Neidiwch i’r prif gynnwys

Ysbrydoli gweithgareddau digidol

A senior man and woman smile while looking at a mobile device.Gall rhoi ysbrydoliaeth neu fachyn i bobl fynd ar-lein fod yn allweddol i ddatgloi rhyngweithiadau digidol person. Rhwystr rydyn ni’n dod ar ei draws yn aml yw “Nid yw’r Rhyngrwyd i mi” neu “Fyddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau”. Rydym yn canfod mai darparu cyfleoedd i archwilio diddordebau personol ar-lein yw un o’r ffyrdd gorau o ennyn diddordeb pobl a dysgu mwy am y Rhyngrwyd a’r offer digidol sydd ar gael.

Y nod yw i bobl deimlo’n hyderus ac annibynnol, a theimlo eu bod yn cael eu galluogi i ddefnyddio offer digidol er eu lles. I un person, efallai mai deall sut i ofyn i siaradwr craff ddarllen llyfrau sain, chwarae cerddoriaeth neu droi’r golau ymlaen yw’r cyfan sydd ei angen i ddechrau taith ddigidol. I un arall, gall teimlo’n fwy hyderus wrth drin dyfais tabled eu harwain i archwilio’r Rhyngrwyd yn annibynnol ar gyfer gwasanaethau neu weithgareddau.

Os hoffech drafod eich anghenion hyfforddi, neu i ddarganfod mwy am y sesiynau sydd gennym i’w cynnig, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm mewn cysylltiad.

Adnoddau gweithgareddau digidol ysbrydoledig:

[Dolenni’n agor mewn tab newydd]

Casgliad y Werin

BBC: Rewind Reminiscence

BBC: Rewind Music

Borrow Box

YouTube

BFI

Spotify

Amgueddfa Cymru – Cysur Mewn Casglu

Ymwadiad: Mae’r apiau a’r gwefanau yr ydym yn ei trafod yma yn bodoli fel opsiynau yn hytrach nac argymhellion. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw broblem y byddwch yn ei brofi yn sgil eich defnydd o’r apiau neu wefanau hyn. Efallai na fydd rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg.