Neidiwch i’r prif gynnwys

Ewch Ar-lein yng Nghymru

Dewch o hyd i rywle lle gallwch ddefnyddio cyfrifiadur, mynd ar-lein a chael cefnogaeth

Os ydych chi’n chwilio am le cyhoeddus i ddefnyddio cyfrifiadur, mynd ar-lein a chael cymorth, gall eich Canolfan Ar-lein leol helpu. Mae Canolfannau Ar-lein yn cynnig man croesawgar i aelodau’r gymuned, profiadau dysgu cefnogol a lle i ddefnyddio’r rhyngrwyd.

Mae Canolfannau Ar-lein yn rhan o rwydwaith ar draws y DU sy’n cael ei reoli gan Good Things Foundation. Yng Nghymru, mae’r rhwydwaith hwn yn rhan o raglen Cymunedau Digidol Cymru.

Fel arall, mae’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd lleol yn darparu cyfrifiaduron i’r cyhoedd eu defnyddio hefyd.

Rydym yn eich cynghori i wirio’r oriau agor a’r cyfleusterau sydd ar gael yn y ganolfan neu’r llyfrgell cyn i chi deithio.  Cofiwch, efallai nad ydynt yn cynnig yr ystod lawn o wasanaethau ar hyn o bryd oherwydd y coronafeirws.

Dewch o hyd i'ch Canolfan Ar-lein leol

Dewch o hyd i'ch llyfrgell leol