Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

Mae’r Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (CCDC) yn dwyn ynghyd sefydliadau ar draws Cymru sy’n cydweithio i greu Cymru sy’n gynhwysol yn ddigidol. Mae gan y Gynghrair dros 100 o aelodau sy’n cynrychioli sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector,  cwmnïau’r sector preifat a sefydliadau academaidd, ac maent oll yn canolbwyntio ar sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd eisiau gwneud hynny yn gallu cael mynediad i adnoddau a thechnolegau digidol yn eu bywydau bob dydd a bod ganddynt yr hyder i wneud hynny.

Mae bod yn aelod o’r Gynghrair yn gyfle i gymryd rhan a llunio’r gwaith o ddarparu menter arloesol sy’n ysbrydoli gweithredu cynhwysiant digidol ac yn gweithio i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i ymgysylltu â gwasanaethau digidol a’r byd digidol.

Os oes gan eich sefydliad syniadau neu brofiad gwych o wella cynhwysiant digidol neu os yw’n awyddus i ddysgu beth mae eraill yn ei wneud, beth am ymuno â ni?  Dilynwch ni ar Twitter @DIAWales neu anfonwch e-bost atom diaw@cwmpas.coop am fwy o wybodaeth.

Y Rhwydwaith a’r Grŵp Llywio

Mae’r Gynghrair yn cynnwys Rhwydwaith a Grŵp Llywio. Mae’r Rhwydwaith a’r Grŵp Llywio yn gweithio ochr yn ochr dan un faner, gan fanteisio ar gryfderau ei gilydd, er mwyn creu mudiad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr terfynol a’r strategaeth lefel uwch.

Mae Rhwydwaith DIAW yn agored i bob sefydliad sy'n gweithio ar gynhwysiant digidol yng Nghymru

Mae aelodau'r Grŵp Llywio yn arwain y Gynghrair i sicrhau bod Cymru'n dod yn esiampl o gynhwysiant digidol

O Gynhwysiant i Wydnwch 2il Argraffiad: agenda ar gyfer cynhwysiant digidol

Mae CCDC wedi cyhoeddi agenda sy’n amlinellu ein pum maes blaenoriaeth allweddol. Mae rhain yn:

Blaenoriaeth 1 – Gwreiddio cynhwysiant digidol ar draws pob sector Blaenoriaeth 2 – Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Blaenoriaeth 3 – Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol Blaenoriaeth 4 – Blaenoriaethu sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd yn yr economi Blaenoriaeth 5 – Rhoi safon byw digidol gofynnol newydd ar waith

Rydym yn defnyddio’r meysydd blaenoriaeth hyn i ganolbwyntio ein trafodaethau a’n gweithredoedd, er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd tuag at nodau cyffredin.