Neidiwch i’r prif gynnwys

Sgiliau Digidol Hanfodol ar gyfer darparwyr gofal plant

Ydych chi'n poeni am eich sgiliau digidol a'ch hyder eich hun wrth ddefnyddio technoleg? Ydych chi'n teimlo bod angen cymorth ac arweiniad ychwanegol arnoch i gefnogi pobl eraill ar-lein? Mae'r ffordd rydym ni’n gweithio, cadw mewn cysylltiad, a byw ein bywydau o ddydd i ddydd wedi newid yn ystod y misoedd diwethaf.

Rydym wedi gweithio gydag Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru, i lunio cyfres o ganllawiau wedi’u recordio ymlaen llaw a hyfforddiant byw. Byddwn yn rhoi awgrymiadau a syniadau syml i chi ar gyfer defnyddio’r rhyngrwyd ac offer ar-lein i helpu cefnogi bywyd bob dydd eich busnes gofal plant.

Rydym yn falch o gynnig yr adnoddau hyn i chi sy’n ganllawiau fideo cyflym penodol i bwnc, i helpu rhoi hwb i’ch hyder, o greu cyfrif porth y llywodraeth, i gynilion ac uwchlwytho dogfennau!

Cofrestrwch isod i gael mynediad at y recordiadau:

Dyma’r adnoddau presennol sydd ar gael:

  •  Sefydlu cyfeiriad e-bost
  • Diogelwch ar-lein
  • Defnyddio Excel sylfaenol
  • Sut rydych chi’n creu cyfrif defnyddiwr porth y llywodraeth – Ffurflenni Treth CThEM/ Troseddau Corfforaethol
  • Sut i ddychwelyd a mewngofnodi i wefan
  • Defnyddio Google
  • Uwchlwytho dogfennau

Bydd Cymunedau Digidol Cymru (CDC) yn cynnal hyfforddiant byw, a fydd yn cynnwys y pynciau isod. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i chi ddilyn ein sesiwn yn fyw ac i ofyn cwestiynau. Os hoffech fynychu gweminar byw gyda Chymunedau Digidol Cymru, llenwch y ffurflen hon. [agorir mewn fenestr newydd]

Mae’r ffurflen hon i ddeall a fyddai gennych ddiddordeb mewn mynychu sesiwn hyfforddi ar-lein a ddarperir gan Cymunedau Digidol Cymru.

Sesiwn 1: Sgiliau sylfaen

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Sefydlu cyfeiriad e-bost
  • Diogelwch ar-lein – peidio â rhannu cyfrineiriau – beth yw clo clap – mae gen i hwn yn barod.
  • Sut i ddychwelyd ac ail-fewngofnodi i safle/dogfen
  • Defnyddio Google
  • Sut i argraffu/cadw a dychwelyd.

Sesiwn 2: sgiliau canolradd

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Hyrwyddo eu gwasanaeth ar-lein, trwy’r cyfryngau cymdeithasol a gwefan – ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol a’r gymuned?
  • Defnyddio Excel sylfaenol
  • Sut rydych chi’n creu cyfrif defnyddiwr porth y llywodraeth – Ffurflenni TRETH CThEM/ troseddau corfforaethol
  • Uwchlwytho dogfennau – e.e. tynnu lluniau, ffeiliau, sut i ddod o hyd iddynt a’u huwchlwytho.
  • Meintiau uwchlwythiadau gwahanol.

Os oes arnoch angen fwy o wybodaeth, cysylltwch â dcwtraining@cwmpas.coop