Hyfforddiant: Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a digidol
Gwyddom mai’r ffordd orau o gyrraedd y bobl sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl yn y dirwedd ddigidol sy’n newid yn barhaus yw gweithio gyda’r sefydliadau a’r cymunedau sy’n eu cefnogi’n uniongyrchol. Gall cael mynediad, sgiliau, hyder a chymhelliant wella galluoedd defnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg. Gallwn eich helpu i weithio tuag at fwy o bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn elwa o gael y sgiliau digidol, a all wella rhyngweithio cymdeithasol, cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau, a chadw’n ddiogel ar-lein.
Am ragor o wybodaeth am help gyda chynhwysiant digidol i gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, cymorth, neu hyd yn oed sgwrs, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi yn fuan.