Neidiwch i’r prif gynnwys

Sgiliau digidol sylfaenol a hanfodol

A senior woman smiles while holding a mobile phone.Mae gwella sgiliau digidol a hyder yn allweddol i’r cymorth a ddarparwn yn CDC, mae rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol ar gael yma: Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol. Mae’r fframwaith hwn yn nodi’r sgiliau digidol y byddai’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y Rhyngrwyd eu hangen o ddydd i ddydd i wneud y gorau o weithgareddau ar-lein, o siopa ar-lein i ddechrau galwad fideo gyda ffrind neu gydweithiwr. Mae ein hyfforddiant yn ymdrin â llawer o bynciau a themâu trawsbynciol o’r fframwaith, sef:

  • Sgiliau Sylfaen Digidol
  • Cyfathrebu
  • Trin gwybodaeth a chynnwys
  • Trafod
  • Datrys Problemau
  • Bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein

Os hoffech drafod eich anghenion hyfforddi, neu i ddarganfod mwy am y sesiynau sydd gennym i’w cynnig, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm mewn cysylltiad.

Cwrs hyfforddi sgiliau digidol sylfaenol a hanfodol

Rydym yn darparu cwrs hyfforddi sgiliau digidol sylfaenol a hanfodol i sefydliadau a grwpiau gwirfoddol, sy’n darparu sgiliau sylfaenol a chyngor i bobl sydd â diffyg sgiliau digidol neu hyder. Rydym hefyd yn cynnig model ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’, sy’n rhoi’r sgiliau i’r Hyrwyddwyr Digidol yn eich sefydliad gefnogi eich cydweithwyr neu gleientiaid gyda sgiliau digidol.

Gwella eich sgiliau

Mae gan ein partneriaid rhaglen Good Things Foundation ystod o gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim i ddarparu cymorth ac arweiniad ychwanegol gyda sgiliau digidol sylfaenol a hanfodol.

Learn my Way

Gwefan o gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim, i ddechreuwyr, yn helpu i ddatblygu sgiliau digidol i wneud y gorau o’r byd ar-lein.

Adnoddau sgiliau digidol sylfaenol a hanfodol:

[Dolenni’n agor mewn ffenestr newydd]

Learn My Way: Pynciau

Barclays Digital Wings: Our digital courses

GOV.UK: Essential digital skills framework

Good Things Foundation: Cynorthwyo pobl â chysylltedd data

Llyfrgelloedd Cymru

Benthyg Cymru

Ymwadiad: Mae’r apiau a’r gwefanau yr ydym yn ei trafod yma yn bodoli fel opsiynau yn hytrach nac argymhellion. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw broblem y byddwch yn ei brofi yn sgil eich defnydd o’r apiau neu wefanau hyn. Efallai na fydd rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg.