Neidiwch i’r prif gynnwys

O Gynhwysiant i Wydnwch 2il Argraffiad

agenda ar gyfer cynhwysiant digidol

Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

Amdanom Ni

Lansiwyd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (CCDC) fel rhan o raglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a ddarperir gan Cwmpas. Mae’r CCDC yn dwyn ynghyd sefydliadau ar draws Cymru sy’n cydweithio i greu Cymru sy’n gynhwysol yn ddigidol. Mae gan y Gynghrair dros 90 o aelodau sy’n cynrychioli sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector,  cwmnïau’r sector preifat a sefydliadau academaidd, ac maent oll yn canolbwyntio ar sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd eisiau gwneud hynny yn gallu cael mynediad i adnoddau a thechnolegau digidol yn eu bywydau bob dydd a bod ganddynt yr hyder i wneud hynny.

Os ydych yn credu bod hyn yn disgrifio gwaith eich sefydliad, ond nid ydych yn aelod o Gynghrair Cynhwysiant Cymru, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

diaw@cwmpas.coop / @DIAWales

Cyflwyniad i’r ail argraffiad

Gan Hamish Laing, Cadeirydd, Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

Cyhoeddwyd ‘O Gynhwysiant i Gydnerthedd’ am y tro cyntaf ar ddechrau 2021. Roedd yn cynnig agenda traws-sector ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru. Yn yr adroddiad, gwnaethom nodi pum maes blaenoriaeth lle gellid gwneud gwahaniaeth gwirioneddol:

Blaenoriaeth 1 – Ymgorffori cynhwysiant digidol ar draws pob sector
Blaenoriaeth 2 – Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Blaenoriaeth 3 – Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
Blaenoriaeth 4 – Blaenoriaethu sgiliau digidol yn yr economi ar ôl Covid
Blaenoriaeth 5 – Gosod safon byw digidol gofynnol newydd a mabwysiadu dulliau cyd-gynhyrchu

Hyd yn oed yn ystod y cyfnod byr ers i ni lansio ‘O Gynhwysiant i Gydnerthedd’, mae’r cyd-destun wedi newid yn sylweddol ac felly rydym yn rhyddhau’r ail argraffiad hwn. Yn galonogol, canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 93% o oedolion wedi dweud eu bod yn defnyddio’r rhyngrwyd yn bersonol yn 2021/22, gan ddangos cynnydd ers 90% yn 2019/20. Fodd bynnag, gan fod mwy o’n bywydau a’n gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, mae’n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod gan bawb yn ein cymunedau y sgiliau a’r adnoddau i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn hyderus ac yn ddiogel. Wrth i’n cymunedau adfer yn dilyn pandemig Covid-19, mae heriau economaidd a chymdeithasol newydd yn ein hwynebu. Mae’r Argyfwng Costau Byw yn dal i waethygu ar draws y wlad ac mae pobl yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i wario eu harian. Mae hyn yn gwneud ein gwaith yn y pum maes blaenoriaeth hyd yn oed yn fwy hanfodol. Mae’n hollbwysig bod y gwaith i greu cymunedau cynhwysol a chydnerth yn parhau ac yn cyflymu.

Yn ystod y ddwy flynedd ers i ni gyhoeddi argraffiad cyntaf yr Agenda hwn, mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i wneud Cymru yn genedl sy’n wirioneddol gynhwysol yn ddigidol. Yn yr ail argraffiad hwn, rydym yn amlinellu’r gwaith a gyflawnwyd gan y Gynghrair neu ei haelodau unigol ar draws y pum maes blaenoriaeth, yn trafod yr hyn sydd wedi newid, ac yn cynnig newidiadau neu ailasesiadau angenrheidiol. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys yr holl gamau a gymerwyd, ond yn hytrach mae’n rhoi trosolwg o’r cyd-destun newydd ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru.  Y pum maes blaenoriaeth yw:

Blaenoriaeth 1 – Gwreiddio cynhwysiant digidol ar draws pob sector
Blaenoriaeth 2 – Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Blaenoriaeth 3 – Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
Blaenoriaeth 4 – Blaenoriaethu sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd yn yr economi
Blaenoriaeth 5 – Rhoi safon byw digidol gofynnol newydd ar waith

Themâu trawsbynciol

Yn argraffiad cyntaf O Gynhwysiant i Gydnerthedd, galwodd y Gynghrair am fabwysiadu dulliau cydgynhyrchu ym Mlaenoriaeth 5.  Fodd bynnag, erbyn hyn teimlir mai dyma’r dull y dylid ei ddefnyddio ar draws pob un o’n blaenoriaethau, ac ar draws pob ymyriad digidol yng Nghymru sy’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.  Mae egwyddorion cydgynhyrchu a chynllunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn dechrau gyda phrofiad bywyd pobl sy’n wynebu allgáu digidol a dylent fod wrth galon y broses o gynllunio pob ymyriad digidol.  Mae aelodau Rhwydwaith Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn gweithio gyda chymunedau ac mewn cymunedau ar draws Cymru i fynd i’r afael ag allgáu digidol felly maent yn gyfarwydd â’r profiadau byw sy’n gallu helpu gwasanaethau i gynllunio gwell ymyriadau.

