Cystadleuaeth Arwyr Digidol 2018/19
Amlygu llwyddiant Arwyr Digidol ein cenedl
Y flwyddyn academaidd hon (2018/19) gwnaethom lansio ein cystadleuaeth Arwyr Digidol genedlaethol gyntaf erioed. Mae’r gystadleuaeth hon yn hyrwyddo’r gwaith gwirfoddol digidol ardderchog sy’n cael ei gyflawni gan blant 7-11 oed ledled Cymru.
Ers i’r prosiect Cymunedau Digidol Cymru ddechrau yn 2015, rydym wedi helpu i hyfforddi dros 2,500 o Arwyr Digidol i gefnogi eraill yn y gymuned i fynd ar-lein a defnyddio technoleg ddigidol. Rydym yn gwybod pa mor galed y mae ein Harwyr Digidol wedi bod yn gweithio, ac mae’r effaith maen nhw wedi ei chael yn eu cymunedau wedi creu cymaint o argraff arnom fel ein bod wedi penderfynu lansio’r gystadleuaeth hon i arddangos eu gwaith.
Gwahoddom ysgolion sydd wedi cael hyfforddiant drwy gyfrwng ein prosiect Cymunedau Digidol Cymru, i gynhyrchu fideo dwy funud sy’n dangos sut maen nhw wedi rhoi eu sgiliau gwirfoddoli digidol ar waith. Yn y fideo hwn, gofynnom i’n Harwyr Digidol ddweud wrthym:
- Pwy maen nhw wedi eu helpu yn eu cymunedau?
- Sut mae hyn wedi newid eu bywydau mewn ffordd gadarnhaol?
- Pa mor fuddiol oedd y profiad?
- Sut maen nhw wedi gweithio gyda’i gilydd i gyflawni eu bwriad?
Rownd derfynol
- Ysgol Gynradd Gatholig St Julian, Casnewydd
- Ysgol Gynradd Eveswell, Casnewydd
- Ysgol Gynradd Georgetown, Blaenau Gwent
- Ysgol Cwmnedd, Castell-nedd
- Ysgol Santes Fair, Ynys Môn
- Ysgol Pencae, Caerdydd
- Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn, Rhondda Cynon Taf
Yr ysgol sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau’r cyhoedd erbyn y dyddiad cau (Dydd Sul 10 Mawrth), fydd yr ysgol gyntaf i gael ei choroni yn ‘Arch-arwr Digidol 2019’.
Diolch i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.