Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynorthwyo pobl â chysylltedd data (Good Things Foundation Gorffennaf 2022)

Mae’r canllaw hwn ar gyfer elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau sy’n cyrraedd ac yn cynorthwyo pobl sy’n cael trafferth fforddio’r rhyngrwyd oherwydd tlodi a chostau byw. Mae’n arbennig ar gyfer sefydliadau nad ydynt yn ddarparwyr arbenigol o gyngor ar ddyledion neu arian.

clawr blaen

Nid yw’n hawdd dod o hyd i’r fargen symudol neu fand eang gorau … yn arbennig os oes gennych sgiliau digidol cyfyngedig neu gyllidebau cyfyngedig neu waith ansicr. Ac nid yw’n hawdd i sefydliadau cymunedol ac elusennau wybod sut i helpu. Gall hyd yn oed pobl sy’n arbenigwyr mewn addysgu sgiliau digidol deimlo’n ansicr ynghylch sut i helpu pobl â’u cysylltedd data.

Dyna pam mae Good Things Foundation a People Know How wedi cynhyrchu’r canllaw byr hwn trwy’r Data Poverty Lab gyda chymorth Nominet.

Cyrchwch y canllaw yma [yn agor mewn ffenest newydd].

Quotation mark

Wrth i gostau byw godi, mae’n bwysig i helpu pobl i gadw mewn cysylltiad mewn ffyrdd y gallant eu fforddio. Ac i helpu pobl i wirio eu bod yn cael yr holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo. Gallwch helpu pobl i ddarganfod sut beth yw ateb da iddynt hwy.

Canllaw

Quotation mark

Gall sefydliadau cymunedol ei gwneud yn haws i bobl geisio a derbyn cymorth â thlodi data - heb deimlo unrhyw golled o falchder neu brofi stigma.

Canllaw