Mae ymchwil i faes cynhwysiant digidol wedi dangos mai’r grwpiau sy’n fwyaf tebygol o gael eu hallgáu yn ddigidol yw oedolion hŷn, pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl â chyrhaeddiad addysgol is, unigolion a theuluoedd ar incwm is, pobl mewn ardaloedd gwledig, siaradwyr Cymraeg a phobl eraill nad ydynt yn defnyddio Saesneg fel eu hiaith gyntaf, pobl sydd wedi’u hynysu yn gymdeithasol, pobl unig, a phobl ddigartref.  Un thema drawsbynciol sy’n gyffredin i’r pum maes blaenoriaeth a restrir isod yw’r angen i ganolbwyntio ar y grwpiau hyn wrth gynllunio unrhyw wasanaethau digidol neu ymyriadau cynhwysiant digidol.

Blaenoriaeth 1 – Gwreiddio cynhwysiant digidol ar draws pob sector

Yn 2021 gwnaethom osod amcan fod pawb sydd eisiau neu angen bod ar-lein yn gallu cael mynediad i’r rhyngrwyd a thechnoleg yn hyderus ac yn ddiogel. Roedd hyn yn gofyn am ymdrech ar y cyd ar draws yr holl sectorau ac adrannau’r llywodraeth, ac roedd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn dymuno hyrwyddo a hwyluso hyn.  Mae’n rhaid i ni gydnabod na all un sefydliad neu sector wneud hyn ar ei ben ei hun, yr unig ffordd o gyflawni hyn yw drwy bartneriaethau a chydweithio ar draws y sectorau.

Mae’r trawsnewid digidol wedi parhau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid, mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi cyhoeddi ei Safonau Gwasanaethau Digidol i Gymru, ac mae’r rhain wedi cael eu hyrwyddo gan y Gynghrair, gyda’r nod o sicrhau bod anghenion defnyddwyr bob amser yn ganolog i’r ffordd mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u cyflenwi.  Cyhoeddodd Archwilio Cymru “Cynhwysiant digidol yng Nghymru” sy’n cynnwys  cwestiynau y dylai cyrff cyhoeddus ofyn i’w hunain wrth iddynt ystyried eu hymagweddau tuag at gynhwysiant digidol.

Mae’r Gynghrair wedi llwyddo i ddod â sectorau gwahanol ynghyd a chefnogi’r gwaith o ddatblygu perthynas strategol well gyda chonsensws bod rhoi terfyn ar allgáu digidol yn gyfrifoldeb i bawb, nid y Llywodraeth yn unig. Bellach, mae gan sefydliadau fel Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG, awdurdodau lleol, elusennau, a’r sector tai, ymhlith eraill, fforwm lle gallant rannu’r hyn maent yn ei wneud a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio.

Mae egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr neu gydgynhyrchu yn hanfodol er mwyn gwreiddio cynhwysiant digidol. Maent hefyd yn hanfodol i greu gwasanaethau a chynnyrch digidol llwyddiannus. Nid yw gwasanaethau a chynnyrch digidol sydd wedi’u dylunio’n wael yn  annog pobl i’w defnyddio ac maent yn golygu bod pobl sy’n ddihyder yn cael eu hallgáu’n ddigidol ymhellach.  Ni fydd gwella sgiliau eich gweithlu a dinasyddion yn ddefnyddiol os nad yw’r gwasanaethau digidol sydd wedi’u creu yn hawdd eu defnyddio ac wedi’u dylunio ochr yn ochr â defnyddwyr. Hefyd, mae’n rhaid i’r holl wasanaethau a chynnyrch digidol cyhoeddus gyrraedd safonau hygyrchedd WCAG AA a Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r Gynghrair wedi hyrwyddo ymarferiad mapio geo-ofodol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a’r GGCD sy’n defnyddio Map Data Cymru i nodi’r mentrau cynhwysiant digidol niferus ar draws y wlad, gan arwain at weithredu mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ac ategol. Ar draws sectorau gwahanol mae mwy o sefydliadau yn llofnodi Siarter Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant ac yn ennill achrediad i gydnabod eu gwaith.

Ers cyhoeddi’r Agenda, mae ecosystem cynhwysiant digidol Cymru wedi dod yn fwy cydgysylltiedig, wrth i rwydweithiau a phartneriaethau gael eu datblygu ar draws sectorau, mudiadau a sefydliadau. Mae presenoldeb uchel cyson yng nghyfarfodydd Rhwydwaith y Gynghrair yn dangos pa mor werthfawr yw’r rhwydwaith i’r aelodau. Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw ac effaith bosibl gwariant llai ar wasanaethau cyhoeddus, mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei gynnal a’i ddatblygu ymhellach. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein cymunedau yn gydnerth yn wyneb heriau’r dyfodol a’u bod yn gallu amddiffyn a chefnogi’r bobl a theuluoedd y bydd yr heriau hyn, gan gynnwys allgáu digidol, yn cael yr effaith fwyaf arnynt. Er mwyn i’r cam nesaf lwyddo, credwn fod angen i ni ymgysylltu mwy â’r sector preifat – yn enwedig Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) a micro-fusnesau – a bydd ein gwaith yn rhoi sylw penodol i hyn. Byddwn yn parhau i weithio i wreiddio cynhwysiant digidol a hwyluso’r gwaith o gyfnewid ymarfer da sy’n cael ei ddatblygu wrth gydgynhyrchu gwasanaethau digidol a gwaith dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Canlyniadau Allweddol

