Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynhwysiant digidol yng Nghymru

Dydy 7% o oedolion yng Nghymru ddim ar-lein. Wrth i fwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus hanfodol gael eu darparu ar-lein, mae perygl i’r bobl hyn gael eu gadael ar ôl. Mae angen i sefydliadau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd, yn enwedig yn y sector iechyd a gofal, feddwl am sut i gynyddu cynhwysiant digidol fel y gall pawb yng Nghymru elwa.

Cysylltwch â ni am gymorth
Gwersi cyfrifiadurol Cwmbrân

Dydy allgau digidol yn ddim yn broblem newydd

Bron i 30 mlynedd ar ôl lansio’r We Fyd-eang, mae llawer o bobl yn dal i gael eu heithrio o wasanaethau digidol.  Maen nhw’n dal i fod heb yr offer, y cysylltedd, y cymhelliant a’r sgiliau digidol sydd eu hangen i wneud defnydd llawn a hyderus o’r gwasanaethau ar-lein a chyfleoedd eraill a gynigir gan y rhyngrwyd.

Dydy 7% o oedolyn yng Nghymru ddim ar-lein

Mae lefel yr allgau digidol yng Nghymru yn uwch nag yn y DU, gyda chymaint â 7% o’r boblogaeth, neu 170,000 o bobl, ddim yn defnyddio’r rhyngrwyd.

Pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o ddefnyddwyr mwyaf gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, felly mae perygl iddyn nhw gael eu gadael ar ôl yn y chwyldro iechyd digidol.

Mae pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn debygol o fod yn:

Oedolion hŷn: Mae cyfran uwch o bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn y grwpiau oedran hŷn. Dim ond 41% o bobl dros 75 oed sydd â sgiliau digidol sylfaenol, o gymharu ag 87% o bobl 16–49 oed. Fodd bynnag, mae yna gryn amrywiaeth ymhlith oedolion hŷn. Mae’r defnydd o’r rhyngrwyd yn cynyddu ymhlith oedolion hŷn. Mae gan 61% o bobl 65-74 oed bob un o’r pum sgìl digidol sylfaenol.

Pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor: Mae 90% o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor yn defnyddio’r rhyngrwyd, o’i gymharu â 96% o’r rheini sydd heb anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Efallai y bydd pobl ag anableddau angen help i ganfod technolegau cynorthwyol priodol.

Pobl llai addysgedig: roedd gan 93% o’r rhai â chymwysterau ar lefel gradd neu uwch bob un o’r pum sgìl digidol o gymharu â 51% o’r rhai heb unrhyw gymwysterau. Gallai llawer elwa o gael mwy o gymorth i ddechrau defnyddio gwasanaethau digidol yn y lle cyntaf neu i ehangu’r amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau y maen nhw’n eu defnyddio ac yn cymryd rhan ynddyn nhw ar-lein.

Unigolion a theuluoedd incwm is: Mae’r rhai sy’n anweithgar economaidd yn llai tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd (86%) na’r rhai mewn cyflogaeth (99%). Gallai teuluoedd ac unigolion incwm is gael eu heffeithio gan fynediad at ddyfeisiau a chysylltedd a pha mor fforddiadwy ydy’r rhain. Gan nad oes ganddyn nhw fynediad at ddyfeisiau a rhwydweithiau o reidrwydd, efallai na fyddan nhw wedi datblygu gwybodaeth, cymhelliant na sgiliau digidol.

Pobl mewn ardaloedd gwledig: Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig sydd ddim ar-lein fel arfer yn cael eu heithrio oherwydd problemau o ran darparu band eang, ar gyfer gwasanaethau band eang llinell sefydlog a symudol. Mae mannau gwan yn effeithio ar lawer o ardaloedd yng Nghymru o hyd, er bod cyfranogwyr ein hastudiaethau achos yn dweud bod nifer y rhain yn lleihau.

Pobl sy’n siarad Cymraeg ac eraill nad ydyn nhw’n defnyddio’r Saesneg fel eu hiaith gyntaf: Mae angen cynllunio systemau digidol a’u prosesau cymorth cysylltiedig i ddiwallu anghenion siaradwyr Cymraeg a siaradwyr ieithoedd lleiafrifol cyffredin. Mae hyn yn golygu bod angen ystyried sut mae gwasanaethau’n cael eu gweithredu a’u cefnogi.

Pobl sy’n ynysig yn gymdeithasol ac yn unig: Gall allgau digidol fod yn elfen o broblemau cymdeithasol eraill sy’n wynebu unigolion, er enghraifft, gall y rhai sy’n ynysig yn gymdeithasol ac yn unig gael eu heithrio o ryngweithio digidol hefyd.

Pobl ddigartref: Gellir tybio bod pobl ddigartref yn cael eu hallgáu yn sgil eu sefyllfa. Fodd bynnag, mae pobl ddigartref yn cynnwys grwpiau sydd heb gartref parhaol eu hunain ond sydd o bosib yn ‘syrffio soffas’ neu’n aros mewn llety dros dro fel hostel. Mae gan lawer o bobl yn y sefyllfaoedd hyn fynediad at ddyfeisiau symudol a gallan nhw wynebu problemau cael cysylltedd fforddiadwy yn hytrach na chael eu hallgáu’n llwyr o wasanaethau digidol.

Mae rhesymau polisi cyhoeddus a chydraddoldeb clir dros wella cynhwysiant digidol, yn ogystal ag achos busnes cryf.

Beth yw manteision bod ar-lein?

Mae manteision bod ar-lein i bobl, yn enwedig pobl hŷn, pobl ddi-waith a’r rhai sy’n byw mewn tai cymdeithasol, yn cynnwys:

  • Arbed amser drwy allu defnyddio gwasanaethau’n ddigidol.
  • Arbed costau drwy ddefnyddio gwasanaethau a phrynu nwyddau’n ddigidol.
  • Lleihau teimladau o fod yn unig ac ynysig.
  • Cynyddu cyflogadwyedd.
  • Gwell hunanofal ar gyfer mân anhwylderau.
  • Gallu hunanreoli cyflyrau iechyd hirdymor yn well.

Y manteision i sefydliadau, yn enwedig yn y system iechyd a gofal, yw:

  • Mwy o ddefnydd o adnoddau a gwasanaethau digidol.
  • Cost is darparu gwasanaethau’n ddigidol.
  • Defnydd mwy priodol o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cynghori, gofal sylfaenol a gofal brys.

Daw’r dadansoddiad diweddaraf o effaith economaidd cynhwysiant digidol mewn adroddiad a baratowyd gan Cebr (Centre for Economics and Business Research) ar gyfer y Good Things Foundation a gyhoeddwyd ym mis 2022. Mae hyn yn awgrymu mai gwerth presennol net darparu sgiliau digidol i bawb yn y DU fyddai £12.2 biliwn.

Mae arbedion erbyn 2032 yn cynnwys:

  • Arbedion amser o wneud trafodion llywodraethol ac ariannol ar-lein – £3.9 biliwn.
  • Manteision gweithrediadol siopa ar-lein – £3.5 biliwn.
  • Arbedion i’r GIG yn sgil llai o apwyntiadau meddygon teulu – £899 miliwn

Gall Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles weithio gyda’ch sefydliad i’ch helpu i gymryd camau ymarferol i gefnogi cynhwysiant digidol yn lleol. Cysylltwch â ni i weld sut gallwn ni helpu.

Defnyddiwch y map hwn i chwilio am rywle cyfagos i gael cymorth i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel.

Mae’r ystadegau ar y dudalen we hon wedi’u cymryd o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021/2022 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022/23.

Mwy am y pwnc hwn