Neidiwch i’r prif gynnwys

Sesiynau sgiliau digidol am ddim

Yn Cymunedau Digidol Cymru rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu cyrsiau hyfforddi cynhwysiant digidol ar-lein, gan gynnwys gweminarau a sesiynau galw heibio digidol a allai fod yn hanfodol i chi a’ch defnyddwyr gwasanaeth wrth symud ymlaen.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Dynes yn gwylio gweminar DCW

Gweler isod fanylion am y sesiynau ar-lein Cymraeg a Saesneg sydd gennym ar y gweill, ynghyd â’r dolenni i gofrestru eich lle arnynt.

Rydyn ni wedi ceisio gwneud y broses arwyddo mor syml â phosib ond os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru, cysylltwch â DCWtraining@cwmpas.coop

Mawrth

AP GIG Cymru: Helpu Eraill i fod Ar-Lein – 5 Mawrth 2024 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Sesiwn hyfforddi i aelodau staff a gwirfoddolwyr i gefnogi pobl i ymgysylltu ag ap GIG Cymru.

Mae Cymunedau Digidol Cymru; Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) mewn partneriaeth â DSPP yn cyflwyno sesiynau hyfforddi Sioe Deithiol Cynhwysiant Digidol er mwyn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i ymgysylltu ag Ap GIG Cymru.

Bydd y sesiwn yn ymdrin â:

  • Helpu pobl i fynd ar-lein a Deall rhwystrau i bobl ymgysylltu ar-lein 
  • Sgiliau a Nodweddion yr ap 
  • Defnyddio nodweddion Hygyrchedd digidol 
  • Bod yn ddiogel ar-lein 

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn AP GIG Cymru yma [agorir mewn tab newydd]

Cyflwyniad i fod yn Bencampwyr Digidol – 7 Mawrth 2024 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Mae Pencampwyr Digidol yn allweddol wrth ddatblygu’r agenda o gynhwysiad digidol ac yn helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau i gynhwysiad digidol drwy agor llwybrau ar gyfer eu cynulleidfaoedd, eu cydweithwyr a’u cleientiaid.

Bydd y sesiwn hon yn pwysleisio pwysigrwydd cynhwysiant digidol ac yn amlinellu rôl Pencampwyr Digidol o fewn yr agenda cynhwysiant.  Byddwn yn:

  • Cyflwyno’r agenda cynhwysiant digidol.
  • Rhoi trosolwg o’r sgiliau digidol hanfodol.
  • Trafod beth mae bod yn Pencampwyr Digidol yn ei olygu, gan gynnwys sgiliau personol a fydd yn cael eu datblygu fel hyrwyddwr.

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn Cyflwyniad i fod yn Bencampwyr Digidol ar-lein yn Saesneg yma [agorir mewn tab newydd]

Offer Digidol i Gefnogi Pobl sy’n Byw gyda Dementia – 13 Mawrth 2024 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Yn y sesiwn hon byddwn yn rhoi trosolwg o sut y gall offer digidol gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia mewn ffordd ddiogel. Datblygwyd y sesiwn hon ynghyd ag Effro sy’n gweithio gyda chymunedau yng Nghymru i newid canfyddiadau o ddementia.

Byddwn ni yn:

  • Cyflwyno’r cymorth sydd ar gael gan Gymunedau Digidol Cymru ac Effro.
  • Trafod gweithgareddau hel atgofion a dull amlsynhwyraidd.
  • Trafod pwysigrwydd cadw’n actif, yn gysylltiedig ag yn annibynnol.
  • Cyflwyno offer digidol i gefnogi byw’n annibynnol a lles.

Gweminar ar y cyd bydd hwn a gynhelir gan Cymunedau Digidol Cymru, gyda siaradwr gwadd o Effro, a fydd yn cynnig cyngor ac arbenigedd ar y pynciau dan sylw.

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn Offer Digidol i Gefnogi Pobl sy’n Byw gyda Dementia yn Saesneg yma [agorir mewn tab newydd]

Darganfod AI yn hyderus: Canllaw i ddechreuwyr ar gofleidio deallusrwydd artiffisial (AI) – 14 Mawrth 2024 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Mewn byd sy’n cael ei siapio fwyfwy gan ddatblygiadau technolegol, mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar flaen y gad o ran arloesi. Ond gall llywio deallusrwydd artiffisial, deall ei gymwysiadau a gwybod ble i ddechrau, fod yn anodd i’r rhai sydd â hyder digidol isel ei ddeall.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • Trafod defnyddiau creadigol ar gyfer deallusrwydd artiffisial a sut i’w ddefnyddio fel offeryn digidol deniadol i rywun sydd newydd ddechrau ar eu taith ddigidol. 
  • Archwilio AI a’i ddefnyddiau mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys cymhorthion cynhyrchiant ac iechyd. 
  • Ystyried goblygiadau Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer diogelwch ar-lein a meddwl yn feirniadol wrth gyrchu gwybodaeth ar-lein. 

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn Darganfod AI yma [agorir mewn tab newydd]

AP GIG Cymru: Helpu Eraill i fod Ar-Lein – 20 Mawrth 2024 | 10:00-11:30

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Sesiwn hyfforddi i aelodau staff a gwirfoddolwyr i gefnogi pobl i ymgysylltu ag ap GIG Cymru.

Mae Cymunedau Digidol Cymru; Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW) mewn partneriaeth â DSPP yn cyflwyno sesiynau hyfforddi Sioe Deithiol Cynhwysiant Digidol er mwyn cefnogi staff a gwirfoddolwyr i helpu eraill i ymgysylltu ag Ap GIG Cymru.

Bydd y sesiwn yn ymdrin â:

  • Helpu pobl i fynd ar-lein a Deall rhwystrau i bobl ymgysylltu ar-lein 
  • Sgiliau a Nodweddion yr ap 
  • Defnyddio nodweddion Hygyrchedd digidol 
  • Bod yn ddiogel ar-lein 

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn AP GIG Cymru yma [agorir mewn tab newydd]

Offer Digidol i Gefnogi Pobl sy’n Byw gyda Dementia – 26 Mawrth 2024 | 14:00-15:30