Iechyd a lles
Mae gan ddigidol y potensial i rymuso a chefnogi pobl i fyw bywydau iachach. Gall defnyddwyr digidol gael mynediad gwell at wybodaeth iechyd, gwasanaethau iechyd, rheoli cyflyrau iechyd hirdymor, a gwneud cysylltiadau cymdeithasol.
Mae nifer o wasanaethau iechyd a lles ar gael ar-lein, ac mae llawer o wasanaethau meddygon teulu a’r GIG yn cynnig opsiynau ymgynghoriad fideo. Mae yna hefyd gynnydd mewn apiau a thechnoleg gwisgadwy ar gyfer monitro iechyd.
Mae’r rôl y mae digidol yn ei chwarae mewn iechyd a lles yn rhan hanfodol o raglen CDC. Mae ein hyfforddiant yn archwilio apiau ac offer digidol i helpu i gefnogi, cynnal a monitro eich iechyd meddwl a chorfforol.
Os hoffech drafod eich anghenion hyfforddi, neu i ddarganfod mwy am y sesiynau sydd gennym i’w cynnig, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm mewn cysylltiad.
Adnoddau iechyd a lles digidol:
[Dolenni’n agor mewn ffenestr newydd]
Mind: Online mental health tools
Llywodraeth Cymru: Helpwch ni ich helpu chi
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Adnoddau Gwybodaeth Iechyd
GIG 111 Cymru: Iechyd Meddwl a Lles
Ymwadiad: Mae’r apiau a’r gwefanau yr ydym yn ei trafod yma yn bodoli fel opsiynau yn hytrach nac argymhellion. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw broblem y byddwch yn ei brofi yn sgil eich defnydd o’r apiau neu wefanau hyn. Efallai na fydd rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg.