Dod yn wirfoddolwr digidol
Allech chi helpu rhywun i fynd ar-lein? Mae angen gwirfoddolwyr digidol arnom ni nawr!
Mae angen pobl fel chi arnom ni! Os gallwch chi ddefnyddio’r e-bost neu’r rhyngrwyd, gallech chi ddechrau rôl gyffrous newydd fel Gwirfoddolwr Digidol yn gweithio gyda phobl sy’n brin o sgiliau TG.
Mae’n anodd credu nad yw 11% o oedolion yng Nghymru ar-lein. Mae pobl yn cael eu dal yn ôl oherwydd nad oes unrhyw un wedi dangos iddynt sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd.
A dyna ble byddwch chi’n dod i’r adwy!
Nid oes angen bod yn athrylith TG. Bydd gwybodaeth sylfaenol a hyfforddiant a chymorth gan Gymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn ddigon.
Gyda’ch cymorth chi, gallwn ni newid bywydau pobl.
Rwy’n hoffi cyfarfod â phobl newydd a gweld y pleser ar eu hwynebau pan fyddan nhw’n dysgu i ddefnyddio eu llechi neu ffonau.
Charles, Gwirfoddolwr Digidol o Bont-y-pŵl, Torfaen
Cofrestrais gyda rhaglen Gwirfoddoli Cymunedau Digidol Cymru oherwydd roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r bobl fwyaf bregus yn fy nghymuned leol.
Carole, Gwirfoddolwr Digidol o Landrillo-yn-rhos, Conwy
Mae gwirfoddoli yn ymwneud â grymuso!
Roland, Gwirfoddolwr Digidol o Gwmtyleri, Blaenau Gwent
Sut byddwch chi’n elwa?
Fel Gwirfoddolwr Digidol, byddwch yn newid bywydau pobl – yn helpu iddynt gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, siopa, anfon negeseuon e-bost, ceisio gwaith a chael cymorth budd-daliadau. Ond byddwch chi’n elwa hefyd. Byddwch yn:
- Rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol i’ch helpu chi i ddod o hyd i waith neu i gael eich derbyn i’r brifysgol
- Cael hyfforddiant rhad ac am ddim
Byddwn ni’n eich helpu ac yn eich paru â sefydliad cymunedol, lle bydd eich cymorth yn cael ei werthfawrogi.
Gallwch wirfoddoli mewn ffordd hyblyg a rhoi cymaint o’ch amser ag y dymunwch.
Gwyliwch ein fideo byr am wirfoddoli digidol.
Dod yn wirfoddolwr digidol
Dyma Andy, gwirfoddolwr digidol yn y Porth
Dyma’r gwirfoddolwyr digidol sy’n helpu pobl yn Llangefni
Cysylltwch â ni
I gymryd y camau cyntaf tuag at newid bywydau pobl yn eich cymuned, cliciwch yma i lenwi ein ffurflen ymholi am wirfoddoli, ac fe gysylltwn ni â chi.