Neidiwch i’r prif gynnwys

Iechyd Cyhoeddus Cymru a Prifysgol Bangor: Iechyd y boblogaeth mewn oes ddigidol (2020)

Patrymau o ran y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru

Iechyd y boblogaeth mewn oes ddigidol Patrymau o ran y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru

Dyma ein hail adroddiad yn ein cyfres Iechyd y boblogaeth mewn oes ddigidol ac mae’n canolbwyntio ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r mewnwelediadau hyn yn ein helpu i ddeall yn well i ba raddau y mae pobl yng Nghymru yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, a sut mae patrymau’r defnydd yn amrywio ar draws grwpiau’r boblogaeth.

 

Darllenwch yr adroddiad yma [agorir mewn ffenestr newydd]

Quotation mark

Roedd 76.9% o boblogaeth Cymru 16+ oed yn defnyddio un platfform cyfryngau cymdeithasol neu fwy.

Canfyddiadau'r adroddiad

Quotation mark

Roedd bron pob (99.6%) person ifanc 16-29 oed a chanddo fynediad i’r rhyngrwyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Roedd yr ymgysylltiad â chyfryngau cymdeithasol yn lleihau yn unol â chynnydd mewn oedran, ond parhaodd y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn uchel yn y grwpiau oedran hŷn. Dywedodd tri chwarter (75.6%) y bobl 60-69 oed a thri o bob pump (59.8%) o bobl 70+ oed eu bod yn defnyddio un platfform cyfryngau cymdeithasol neu fwy.

Canfyddiadau'r adroddiad

Quotation mark

Mae gan gyfryngau cymdeithasol y potensial i fod yn offeryn pwysig ar gyfer iechyd y cyhoedd, gan fod cyfran gynyddol o’r boblogaeth yn cyfathrebu drwy rwydweithiau cymdeithasol ar-lein.

Canfyddiadau'r adroddiad