithrin cyfeillgarwch a chysylltiadau.

Dyn hŷn gyda dyfais tabled

Mae symud o un wlad i’r llall yn her bob amser, ond yn enwedig felly pan nad ydych chi’n siarad yr iaith. Pan symudodd Faris Abdelakwa a’i deulu i Gymru yn y lle cyntaf, roedd y rhwystr iaith yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw addasu. Ond diolch i’r rhyngrwyd, mae Faris a’i deulu wedi gallu dysgu Saesneg, gan eu helpu nhw i ymgartrefu yng Nghymru.

Dechreuodd Faris a’i deulu ddysgu Saesneg drwy eu coleg lleol i ddechrau, ond rhoddodd COVID-19 ddiwedd ar addysg wyneb yn wyneb am gyfnod. Fodd bynnag, roedd y rhyngrwyd yn caniatáu i’r teulu barhau i ddysgu’r iaith yn ystod y cyfyngiadau symud, drwy’r coleg a thrwy ffynonellau hygyrch eraill, megis YouTube.

Meddai Faris: “Mae defnyddio’r rhyngrwyd i ddysgu pethau’n boblogaidd iawn yn y DU. Mae YouTube wedi fy helpu i, fy ngwraig a fy nheulu i wella ein Saesneg.

“Mae defnyddio’r rhyngrwyd yn hanfodol ar gyfer dysgu – nid ar gyfer addysg ffurfiol yn unig, ond ar gyfer gwella eich gwybodaeth gyffredinol hefyd. Byddwn i’n cynghori unrhyw un i’w ddefnyddio i wella eich sgiliau.”

Older man using laptop to study

Dywed Faris nad oedd ef a’i deulu’n defnyddio cyfrifiadur yn rheolaidd yn Irac ac mai dim ond i gael mynediad at safleoedd cyfryngau cymdeithasol yr oedden nhw’n defnyddio’r rhygrwyd. Ond mae Alltudion ar Waith (DPIA), sefydliad sy’n cynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid i deimlo’n gartrefol yng Nghymru, wedi bod yn addysgu Faris a’i deulu ynghylch sut i ddefnyddio cyfrifiadur i’w lawn botensial, yn ogystal â sgiliau hanfodol megis sut i ddefnyddio peiriannau chwilio a gwefannau. Mae Faris a’i deulu’n cael cyfarfodydd wythnosol gyda’r sefydliad, sy’n parhau i gynnig cymorth wrth iddynt addasu i fywyd yn y DU.

Mae’r rhyngrwyd wedi bod yn hanfodol i helpu Faris a’i deulu i gysylltu â’u cymuned leol hefyd.

Esbonia Faris: “Pan gyrhaeddon ni gyntaf, roedd hi’n anodd i ni gyfathrebu ag eraill. 

“Dros amser, mae’r gymuned leol wedi dechrau deall ein bod ni’n dal i ddysgu’r iaith ac wedi bod o gymorth drwy rannu geiriau defnyddiol. Rwyf wedi gallu defnyddio’r rhyngrwyd i fynd adref a dysgu mwy am y geiriau a’r ymadroddion hyn, yn ogystal â dysgu sut i’w hynganu. 

“I mi, mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol 100%.”

Mae ein cynllun peilot unigryw Cymunedau Cysylltiedig Digidol yn hyfforddi sefydliadau i ddarparu sgiliau digidol i gymunedau ledled Cymru. Gan weithio gyda naw sefydliad arall, dyma’ch cyfle i helpu i oresgyn rhwystrau ac annog cynhwysiant digidol, dod â phobl at ei gilydd ac agor cyfleoedd drwy dechnoleg.

Darganfyddwch fwy
Merch ifanc yn edrych ar ffôn smart