Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynhwysiant Digidol mewn Iechyd a Gofal yng Nghymru

Mae yna berygl bod chwyldro digidol y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru yn eithrio'r rhai mwyaf agored i niwed, yn ôl adroddiad

Wrth i’r GIG a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru fynd ar drywydd eu hagenda trawsnewid digidol, mae yna berygl gwirioneddol y bydd y dinasyddion hynny y mae arnynt angen gwasanaethau iechyd yn cael eu gadael ar ôl, a hynny oherwydd diffyg mynediad a sgiliau digidol.