  • Llywodraeth Cymru i gynnwys ein canlyniadau blaenoriaeth mewn fersiynau y dyfodol o’r cynllun cyflawni ar gyfer Strategaeth Ddigidol Cymru.
  • Adeiladau ar waith sydd eisoes wedi’i wneud i god ymwybyddiaetho sut mae cynhwysiant digidol yn cyfrannu at bob un o’r saith Nod Llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru.
  • Cynhwysiant digidol defnyddwyr gwasanaeth a staff yn elfen greiddiol o holl brosiectau trawsnewid digidol y sector cyhoeddus.
  • Camau pellach i fynd i’r afael ag allgáu digidol ar draws Cymru gan y sector preifat, gan gynnwys darparwyr cyfathrebu, BBaCh a micro-fusnesau.

Blaenoriaeth 2 – Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Gwnaethom nodi yn yr Agenda fod cynhwysiant digidol – mynediad, sgiliau a hyder – yn cael eu cydnabod yn ffactor cymdeithasol dylanwadol ym maes iechyd a nodwyd bod y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan hanfodol o wlad sy’n gynhwysol yn ddigidol. Mae’r sectorau wedi gweld trawsnewidiad digidol, ac mae’r trawsnewidiad yn parhau. Er y gall hyn greu gwasanaeth iechyd  gofal cymdeithasol cryfach a chymunedau tecach, mae’n hanfodol nad yw hyn yn creu “deddf gofal gwrthgyfartal” digidol yng Nghymru sy’n gwaethygu anghydraddoldebau iechyd.

Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud ar y flaenoriaeth hon yn ystod y ddwy flynedd ers cyhoeddi’r Agenda. Rydym wedi ymgysylltu’n llwyddiannus â’r Awdurdod Iechyd Arbennig Digidol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sydd newydd ei greu ac sydd wedi llofnodi Siarter Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru yn ddiweddar, ac sy’n gweithio tuag at achrediad. Yn ystod digwyddiad Uwchgynhadledd Ddigidol a gynhaliwyd i ddod â’r sectorau iechyd, gofal a gwirfoddol ynghyd i gydweithio ac ystyried sut gall adnoddau digidol gefnogi a galluogi cynhwysiant, dywedodd Simon Jones, Cadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru:

“Mae pobl yn mynd i weld llawer mwy o gyfleoedd i ymgysylltu’n ddigidol â’u gwasanaethau a rheoli eu gofal yn llawer mwy. Wrth i ni ddatblygu systemau a rhaglenni digidol, rydym eisiau gwneud yn siŵr nad yw’r bobl hynny y mae angen iddyn nhw gael mynediad i wasanaethau ac sy’n defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a gofal nag eraill, ddim yn waeth eu byd mewn unrhyw ffordd nag y bydden nhw fel arall. Yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud yng Nghymru yw gwneud cynhwysiant yn ganlyniad bwriadol, yn hytrach na bod allgáu yn ganlyniad anfwriadol o arloesedd digidol ym maes gofal iechyd.”

Mae Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ar draws Cymru bellach yn ymgysylltu â chynhwysiant digidol ac mae cynnydd wedi’i wneud i wreiddio cynhwysiant digidol yn eu cynlluniau. Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i roi cynhwysiant digidol wrth galon gofal iechyd wrth weithredu ei strategaeth ‘Ein Dyfodol Digidol’ newydd, ac yn yr un modd yn dilyn ymgynghori a chefnogaeth gan CDC, mae Cynhwysiant Digidol bellach yn un o’r chwe thema yn Strategaeth Ddigidol newydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Yn ddiweddar, gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda benodi Rheolwr a Thîm Cynhwysiant Digidol, y cyntaf o’i fath ymhlith Byrddau Iechyd Cymru.  Mae aelodau’r Gynghrair bellach yn aelodau o fyrddau sicrwydd a Bwrdd Rhaglenni ap GIG Cymru a’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol i sicrhau bod egwyddorion cynhwysiant digidol yn cael eu cynllunio o’r cychwyn cyntaf. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn creu fframwaith galluogrwydd digidol ar gyfer staff gofal iechyd a fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2023.  Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i greu modiwl e-ddysgu ar gyfer ei weithlu. Yn y dyfodol, byddai’r Gynghrair yn cefnogi rhoi mwy o bwyslais ar gynhwysiant digidol yn sectorau gofal ffurfiol ac anffurfiol.

Mae Llywodraeth Cymru ar fin cyhoeddi Strategaeth Ddigidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Gymru y mae cynhwysiant digidol wedi’i blethu ynddo, diolch i waith aelodau Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru. Mae’r Gynghrair hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Prif Swyddog Digidol Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd i ddatblygu’r momentwm hwn ymhellach.

