Neidiwch i’r prif gynnwys

Adnoddau Covid-19

Bydd technoleg ddigidol yn hollbwysig dros y misoedd nesaf er mwyn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad, dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy siopa am hanfodion a chadw’n iach. Mae Cymunedau Digidol Cymru yma i helpu pobl i fynd ar-lein.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
dyn yn gwisgo siwmper las yn defnyddio dyfais tabled

Yn ffodus, mae technoleg ddigidol yn golygu y bydd llawer o bobl yn gallu cymdeithasu ar-lein, siopa am fwyd, dod o hyd i wybodaeth am iechyd a chael gafael ar adnoddau a gweithgareddau i’w cadw’n brysur.

Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn wir i rai, yn enwedig yr henoed neu’r rhai sy’n fregus. Ond gall pob un ohonom gefnogi ein cydweithwyr, ein ffrindiau a’n cymdogion y mae angen help arnynt i ddefnyddio technoleg ddigidol.

Mae digwyddiadau’n symud yn gyflym iawn ond mae Cymunedau Digidol Cymru’n gweithio’n galed i ddatblygu adnoddau penodol a chyrsiau hyfforddi ar-lein, yn cynnwys gweminarau a chymorthfeydd digidol a allai fod o ddefnydd i chi yn ystod feirws COVID-19. Yn y cyfamser, cymerwch gip ar rai adnoddau defnyddiol rydym wedi casglu dros yr ychydig wythnosau diwethaf i’ch rhoi ar ben:

Gweminarau CDC

Yn Cymunedau Digidol Cymru rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu cyrsiau hyfforddi cynhwysiant digidol ar-lein, gan gynnwys gweminarau a sesiynau galw heibio digidol, a allai fod yn hanfodol i chi a’ch defnyddwyr gwasanaeth wrth symud ymlaen. Rydym yn cynnal sesiynau ar gadw pobl yn brysur, dod o hyd i wybodaeth iechyd ddibynadwy ar-lein, a siopa ar-lein.

Fideos CDC

Nod y fideos YouTube byr hyn yw rhoi crynodeb i bobl o bethau syml ond effeithiol y gallant eu gwneud gyda thechnoleg, o sut i sicrhau bod eu cit yn lân, i gadw mewn cysylltiad gan ddefnyddio WhatsApp ac archwilio nodweddion hygyrchedd.

Padletau Cymunedau Digidol Cymru

Eich siop un stop ar gyfer adnoddau ar-lein yn ystod COVID-19 

I helpu ein cleientiaid a’n defnyddwyr terfynol gadw mewn cysylltiad, yn ddiogel ac iach yn ystod y pandemig rydym wedi creu pedwar padlet ar-lein i chi eu defnyddio a’u rhannu â ffrindiau, teulu a chydweithwyr:

Rydym yn defnyddio Padlet gan fod y rhaglen yn syml i’w defnyddio ac yn ein galluogi i grwpio gwybodaeth yn ôl ei pherthnasedd i bwnc. Gallwn ddiweddaru pob tudalen Padlet hefyd wrth ddod o hyd i adnoddau newydd, felly cadwch lygad am ddiweddariadau dyddiol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein Padletau ar themâu unigol isod:

Padlet cadw mewn cysylltiad

Mewn amser heb ei debyg mae’n hollbwysig ein bod ni’n cadw mewn cysylltiad â ffrindiau, teulu a chydweithwyr. Mewn ymateb i fesurau Llywodraeth y DU ar gadw pellter cymdeithasol, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi nodi amrywiaeth o apiau cyfathrebu ac wedi darparu dolenni i sesiynau tiwtorial defnyddiol i’ch rhoi ar ben ffordd.

Padlet cefnogi’ch iechyd meddwl

Mae cefnogi iechyd meddwl a llesiant ein cleientiaid a’n defnyddwyr terfynol yn ganolog i bopeth a wnawn yn Cymunedau Digidol Cymru. Felly, rydym wedi llunio rhestr o apiau, gwefannau a gweithgareddau a all gefnogi’ch iechyd meddwl a’ch llesiant yn ystod y pandemig hwn.

Pobl mewn perygl o gael eu hynysu
Mae arferion arferol bob dydd llawer o bobl yn y DU wedi newid a’u gallu i gysylltu â phobl eraill. I helpu gyda hyn, rydym wedi llunio rhestr gynhwysfawr o wefannau gwybodaeth iechyd; apiau adloniant a gwefannau i chi eu defnyddio a’u rhannu gyda’r rhai mewn perygl.

