Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynnal gwirfoddolwyr digidol yn eich sefydliad

Gall Cymunedau Digidol Cymru helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i ddatblygu a chefnogi gwirfoddolwyr digidol. Rydym yn edrych i roi’r gwirfoddolwyr hynny gyda sefydliadau ledled Cymru, ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat. A allwch chi gyflogi Gwirfoddolwyr Digidol a helpu mwy o bobl i fynd ar-lein?

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Gwirfoddolwr digidol yn helpu pobl hŷn

Pam defnyddio gwirfoddolwyr digidol?

Mae gwirfoddolwyr digidol yn ysbrydoli eraill ac yn eu helpu nhw i fynd ar-lein. Maen nhw’n dangos iddynt sut i wneud tasgau syml fel anfon negeseuon e-bost, defnyddio peiriant chwilio neu bori’r rhyngrwyd.

Gall Cymunedau Digidol Cymru helpu trwy;

  • Helpu grwpiau a sefydliadau i recriwtio Hyrwyddwyr Digidol.
  • Rhoi hyfforddiant i Hyrwyddwyr i wneud y gorau o’u sgiliau.
  • Helpu Hyrwyddwyr i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau cymorth gyda Hyrwyddwyr eraill, i rannu arfer gorau, offer ac awgrymiadau ar gyfer cynhwysiant digidol.

Oes angen cymorth ar eich sefydliad chi?

Ystyriwch y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw a’u cefnogi. A fyddai cymorth gwirfoddolwr digidol o fantais iddyn nhw?

Gwyliwch ein fideo byr am wirfoddoli digidol…