Yr adborth rydym yn ei dderbyn gan ein haelodau yw bod Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru wedi rhoi hygrededd a statws ychwanegol i weithgareddau cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae rhanddeiliaid allweddol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y Llywodraeth a’r tu allan iddi, yn ymwybodol o’r gynghrair traws-sector ac yn gwrando arni. Y flaenoriaeth yw sicrhau bod y perthnasoedd newydd hyn yn cael eu cynnal a’u datblygu ymhellach, gan fod y cyd-destunau economaidd a chymdeithasol heriol sy’n ein hwynebu yn gofyn am roi mwy o bwyslais nag erioed ar sicrhau bod gan Gymru sector iechyd a gofal cymdeithasol cryf, cadarn a chynhwysol.

Canlyniadau Allweddol

  • Pob darparwr iechyd a gofal yng Nghymru yn cydnabod cynhwysiant digidol fel ffactor allweddol sy’n dylanwadu ar iechyd ac yn cefnogi cleifion a gofalwyr i gael mynediad at adnoddau digidol, sgiliau a hyder.
  • Darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn darparu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau digidol gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, fel y gall pobl gymryd rhan yn ddiogel ac yn effeithiol mewn gwasanaethau digidol a chefnogi cleifion i wneud hynny hefyd.
  • Bod mynd i’r afael â chynhwysiant digidol yn ofynnol i bob penderfyniad ynglŷn â buddsoddi mewn iechyd digidol. Mae’r holl wasanaethau a chynnyrch digidol yn cael eu dylunio gan ddefnyddio dulliau cydgynhyrchu neu egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr er mwyn bodloni safonau hygyrchedd ac anghenion dinasyddion Cymru a’n gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd.
  • Cyhoeddi’r Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer Iechyd a Gofal yng Nghymru gyda phwyslais ar gynhwysiant digidol ac sy’n cefnogi’r canlyniadau a argymhellir yn y Canllaw Cynhwysiant Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal yng Nghymru 2019

Blaenoriaeth 3 – Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol

Gwnaeth Covid-19 amlygu mater tlodi data a oedd eisoes yn amlwg ac yn tyfu yng nghymdeithas Cymru. Roedd ymchwil gan Nesta yn tynnu sylw at y mater, a daeth i’r casgliad bod angen rhagor o waith ymchwil a mwy o bwyslais ar bolisïau. Ers cyhoeddi’r Agenda, mae mwy o ymwybyddiaeth o’r broblem a’r heriau cysylltiedig a chanolbwyntiodd rhagor o ymyriadau ar leihau’r broblem. Fodd bynnag, mae’r argyfwng costau byw sy’n taro cymunedau yng Nghymru yn golygu bod y sefyllfa yn bell o fod wedi’i datrys, a’i bod mewn gwirionedd yn gwaethygu.

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru wedi ceisio codi ymwybyddiaeth o’r mater ymhlith rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol. Mynd i’r afael â thlodi data oedd testun un o gyfarfodydd Rhwydwaith Chwarterol y Gynghrair, a chafwyd cyfraniadau gan aelodau a oedd yn tynnu sylw at y ffyrdd gwahanol mae tlodi data yn effeithio ar bobl, eu bywydau a’u cyfleoedd; a’r cymorth sydd ar gael – ond nad yw’n cael ei ddefnyddio’n eang gan nad oes llawer o bobl yn gwybod amdano.

Ar lefel y DU, mae Ofcom wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar fforddiadwyedd gwasanaethau cyfathrebu, gan gynnwys band eang a data symudol; ac aeth ati i gryfhau’r canllawiau ar ‘drin cwsmeriaid agored i niwed yn deg’.  Mae’n braf gweld Ofcom yn adrodd ar y mater hwn, a hoffem ei weld yn parhau i gryfhau ei rôl fel rheoleiddiwr yn y maes hwn; gan adrodd ar faint o bobl sy’n cofrestru ar gyfer y tariff cymdeithasol a nifer yr aelwydydd sy’n cael eu datgysylltu.

Mae aelodau’r Gynghrair wedi helpu’r elusen Good Things Foundation i lunio canllaw ymarferol byr ar gyfer elusennau a mudiadau lleol o’r enw ‘Supporting people with data connectivity’.  Mae’r canllaw yn llenwi bwlch yn yr wybodaeth a’i nod yw rhoi gwybodaeth i elusennau a mudiadau lleol am sut gallant gefnogi pobl sy’n wynebu tlodi data. Rhoddodd sawl aelod o’r Gynghrair sylwadau ar ddrafftiau cynnar i wneud y canllaw yn glir ac yn ddefnyddiol ac maent bellach yn hyrwyddo’r canllaw drwy eu rhwydweithiau. Mae Good Things Foundation hefyd wedi sefydlu’r National Databank – gall partneriaid lleol y banc data yn awr gael mynediad at gysylltedd data symudol am ddim a gyfrannwyd gan O2, Vodafone a Three felly gallant ddosbarthu’r cymorth hwn i oedolion ac aelwydydd yn eu cymunedau / sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn ac sydd eu hangen.

Mae’r National Device Bank (Good Things Foundation) ac aelodau eraill y Gynghrair yn darparu gwasanaethau sy’n ailgylchu ac yn atgyweirio offer TG ac yna’n eu dosbarthu i bobl mewn angen trwy wahanol fudiadau. Byddem yn annog ein holl aelodau i ystyried rhoi offer i’r gwasanaethau hyn pan maent yn diweddaru offer TG ar draws eu sefydliadau. Mae’r gwasanaethau hyn yn cyfrannu at ateb mwy cynaliadwy i broblem allgáu digidol.

Mae mannau cyhoeddus fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yn parhau i ddarparu mynediad i’r rhyngrwyd i’r bobl hynny na fyddent yn gallu ei fforddio fel arall. Mae Cymunedau Digidol Cymru a Good Things Foundation yn cefnogi llawer o’r mannau cyhoeddus yng Nghymru sy’n darparu’r gwasanaeth hwn a byddai’r Gynghrair yn annog Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y mannau hyn yn aros ar agor a’u bod yn gallu cwrdd â chostau cynyddol contractau cyfleustodau a band eang. Mae cau mannau cyhoeddus fel y rhain yn cael effaith anghymesur ar y bobl hynny sydd eisoes wedi’u hallgáu. Mae aelodau’r Gynghrair wedi cynnig gweithio gyda Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth am gymorth fel tariffau cymdeithasol ar ddisgownt a’r Banc data Cenedlaethol (National Databank) – er mwyn i ragor o bobl fanteisio arnynt yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol a’r pwysau ar filiau’r cartref. Mae Ofcom a Llywodraeth y DU yn galw ar ddiwydiannau ac elusennau i hyrwyddo tariffau cymdeithasol i annog mwy o bobl i fanteisio arnynt.

O ystyried y cyd-destun economaidd eithriadol o heriol sy’n wynebu cymunedau heddiw, dylai mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol fod yn fwy o flaenoriaeth nag erioed. Mae’r Gynghrair yn credu mai’r cam cyntaf yw hyrwyddo’r cymorth sydd eisoes ar gael. Mae angen mwy o waith ymchwil hefyd yn y maes hwn i ddeall yn iawn beth yw cyd-destunau’r bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol oherwydd tlodi data.  Bydd y gwaith i greu Safon Byw Digidol Newydd yng Nghymru (Blaenoriaeth 5), mewn partneriaeth ag aelodau’r Gynghrair, yn cefnogi gwaith y flaenoriaeth hon oherwydd bydd creu’r safon newydd yn gofyn am ragor o ymchwil a dealltwriaeth o’r materion cymhleth sy’n cyfrannu at dlodi data yng Nghymru.

Mae’r Gynghrair mewn sefyllfa dda i weithredu fel darparwr allweddol ar gyfer y flaenoriaeth hon gan ei bod yn gweithredu ar draws sectorau, gyda sefydliadau mawr a bach ar draws y wlad.

Yn ogystal â mynd ati yn y tymor byr i hyrwyddo’r hyn sydd eisoes ar gael i helpu cymunedau yn ystod y cyfnod heriol o’u blaenau, mae’r Gynghrair yn dymuno parhau i weithredu fel rhwydwaith  a llwyfan i ddatblygu rhagor o atebion hirdymor a chynaliadwy yng Nghymru i dlodi data fel cynnwys ffibr lle bo’n bosibl ym mhob prosiect adeiladu tai cymdeithasol.

Canlyniadau Allweddol

  • Cydnabod bod mynediad i’r rhyngrwyd yn gyfleustod hanfodol yng Nghymru, gydag Ofcom yn parhau i gryfhau ei rôl fel rheoleiddiwr wrth adrodd a darparu cymorth i gwsmeriaid, grwpiau a chymunedau agored i niwed.
  • Hyrwyddo’r holl gymorth sydd ar gael mewn ffordd gydlynol a chydweithredol, fel tariffau cymdeithasol ar ddisgownt ar gyfer band eang a data symudol a’r Banc data Cenedlaethol (National Databank).
  • Darpariaeth gyhoeddus am ddim o gysylltiad WiFi hawdd i’w defnyddio a chymorth yn y gymuned ar gyfer cynhwysiant digidol ar draws bob rhan o Gymru.
  • Cydweithio traws-sector yn parhau i ymchwilio a chynllunio atebion hirdymor, cynaliadwy i dlodi data gyda phwyslais penodol ar Gymru.
  • Dylai fod mynediad am ddim a chyfartal i wasanaethau cyhoeddus ar gyfer pawb yng Nghymru. Rhaid inni weithio i ymestyn y sgôr-sero ar rai gwefannau sector cyhoeddus i holl wefannau ac apiau gwasanaethau cyhoeddus digidol a dylent gael eu dylunio i leihau’r defnydd o ddata cymaint â phosibl.

Blaenoriaeth 4 – Blaenoriaethu sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd yn yr economi

Mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar yr economi, yn ogystal ag ar ein cymunedau a’r bobl sy’n byw ynddynt. Yn ogystal â bod yn amser cythryblus i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus, gwnaeth y cyfnodau clo newid y ffordd mae pobl yn gweithio, dysgu a chysylltu. Ceisiodd yr Agenda sicrhau bod gan bawb y sgiliau digidol mae eu hangen arnynt ar gyfer economi Cymru heddiw, gan gydnabod bod yn rhaid i bob ymyriad sgiliau gynnwys hygyrchedd, mynediad a gwasanaethau digidol sydd wedi’u cynllunio’n dda.

Roedd Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn cynnig llwybr ac adnoddau i awdurdodau cyfunol, rhanbarthau dinesig ac awdurdodau lleol greu partneriaethau â sefydliadau eraill (gan gynnwys diwydiannau a’r sector gwirfoddol) sydd â diddordeb mewn prosiectau peilot i gefnogi datblygu sgiliau digidol sylfaenol er mwyn cau’r bwlch sgiliau digidol. Mae nifer o aelodau Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru wedi bod yn gysylltiedig â chefnogi’r gwaith o ddatblygu dulliau er mwyn adeiladu sgiliau digidol sylfaenol yng Nghymru trwy hyn.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin newydd y DU yn llwybr posibl arall i barhau â’r gwaith hwn. Disgwylir y bydd Cynlluniau Gweithredu Rhanbarthol manwl y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi’u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.  Mae’r Gynghrair yn gweithio gyda’r Bargeinion Twf a Rhanbarthau Dinesig i sicrhau bod cynhwysiant digidol yn parhau yn flaenoriaeth yn y ffrwd gyllido hon.

Er mwyn gwella profiad y dysgwr sy’n defnyddio’r fersiynau Cymraeg a Saesneg, mae Good Things Foundation wedi bod yn gweithio gyda chymorth gan raglen tîm Cwmpas CDC ar welliannau i Learn My Way/Dysgu Fy Ffordd I. Cafodd y rhaglen hon ei chreu i gynnig cyrsiau ar-lein am ddim i ddechreuwyr i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau digidol a manteisio i’r eithaf ar y byd ar-lein – yn amrywio o ddefnyddio bysellfwrdd i gymorth ar hawlio Credyd Cynhwysol.

Datblygwyd rhaglen yng Nghymru o’r enw NEWID er mwyn datblygu sgiliau digidol a chynnig cymorth. Mae’r rhaglen yn cael ei chydlynu gan CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, a’i datblygu mewn ymgynghoriad â’r sector gwirfoddol i gael yr effaith fwyaf. Gan fod gan y maes ‘digidol’ yn chwarae rôl eang yng ngwaith y trydydd sector, mae’n hanfodol bod gan sefydliadau fynediad i wybodaeth a chymorth er mwyn eu helpu i ddod i benderfyniadau ynglŷn â sut gall sgiliau digidol ategu’r amrywiaeth o weithgareddau sy’n cael eu cynnal. Mae’r prosiect wedi casglu gwybodaeth gan sefydliadau ar draws Cymru i ddysgu rhagor am eu perthynas â thechnoleg, er mwyn gallu datblygu dulliau sy’n bodloni anghenion y sector. Gwelwyd bod y pandemig wedi arwain at gynnydd enfawr yn y defnydd o dechnoleg ddigidol, ond bod angen cymorth ychwanegol i sicrhau bod hyn yn cyrraedd pawb mewn ffordd hyderus a diogel.

Mae Cymunedau Digidol Cymru, rhaglen ddigidol a gafodd ei chaffael gan Lywodraeth Cymru, a’i chyflenwi gan Cwmpas mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a Good Things Foundation, wedi parhau i ddarparu cymorth digidol am ddim i sefydliadau ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad, sgiliau a hyder i fynd ar-lein a defnyddio technoleg ddigidol yn ddiogel ac mewn ffordd ystyrlon. Ers cyhoeddi’r Agenda ym mis Mawrth 2021, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cynnal archwiliadau sgiliau digidol ag awdurdodau lleol, cyfarwyddiaethau byrddau iechyd, mudiadau’r trydydd sector, darparwyr tai a mudiadau a grwpiau cymunedol eraill yng Nghymru, gan gasglu gwybodaeth am dros 2,600 o aelodau staff a gwirfoddolwyr o fis Chwefror 2023.  Mae archwiliad sgiliau digidol CDC yn seiliedig ar y Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol ac mae’n golygu bod modd defnyddio dull yn seiliedig ar dystiolaeth i feincnodi a gwella sgiliau a hyder digidol. Mae’n golygu y gall sefydliadau gael gwybodaeth yn seiliedig ar ddata am sgiliau a hyder digidol y gweithlu, gan wella eu dealltwriaeth o’r cymorth ac ymyriadau hyfforddiant sydd eu hangen. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu fersiwn ar gyfer staff gofal iechyd, gan weithio gyda CDC i sicrhau aliniad agos ac iaith gyffredin trwy’r llwybrau cymhleth i mewn a thu allan o sectorau gwahanol.

Mae’r Gynghrair wedi hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau digidol yn yr economi heriol yn dilyn Covid ond mae’n gwybod bod angen gwneud llawer mwy i ymateb i heriau parhaus yr her ac wynebu heriau’r dyfodol.

Canlyniadau Allweddol

  • Hyfforddiant sgiliau digidol sylfaenol priodol a pharhaus a meithrin hyder ar gael i bob oedolyn. Mae angen i hyn fod wyneb yn wyneb lle mae angen; nid yw’n ddigon i roi adnoddau dysgu ar-lein a thybio y gall ac y bydd y bobl sydd eu hangen yn gallu cael gafael arnynt ac yn eu defnyddio.
  • Mae cyflogwyr yn cynnal archwiliad sgiliau digidol o weithwyr cyflogedig ar draws Cymru a defnyddio’r data a gesglir i ddod i benderfyniadau yn seiliedig ar y data ynglŷn ag ymyriadau sgiliau digidol.
  • Busnesau a chyflogwyr o bob sector ledled Cymru yn hyfforddi ac yn uwchsgilio eu gweithlu mewn sgiliau digidol craidd.
  • Mae data a gesglir gan fframweithiau galluogrwydd, archwiliadau sgiliau digidol ac ymchwil arall yn arwain at ymrwymiad ariannu sy’n mynd i’r afael â’r rhain, ynghyd ag ymyriadau a gynhyrchir ar y cyd.
  • Bargeinion Twf a Rhanbarthau Dinesig yn gweithio i sicrhau bod cynhwysiant digidol yn parhau yn flaenoriaeth o fewn ffrwd gyllido’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a bod gweithgareddau cynhwysiant digidol yn cael eu cydlynu i osgoi dyblygu.

Blaenoriaeth 5 – Rhoi safon byw digidol gofynnol newydd ar waith

Galwodd yr Agenda am sefydlu Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru. Byddai hwn wedi bod yn safon a gytunwyd ar gyfer yr hyn fyddai’n cael ei gynnwys yn ddigidol, yn unol â’n Nodau Llesiant cenedlaethol.

Roeddem wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ein galwad i sefydlu Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru.

Eleni, mae Cwmpas a Phrifysgol Abertawe wedi sefydlu partneriaeth â Thîm Prosiect Safon Byw Digidol Gofynnol y DU (o Brifysgol Lerpwl, Prifysgol Loughborough, Good Things Foundation a Phrifysgol Dinas Llundain) i gynnal gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn ystyried yr hyn dylai Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru ei gynnwys. Roedd yr ymchwil yn cynnwys adolygiad o’r llenyddiaeth; cyfweliadau ar-lein ac arolwg gyda rhanddeiliaid o bob rhan o’r dirwedd ddigidol yng Nghymru, gan gynnwys aelodau’r Gynghrair. Hefyd, cynhaliodd y tîm grwpiau ffocws ystyriol gydag aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru i brofi ac archwilio pa mor berthnasol yw diffiniad a chynnwys y Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru. Mae canfyddiadau cam cyntaf y gwaith ymchwil ar gael ar-lein.  Mae’r ymchwil i’r Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru yn eistedd ochr yn ochr â’r adroddiad dros dro gan dîm prosiect Safon Byw Digidol Gofynnol y DU sydd wedi canolbwyntio yn y lle cyntaf ar ddatblygu’r safon ar gyfer teuluoedd â phlant.

Diffiniwyd y Safon Byw Digidol Gofynnol yn wreiddiol gan dîm prosiect Safon Byw Digidol Gofynnol y DU fel:

‘Mae safon byw digidol gofynnol yn cynnwys cael mynediad at y rhyngrwyd, offer addas, a’r sgiliau, gwybodaeth a chymorth mae eu hangen ar bobl, a mwy na hyn. Mae’n golygu gallu cyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu â chyfleoedd yn ddiogel ac yn hyderus.’

Roeddem yn gwybod y byddai hon yn dasg gymhleth, ond drwy ddilyn egwyddorion cyd-ddylunio ac ymgysylltu â dinasyddion, roedd yn bosibl gwireddu’r amcan uchelgeisiol. Mae aelodau’r Gynghrair eisoes wedi chwarae rôl allweddol i sefydlu grwpiau ffocws ac wedi cyfrannu at ddatblygu’r gwaith ymchwil hwn. Gan edrych tua’r dyfodol, bydd y Gynghrair yn chwarae rhan arwyddocaol wrth hyrwyddo canlyniadau’r ymchwil a – gyda phartneriaid allweddol eraill –datblygu a gweithredu argymhellion ar gyfer cyflawni hyn yng Nghymru. Yn ystod amseroedd cymdeithasol ac economaidd heriol, bydd y Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru yn adnodd hanfodol i sbarduno gweithredu ac yn helpu i sicrhau bod pawb yn ein cymunedau yn gallu cael gafael ar yr hyn mae ei angen arnynt.

Nid yw cael Safon Byw Digidol Gofynnol yn ddigon ar ei ben ei hun. Bydd ein Cynghrair yn cyflwyno achos dros weithredu canfyddiadau’r ymchwil i’r Safon Byw Digidol Gofynnol ac yn hyrwyddo ei ddefnydd effeithiol fel adnodd i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion ar draws sectorau gwahanol yng Nghymru. Mae hwn yn gam hollbwysig ar y daith i gyflwyno Safon Byw Digidol Gofynnol yng Nghymru a fydd yn creu newid gwirioneddol i’r ffordd mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u darparu, ac rydym eisiau gwella ymwybyddiaeth am y safon a’r rôl y gall chwarae i greu Cymru sy’n gynhwysol yn ddigidol.

Canlyniadau Allweddol

  • Mae’r Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru ar gyfer cartrefi â phlant yw’r catalydd i Lywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil pellach i ddeall goblygiadau’r Safon Byw Digidol Gofynnol ar amrywiaeth o aelwydydd a chymunedau sy’n wynebu allgáu digidol yng Nghymru.
  • Strategaethau traws-sector, polisïau a chamau gweithredu effeithiol yn cael eu datblygu, ynghyd ag ymrwymiad ariannol a gwleidyddol, i roi Safon Byw Digidol Gofynnol ar waith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw aelwydydd yng Nghymru o dan y Safon Byw Digidol Gofynnol fel rhan o’r weledigaeth ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru.

Casgliad

Ers cyhoeddi argraffiad cyntaf O Gynhwysiant i Gydnerthedd, mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru wedi tyfu i gynnwys dros 90 o aelodau ac mae wedi cynnal chwe chyfarfod chwarterol llwyddiannus lle’r oedd nifer da yn bresennol ynghyd â Gweinidogion ac arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru. Roedd y cyfarfodydd yn gyfle i drafod y blaenoriaethau, ynghyd â’r heriau a’r llwyddiannau yn y meysydd hyn, a sefydlwyd partneriaethau a threfniadau cydweithio sydd wedi mynd ymlaen i gynorthwyo Cymru i fod yn wlad fwy cynhwysol yn ddigidol. Mae’r Gynghrair yn bwriadu parhau â’r gwaith hwn, gan rannu gwybodaeth, edrych ar enghreifftiau o arfer da mewn gwledydd eraill, meithrin trefniadau cydweithio a phartneriaethau, gweithio ar draws sectorau a sefydliadau, a chreu amgylchedd lle mae cynhwysiant digidol yn allwedd i wasanaethau da ac yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru.  Mae cyfnod heriol yn ein hwynebu ond bydd y Gynghrair yn ymdrechu i sicrhau bod cynhwysiant digidol yn parhau i gael llawer o sylw gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau ar draws Cymru ac mae’r Gynghrair yn parhau i ddatblygu fel llais effeithiol ac annibynnol ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru.

Atodiad: Gellir dod o hyd i Restr Aelodau CCDC yma [yn agor mewn tab newydd]

Os hoffech chi neu eich sefydliad wybod mwy amdanom ni, neu rydych yn dymuno ymuno â’r mudiad cynhwysiant digidol yng Nghymru, cysylltwch â ni diaw@cwmpas.coop

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn ddiolchgar am y cymorth a gafwyd gan Cymunedau Digidol Cymru a Cwmpas wrth baratoi’r papur hwn.

Cyfeiriadau

1 Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022)
2 Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022)

Lloyds Consumer Index (2021)

3 Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, cyrchwyd ddiwethaf Mawrth 2023
4 Archwilio Cymru (2023) ‘Cynhwysiant digidol yng Nghymru’ a Archwilio Cymru (2023) Cynhwysiant digidol: Cwestiynau allweddol i gyrff cyhoeddus’.
5 Web Accessibility Initiative (2020) Web Content Accessibility Guidelines (WCAG) 2.
6 UK Government(a) (2018) The Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) Accessibility Regulations 2018.
7 Llywodraeth Cymru(a), Sut mae helpu rhywun rydych yn ei adnabod i fynd ar-lein, cyrchwyd ddiwethaf Mawrth 2023.
8 Cymunedau Digidol Cymru, Siarter Cynhwysiant Digidol, cyrchwyd ddiwethaf Mawrth 2023.
9 Llywodraeth Cymru(b) (2021) Strategaeth ddigidol i Gymru, 2021.
10 Hart JT (1971) The Inverse Care Law. The Lancet 297, February 27. Pp 405-12.
11 Betsi Cadwaladr a Cymunedau Digidol Cymru, Betsi Cadwaladr yn rhoi cynhwysiant digidol wrth wraidd gofal iechyd, cyrchwyd ddiwethaf Mawrth 2023.
12 GIG Cymru Gwasanaeth Gwybodeg a Canolfan Cydweithredol Cymru (2019) Canllawiau Cynhwysiant Digidol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru.
13 NESTA (2020) What is Data Poverty?.
14 Iechyd Cyhoeddus Cymru (2022) Argyfwng costau byw: argyfwng iechyd cyhoeddus.
15 Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (2022) Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol, cyrchwyd ddiwethaf Mawrth 2023.
16 Ofcom (2022) Affordability of communications services.
17 Good Things Foundation(a) (2022) Supporting people with data connectivity.
18 Good Things Foundation(b) National Databank, last accessed March 2023.
19 Good Things Foundation(c) National Device Bank, last accessed March 2023.
20 Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2022) Adroddiad Interim.
21 Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2022) Adolygiad o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru.
22 Good Things Foundation(d) Learn My Way, last accessed March 2023.
23 UK Government(b) (2019) Essential Digital Skills Framework.
24 Llywodraeth Cymru(c) (2023) Tuag at y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol: adroddiad terfynol.
25 Llywodraeth Cymru(d) (2022) Tuag at Safon Byw Digidol Gofynnol i Gymru: adroddiad interim.

 

Dyfynnir fel: O Gynhwysiant i Gydnerthedd. Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru. 2il Argraffiad, Mawrth 2023

©Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (2023)