Padlet adnoddau addysgol 

Yn ffodus iawn, mae gennym gyn-athro yn gweithio i ni erbyn hyn ac mae ef wedi ein helpu i greu Padlet gydag adnoddau addysgu ac addysgol gwych. Gyda llawer o blant yn cael eu haddysgu gartref yn ystod y pandemig, cynlluniwyd yr adnoddau hyn sydd am ddim i helpu rhieni i gael hwyl gyda’u plant a dysgu ar yr un pryd. O ffrydiau byw o sw i ddosbarthiadau dawns a ffitrwydd, mae yna rywbeth i bawb. Byddwn yn ychwanegu dolenni ac adnoddau wrth i ni ddod o hyd iddynt.

Os ydych chi’n teimlo bod yna adnodd neu wefan wedi’ch cefnogi chi yn ystod COVID-19, rhowch wybod i ni ac fe edrychwn arno a’i ychwanegu i un o’n padletau. 

Adnoddau defnyddiol eraill

Learn My Way

Gwefan a grëwyd gan ein partneriaid, Good Things Foundation, yw Learn My Way, sy’n llawn cyrsiau ar-lein am ddim i helpu pobl i feithrin eu sgiliau digidol.

Mae’r wefan yn cynnwys dros 30 o gyrsiau am ddim a ddyluniwyd i helpu dechreuwyr i roi cynnig ar yr hanfodion ar-lein – defnyddio llygoden, bysellfwrdd, creu cyfrifon e-bost, a defnyddio peiriannau chwilio ar y rhyngrwyd – gan gynnig cymorth hefyd i helpu pobl i feithrin eu sgiliau ymhellach. Mae yna fodiwlau i helpu pobl i wneud galwadau fideo, cymdeithasu ar-lein a siopa ar-lein. Cyfeiriwch bobl at yr adnoddau defnyddiol hyn. Gallech hyd yn oed weithio drwy’r modiwlau gyda nhw dros y ffôn os bydd angen cymorth arnynt.

Poster am ddim i’w lawrlwytho

BT Skills for Tomorrow

BT Skills for Tomorrow – nod hwn yw rhoi sgiliau angenrheidiol i bobl ffynnu yn y byd digidol. Yn sgil lledaeniad y coronafeirws, mae’r sgiliau hyn yn bwysicach nag erioed.

Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau sgiliau digidol blaenllaw, mae gan BT Skills for Tomorrow adnoddau a gwybodaeth am ddim i helpu pobl gyda phob un o’r heriau hyn.

Atal sgiamiau coronafeirws

Mae Tîm Sgiamiau Safonau Masnach Cenedlaethol wedi paratoi deunyddiau defnyddiol i helpu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sgiamiau coronofeirws (COVID-19) yn y cyfnod anodd hwn. Yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol i’w lawrlwytho am sut i ddiogelu pobl a’u hatal rhag dioddef sgiamiau ar-lein, mae’r wefan yn cynnwys deunyddiau hyfforddi defnyddiol hefyd i bobl sydd am ddod yn ‘Ffrind Rhag Sgiamiau’.

Byddwch yn Gyfaill Digidol

Pobl sy’n helpu ffrind, cymydog neu aelod o’r teulu i fynd ar-lein a defnyddio technoleg yw cyfaill digidol. Os ydych yn adnabod rhywun y mae angen cymorth un i un arno gan wyneb cyfarwydd y gall ymddiried ynddo, dywedwch wrtho eich bod yn barod i’w helpu. Er na fyddwch o bosibl yn gallu ei weld wyneb yn wyneb (os oes ganddo gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes neu os yw’n agored i niwed, rhaid i chi gadw draw er mwyn atal y feirws rhag lledaenu), gallwch egluro tasgau syml dros y ffôn.

Adnoddau Gyfaillion Digidol

Cymorth gan Cymunedau Digidol Cymru

Mae cynghorwyr cynhwysiant digidol Cymunedau Digidol Cymru wrth law i ateb ymholiadau am gynhwysiant digidol a helpu pobl i fynd ar-lein yn sgil y Coronafeirws. Gallwn roi cyngor dros y ffôn neu drwy fideogynadledda – ffoniwch ni ar 0300 111 5050 neu e-bostiwch digitalcommunities@wales.coop os bydd angen ein cymorth arnoch. Mae pethau’n newid yn gyflym iawn, ac rydym yn gweithio fel tîm i ddatblygu adnoddau penodol a fydd ar gael ar y wefan hon yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf.